Canllawiau

Pam o dan y ddaear?

Rheoli gwastraff ymbelydrol drwy waredu daearegol

Mae yna gonsensws rhyngwladol mai’r datrysiad parhaol mwyaf diogel er mwyn rheoli gwastraff ymbelydrol gweithgaredd uwch yw gwaredu daearegol, sy’n golygu rhoi’r gwastraff mewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) o dan gannoedd o fetrau o graig gadarn.

Dyma’r dull sydd wedi cael ei ddewis eisoes mewn gwledydd megis Canada, Y Ffindir, Ffrainc, Sweden a’r Swistir. Mae rhai o’r gwledydd yma eisoes ar y ffordd i ddatblygu eu GDFau eu hunain.

Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)

Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)

Sut mae gwaredu daearegol yn gweithio?

Mae gwaredu daearegol yn bosibl diolch i beirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg o’r radd flaenaf. Mae’n cynnwys:

  • ynysu’r gwastraff ymbelydrol mewn claddgelloedd a thwneli wedi’u selio yn ddwfn o dan y ddaear, rhwng 200m a 1000m o dan yr wyneb
  • dal yr ymbelydredd wrth iddo ddadfeilio’n naturiol dros amser
  • atal lefelau niweidiol o ymbelydredd rhag cyrraedd yr wyneb

Mae gwastraff ymbelydrol solid yn cael ei becynnu mewn cynwysyddion diogel wedi’u peiriannu, sydd wedi eu gwneud fel arfer o fetel neu goncrid, ac yna maent yn cael eu gosod mewn ffurfiant craig sefydlog gannoedd o fetrau o dan yr wyneb, ac mae’r cynwysyddion yn cael eu claddu mewn clai neu sment. Gelwir hyn yn ddull aml-rwystr.

Y cysyniad aml-rwystr

Y cysyniad aml-rwystr

Hefyd, mae defnyddio GDF yn golygu:

  • nid oes angen gwaith cynnal a chadw parhaus
  • mae’n llai agored na storio ar yr wyneb i weithgaredd pobl megis terfysgaeth neu ryfel
  • mae’n llai agored na storio ar yr wyneb i brosesau naturiol megis newid yn yr hinsawdd

Gwyliwch ein fideo sy’n dangos sut fydd GDF yn cael ei weithredu.

Mae’r llithrydd llinell amser isod yn defnyddio WAI ARIA. Defnyddiwch y ddogfen ar gyfer eich darllenydd sgrin i gael mwy o wybodaeth.

Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) - Fersiwn 360

Ar ôl gosod y gwastraff mewn GDF yn ddwfn o dan y ddaear ac ymhell oddi wrth bobl a’r amgylchedd, bydd yn cael ei selio’n barhaol maes o law er mwyn sicrhau diogelwch, ac ni fydd angen gwneud dim mwy.

Y datrysiad mwyaf diogel

Diogelwch yw ein blaenoriaeth absoliwt. Wrth adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol rydym yn gweithio ar sicrhau y bydd y risg fydd yn deillio o’r GDF yn llai na thebygolrwydd o un mewn miliwn i bobl ddioddef problemau iechyd ar unrhyw adeg yn y dyfodol. (Ffynhonnell: Canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar Ofynion Awdurdodi Gwaredu Daearegol, 2009)

Mae dewisiadau amgen wedi cael eu hystyried yn ofalus ac rydym yn parhau i adolygu opsiynau. Ar hyn o bryd, mae pob un naill ai ddim yn dechnolegol bosibl (er enghraifft: troi’r gwastraff yn ddeunydd anymbelydrol), ddim yn amgylcheddol ddiogel (er enghraifft; gwaredu yn y môr neu mewn llenni ia), neu’n rhy beryglus i’w gweithredu (er enghraifft: tanio’r gwastraff i’r gofod mewn rocedi).

Dulliau gwaredu gwastraff anaddas

Dulliau gwaredu gwastraff anaddas

Y camau nesaf

Rydym yn chwilio am safle addas i weithredu gwaredu daearegol yn ddiogel, sydd â chymuned barod fydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda ni, fel rhan o weledigaeth gytûn ar gyfer y dyfodol.

Bydd y gwaith o gynllunio gwaredu daearegol yn cymryd rhwng 15 ac 20 mlynedd. Bydd rheoleiddwyr annibynnol yn sicrhau y bydd yr holl brosesau’n cael eu dilyn yn briodol. Dim ond ar ôl hynny y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau.

Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

A oes gennych gwestiwn?

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae ein gwyddonwyr a’n peirianyddion yn barod i ateb unrhyw ymholiadau technegol. E-bostiwch ni yn gdfenquiries@nda.gov.uk

Er mwyn deall yn well beth fydd yn cael ei roi mewn GDF, sut fydd yn edrych a beth yw’r dull aml-rwystr, darllenwch fwy yn y ffeiliau gwyddoniaeth isod y gellir eu lawrlwytho.

Y ffeiliau gwyddoniaeth

Beth fydd yn cael ei roi mewn GDF?

Y dull aml-rwystr

Sut fydd GDF yn edrych?

Cyhoeddwyd ar 25 January 2018