Proses ar gyfer allforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, a wneir drwy feithrin celloedd, o Brydain Fawr i wledydd y tu allan i’r UE
Map o’r broses ar gyfer allforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO), a wneir drwy feithrin celloedd, o Brydain Fawr i wledydd y tu allan i’r UE. Llwybr at gydymffurfiaeth reoleiddiol.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Crynodeb
Mae cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd anifeiliaid yn cael eu hystyried yn gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) at ddibenion rheoleiddiol, a hynny’n unol â chanllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ar ddosbarthu ac egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP), er nad oes deddfwriaeth sy’n nodi’r dosbarthiad hwn yn benodol.
Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r camau y dylech chi eu dilyn i allforio POAO a wneir drwy feithrin celloedd o Brydain Fawr i wledydd y tu allan i’r UE. Mae’n cyfeirio at wybodaeth bellach i’ch helpu drwy’r broses.
Rydyn ni hefyd yn argymell eich bod chi’n darllen y canllaw cam wrth gam llawn ar sut i allforio o’r DU.
Mae’r canllawiau hyn yn disgrifio’r broses ar gyfer allforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, sy’n deillio o gelloedd anifeiliaid, o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Ceir cyfeiriadau at y DU lle bo gofynion perthnasol yn gymwys ar draws holl wledydd y DU.
Oherwydd bod gofynion rheoleiddiol gwahanol yn gallu bod yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor, os ydych chi’n fusnes sy’n bwriadu allforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd o Ogledd Iwerddon, dylech chi ofyn am gyngor ar y gofynion sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau.
Ar hyn o bryd, nid yw cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn cael budd o ddosbarthiadau iechydol a ffytoiechydol (SPS) sydd wedi’u cydnabod yn rhyngwladol na threfniadau ardystio allforion sefydledig. O ganlyniad, yn wahanol i lawer o gynhyrchion traddodiadol sy’n deillio o anifeiliaid, nid oes templedi ardystio allforion safonol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn benodol.
Er bod y map proses hwn yn tynnu ar y gofynion sydd fel arfer yn berthnasol i POAO, mae ceisiadau am allforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn debygol o gael eu hasesu fesul achos ac efallai y bydd angen ymgysylltu ag awdurdodau cymwys gwlad y gyrchfan i bennu’r gofynion perthnasol o ran mewnforio, ardystio a mynediad i’r farchnad.
Mae’r map proses yn ymwneud â chynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd sy’n cael eu hallforio o Brydain Fawr i’w gosod ar y farchnad mewn awdurdodaethau y tu allan i’r UE. Yn dibynnu ar fframwaith rheoleiddiol gwlad y gyrchfan, efallai y bydd angen awdurdodi’r cynnyrch fel bwyd newydd, neu fath arall o gymeradwyaeth, cyn rhoi’r cynnyrch ar y farchnad.
Dosbarthiad rheoleiddiol
Nid yw cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn cael eu diffinio fel ‘cig’. At ddibenion rheoleiddiol, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn ystyried cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, sy’n deillio o gelloedd anifeiliaid, yn rhai sy’n dod o fewn cwmpas POAO, er nad yw Rheoliad (CE) 853/2004 yn eu dosbarthu’n benodol felly.
Gwnaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban gyhoeddi’r safbwynt hwn ym mis Rhagfyr 2025, yn y canllawiau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd: dosbarthu ac egwyddorion HACCP. Mae’n berthnasol i gynhyrchion a reoleiddir ym Mhrydain Fawr. Gallai gwledydd eraill rydych chi’n allforio iddyn nhw roi dosbarthiadau gwahanol at ddiben eu rheolaethau mewnforio eu hunain a mynediad i’r farchnad.
Pan fyddwch chi’n cynaeafu biomas a wneir drwy feithrin celloedd (hynny yw, celloedd wedi’u cynaeafu o’r bioadweithydd), mae hyn yn cyfrif fel ei brosesu. Mae hyn yn golygu bod cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn cyfrif fel POAO wedi’u prosesu neu gynhyrchion cyfansawdd. Cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban y safbwynt hwn ym mis Gorffennaf 2026, yn y canllawiau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd: gofynion hylendid ar gyfer busnesau bwyd.
Deddfwriaeth
Dyma’r prif reoliadau sy’n gymwys yn y DU:
-
Rheoliad (UE) 2015/2283 – bwydydd newydd
-
Rheoliad (CE) 853/2004 – hylendid bwyd sy’n dod o anifeiliaid
-
Rheoliad (CE) 852/2004 – hylendid bwyd cyffredinol
-
Rheoliad (CE) 178/2002 – Cyfraith Bwyd Gyffredinol
-
Rheoliad (UE) 2017/625 – rheolaethau swyddogol
-
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol 2011 (OS Rhif 1197/2011)
-
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (OS Rhif 2011/2379)
-
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Yr Alban) 2011 (OSA 2012, Rhif 177)
Map proses: allforio POAO a wneir drwy feithrin celloedd o Brydain Fawr i wledydd y tu allan i’r UE
Mae’r map proses hwn yn amlinellu’r camau y dylech chi eu dilyn i allforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, sy’n cael eu cynhyrchu ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), i wledydd eraill.
Efallai y bydd gofynion gwahanol yn berthnasol os ydych chi’n allforio o Ogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor, ac mae gofynion gwahanol yn berthnasol yn dibynnu a ydych chi’n allforio i’r UE neu Ogledd Iwerddon.
Mae gofynion mewnforio ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn datblygu’n rhyngwladol ac yn amrywio rhwng gwledydd. Dylech chi bob amser wirio’r gofynion presennol â’r awdurdod cymwys yng ngwlad eich cyrchfan cyn i chi allforio cynnyrch.
Bwriad y ddogfen hon yw rhoi trosolwg enghreifftiol o ofynion a phrosesau allforio posib. Nid yw’n disodli’r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau swyddogol a gyhoeddwyd gan awdurdodau cymwys na chyngor cyfreithiol annibynnol. Pe bai anghysondeb o unrhyw fath rhwng y ddogfen hon a’r ddeddfwriaeth gymwys neu ofynion gwlad y gyrchfan, bydd y ddeddfwriaeth a gofynion gwlad y gyrchfan yn cael blaenoriaeth.
Mae llwybrau allforio ar gyfer y cynhyrchion hyn yn dal i gael eu datblygu a’u profi, felly efallai y bydd rhai camau’n newid wrth i ni ennill profiad ac wrth i systemau allforio gael eu sefydlu. Nid yw dilyn y broses hon yn gwarantu y byddwch chi’n gallu allforio cynnyrch, y bydd ardystiad ar gael, neu y bydd gwlad eich cyrchfan yn rhoi caniatâd i chi fewnforio eich cynnyrch.
Mae gofynion allforio’n dibynnu ar gyfreithiau ac amodau mewnforio gwlad eich cyrchfan, yn ogystal â phenderfyniadau gan yr awdurdodau cymwys perthnasol.
Wrth i’r llwybrau allforio ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd gael eu profi, bydd adborth gan y diwydiant ar y canllawiau hyn yn ein helpu i’w mireinio a’u diweddaru lle bo angen. Cysylltwch ag exported.food@food.gov.uk os oes gennych wybodaeth y byddai’n ddefnyddiol ei hychwanegu at y map proses.
Cam 1: Gwirio cymhwystra gwlad y gyrchfan a mynediad i’r farchnad
Mae’n rhaid i chi a’r mewnforiwr yng ngwlad eich cyrchfan weithio gyda’ch gilydd i wirio a allwch chi fewnforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd i’r wlad honno.
Cadarnhewch fod gwlad eich cyrchfan yn derbyn cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Nid yw cydymffurfio â chyfraith y DU yn golygu bod gennych chi’r hawl i allforio. Ym Mhrydain Fawr, rydyn ni’n dosbarthu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd fel POAO, sy’n cyd-fynd â dosbarthiad presennol yr UE. Efallai y bydd gwledydd eraill yn dosbarthu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn wahanol.
Pan fyddwch chi’n gwirio hyn, ystyriwch y canlynol:
-
a ganiateir mewnforio a gwerthu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
-
sut mae gwlad eich cyrchfan yn dosbarthu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd at ddibenion mewnforio
-
a yw gwlad y gyrchfan wedi cyhoeddi amodau mewnforio swyddogol
-
a oes trefniadau’n bodoli ar gyfer mynediad i’r farchnad
Gweler y canllawiau allforio ar gyfer y wlad dan sylw.
Gallwch chi hefyd gyflwyno ymholiad allforio ar-lein.
Mae’n rhaid sefydlu mynediad i’r farchnad er mwyn gallu allforio cynnyrch. Gall busnesau gychwyn ceisiadau am fynediad i’r farchnad, tra bo trafodaethau ffurfiol ar ofynion mewnforio yn cael eu cynnal, yn gyffredinol, rhwng awdurdodau cymwys y gwledydd allforio a mewnforio.
Os nad yw mynediad i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd wedi’i sefydlu hyd yn hyn, cysylltwch â’r tîm perthnasol yng Nghanolfan Masnach Ryngwladol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Gallan nhw roi cyngor i chi ynghylch a oes angen ymgysylltu rhwng llywodraethau’r gwahanol wledydd i gadarnhau amodau mewnforio.
Canllawiau cysylltiedig
Cael help gyda’ch ymholiad allforio.
Cam 2: Cadarnhau cymhwystra sefydliad ym Mhrydain Fawr
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich sefydliad cynhyrchu ym Mhrydain Fawr yn cydymffurfio â’r gofynion cyfraith bwyd sy’n gymwys ym Mhrydain Fawr, yn ogystal ag unrhyw ofynion sydd wedi’u gosod gan wlad y gyrchfan. Ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid i sefydliadau, sy’n cynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, gael eu cofrestru fel busnesau bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol.
Efallai y bydd gwledydd cyrchfan hefyd yn gofyn bod eich sefydliad wedi’i gofrestru, ei restru neu ei gymeradwyo ar gyfer allforio i’w marchnadoedd. Mae’r gofynion hyn ar wahân i’r broses o gofrestru busnesau bwyd ym Mhrydain Fawr ac yn amrywio rhwng yr awdurdodaethau.
Dylech chi wneud y canlynol:
-
cofrestru eich busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol
-
cadarnhau a yw’ch sefydliad yn cynnal unrhyw weithgareddau sy’n destun gofynion ychwanegol o ran cymeradwyo neu awdurdodi
-
gwirio a yw’ch sefydliad cynhyrchu’n bodloni gofynion allforio gwlad y gyrchfan
-
gwirio’r gofynion hynny’n uniongyrchol ag awdurdod cymwys gwlad y gyrchfan
Deddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig
Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd: gofynion hylendid ar gyfer busnesau bwyd.
Rheoliad (CE) 178/2002, Erthyglau 12 (Bwyd a bwyd anifeiliaid a allforir o’r Gymuned) ac 17 (Cyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd).
Cam 3: Cadarnhau cymhwystra’r cynnyrch a’r gofynion SPS
Gwiriwch fod eich cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd yn bodloni gofynion gwlad y gyrchfan o ran mewnforio, marchnata, ardystio ac SPS.
Efallai y bydd eich llwyth yn destun rheolaethau swyddogol y mae’r awdurdod cymwys yn eu cynnal o dan Reoliad (UE) 2017/625, os yw’r rheolaethau hyn yn berthnasol i’r cynnyrch a’r sefydliad dan sylw.
Yn ogystal, mae’n rhaid i’r llwyth gydymffurfio â gofynion gwlad y gyrchfan, a allai osod gofynion gwahanol neu ychwanegol o ran arolygiadau neu ddogfennau.
Gwirio’r gofynion o ran awdurdodi cynnyrch
Dylech chi gysylltu ag awdurdod cymwys gwlad y gyrchfan i gadarnhau’r canlynol:
-
pa fath o awdurdodiad sydd ei angen arnoch chi ar gyfer marchnata bwyd, neu ba fath o gymeradwyaeth sydd ei hangen arnoch chi ar gyfer bwyd newydd, GMO (os yw’n berthnasol), treialon blasu neu gymeradwyaeth gyfatebol
-
a yw eich cynnyrch yn destun unrhyw reolaethau mewnforio, ar gyfer nwyddau penodol, y mae gwlad y gyrchfan yn eu cynnal
Gwirio’r gofynion cydymffurfio ar gyfer y cynnyrch
Dylech chi wneud y canlynol:
-
dysgu beth yw gofynion SPS gwlad y gyrchfan, oherwydd bod angen i swyddogion wirio’r rhain yn y wlad tarddiad neu’r man dosbarthu, gan gynnwys statws eich datganiad ac unrhyw risgiau sydd wedi’u hamlygu
-
dilyn unrhyw ofynion y mae gwlad y gyrchfan yn eu gosod o ran olrhain a chadw cofnodion, yn ogystal â gofynion o ran ardystio, awdurdodi’ch cynnyrch neu drwyddedau mewnforio
-
gwirio am unrhyw gyfyngiadau neu fesurau diogelu sy’n effeithio ar eich nwyddau
Gwirio’r gofynion o ran labelu a marchnata
Dylech chi wirio’r canlynol:
-
gofynion gwlad y gyrchfan o ran labelu
-
unrhyw ofynion perthnasol o ran labelu sy’n benodol i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
Paratoi tystiolaeth ategol
Dylech chi wneud y canlynol:
-
cael tystiolaeth yn barod ar gyfer gofynion gwlad y gyrchfan o ran cael sicrwydd, tystio neu ardystio
-
gwneud yn siŵr bod eich cynnyrch yn bodloni deddfwriaeth hylendid a diogelwch bwyd ym Mhrydain Fawr, pan fo’r wlad sy’n mewnforio’r cynnyrch yn gofyn am hyn
Deddfwriaeth gysylltiedig
-
Rheoliad (UE) 2017/625, Erthygl 1.3 (Pwnc a chwmpas)
-
Rheoliad (CE) 178/2002, Erthyglau 12 (Bwyd a bwyd anifeiliaid a allforir o’r Gymuned) ac 17-19 (Cyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd)
Cam 4: Ardystiad iechyd allforio (os yw gwlad y gyrchfan yn gofyn am hyn)
Dysgwch a yw gwlad y gyrchfan yn gofyn am Dystysgrif Iechyd Allforio (EHC) neu ardystiad swyddogol arall, neu cadarnhewch nad yw’n gofyn am unrhyw ardystiad sydd wedi’i gyhoeddi gan y llywodraeth.
Os oes angen ardystiad swyddogol arnoch chi, sicrhewch fod gennych chi’r dystysgrif berthnasol cyn i chi allforio. Rydyn ni’n cyhoeddi Tystysgrifau Iechyd Allforio o dan drefniadau ardystio allforion y DU. Mae’r gofynion penodol rydyn ni’n eu hardystio’n ymwneud â chynhyrchion a wneir ym Mhrydain Fawr, a gall y gofynion hyn fod yn wahanol yn dibynnu ar wlad y gyrchfan.
Dysgu pa ardystiad sydd ei angen arnoch chi
Os yw gwlad y gyrchfan yn gofyn am ardystiad swyddogol, cysylltwch ag awdurdod canolog y wlad fewnforio i ddysgu am ei gofynion ardystio.
Os oes angen Tystysgrif Iechyd Allforio arnoch chi, dylech chi wneud y canlynol:
-
dysgu am y gofynion penodol o ran Tystysgrifau Iechyd Allforio gan awdurdod canolog y wlad fewnforio
-
gwirio a ydyn nhw’n cyfateb i unrhyw ardystiadau presennol
-
os nad ydyn nhw, gofyn i APHA ddrafftio ardystiad newydd (gweler ‘Os nad oes Tystysgrif Iechyd Allforio’n bodoli eisoes ar gyfer eich cynnyrch na gwlad eich cyrchfan’ isod)
Os byddwch chi’n symud cynhyrchion o fewn Prydain Fawr cyn eu hallforio
Efallai y bydd angen tystiolaeth iechyd ategol arnoch chi er mwyn cael y sicrwydd angenrheidiol os byddwch chi’n symud cynhyrchion o’ch safle cynhyrchu cyn eu dosbarthu.
Os nad oes Tystysgrif Iechyd Allforio’n bodoli eisoes ar gyfer eich cynnyrch na gwlad eich cyrchfan
Cysylltwch ag APHA gan ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Cael help gydag iechyd anifeiliaid a phlanhigion’ i ddarparu’r gofynion mewnforio a gofyn am Dystysgrif Iechyd Allforio newydd.
Fel arfer, bydd angen i chi lenwi holiadur sy’n dangos cyfaint a gwerth disgwyliedig eich masnach allforio i’r gyrchfan.
Mae drafftio a chytuno ar Dystysgrifau Iechyd Allforio gydag awdurdodau mewnforio yn gymhleth a gall gymryd amser hir. Nid yw’r broses hon bob amser yn golygu y cewch chi fasnachu, ac mae’r canlyniadau’n dibynnu ar y wlad, y nwyddau a’r amodau mewnforio a ddarperir.
Cael help pellach
Gallwch chi ddod o hyd i ganllawiau cyffredinol ar allforio bwyd, diod a chynhyrchion amaethyddol o Brydain Fawr.
Deddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig
-
Rheoliad (UE) 2017/625, Teitl II, Pennod VII, Ardystiad Swyddogol (Ardystio allforion)
Cam 5: Y system datganiadau tollau (CDS)
Cyflwynwch eich datganiadau allforio i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r System Datganiadau Tollau (CDS).
Bydd CThEF yn gwirio’r canlynol:
-
codau eich nwyddau – i gadarnhau cod nwyddau, gwnewch gais am Ddyfarniad Tariffau Ymlaen Llaw (ATaR)
-
y dyletswyddau, y rheolau a’r cyfyngiadau sy’n berthnasol yng ngwlad y gyrchfan
Gweithdrefn allforio
Dylech chi wneud y canlynol:
-
Gwiriwch fod gennych rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) o Brydain Fawr. Os nad oes gennych chi un, gwnewch gais i CThEF. Bydd angen i chi roi eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), rhif TAW (os ydych chi wedi cofrestru) a manylion y busnes. Mae cymeradwyaeth yn cymryd hyd at 5 diwrnod gwaith. Os ydych chi’n defnyddio asiant tollau, efallai y bydd ganddo ei rif EORI ei hun.
-
Agorwch gyfrif CDS drwy Borth y Llywodraeth, oni bai eich bod chi’n defnyddio asiant tollau neu feddalwedd dollau sydd â CDS integredig.
-
Rhowch yr wybodaeth ganlynol: cod eich nwyddau (hynny yw, cod HS), disgrifiad o’r nwyddau, eu gwerth a’r arian cyfred, eu pwysau a’u maint, gwlad tarddiad y nwyddau, manylion yr allforiwr a’r mewnforiwr, termau masnachol rhyngwladol neu ‘incoterms’ (er enghraifft, EXW, FOB, DDP), manylion cludo, a’ch Tystysgrif Iechyd Allforio neu ardystiad arall sy’n ofynnol gan wlad y gyrchfan. Gwerthwr a phrynwr y nwyddau sy’n cytuno ar y termau masnachol rhyngwladol, ac maen nhw’n nodi ar ba bwynt y mae’r risgiau a’r costau allforio yn trosglwyddo o’r gwerthwr i’r prynwr.
-
Cyflwynwch eich datganiad allforio. Bydd CDS yn cyhoeddi Cyfeirnod Symud (MRN), sef eich ID unigryw ar gyfer y llwyth. Bydd angen hwn arnoch chi er mwyn olrhain y nwyddau, cysylltu â systemau porthladdoedd, a dangos prawf o’r allforion.
-
Os oes angen, nodwch eich MRN yn y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS) i gael Cyfeirnod Symud Nwyddau (GMR). Bydd angen hwn arnoch chi er mwyn gallu mynd ar fferi neu drên.
-
Cyflwynwch eich nwyddau i’w clirio wrth y man ymadael.
Cam 6: Rheoli tymheredd a chludo
Mae’n rhaid i chi gynnal y tymheredd yn gyson wrth gludo’r nwyddau. Dilynwch holl ofynion deddfwriaethol y DU, a gwiriwch a oes gan wlad y gyrchfan ofynion ychwanegol.
Dylech chi wneud y canlynol:
-
oeri eich cynhyrchion i’r tymheredd mewnol gofynnol cyn eu hallforio
-
cynnal y tymheredd hwn drwy gydol y daith
-
defnyddio cerbydau cludo wedi’u hoeri neu gynwysyddion sy’n addas ar gyfer eich nwyddau
-
monitro a chofnodi tymereddau yn ystod y daith
-
gwirio eich bod chi’n bodloni gofynion gwlad y gyrchfan o ran y gadwyn oer
-
gwirio a oes angen i chi gofrestru gyda’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS) – er enghraifft, wrth symud nwyddau drwy borthladdoedd gan ddefnyddio modelau cyflwyno ymlaen llaw (mae’r GVMS yn cysylltu eich datganiad tollau â dogfennau cludo ac yn creu Cyfeirnod Symud Nwyddau)
-
gwirio bod modd i wlad y gyrchfan storio’ch llwyth ar dymheredd oer neu wedi’i rewi, lle bo hynny’n berthnasol
Deddfwriaeth gysylltiedig
-
Rheoliad (CE) 852/2004, Pennod II, Erthygl 3: rheoli tymheredd, gofynion cyffredinol; ac Erthygl 5: HACCP
-
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (OS 2006/31 (W.5)), Atodlen 4
-
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Yr Alban) 2006 (OSA 2006, Rhif 3), Atodlen 4
Cam 7: Cydymffurfio â gofynion labelu a phecynnu
Gwnewch yn siŵr bod eich labeli’n bodloni gofynion gwlad y gyrchfan.
Dylech chi wneud y canlynol:
-
bodloni gofynion y DU o ran labelu – yn unol â Rheoliad a gymathwyd (UE) 1169/2011
-
cynnwys labeli sy’n benodol i fwyd newydd, os yw’ch awdurdodiad yn gofyn am hyn
-
dilyn gofynion gwlad y gyrchfan o ran defnydd iaith ar labeli, eu fformat a’u cynnwys
-
defnyddio deunydd pecynnu sy’n diogelu uniondeb eich cynnyrch drwy gydol y daith
Deddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig
-
Deddf Bwyd (Yr Alban) 2015
-
Rheoliad (UE) 1169/2011 (Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr)
-
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (OSC 2014/2303 (W.227)), Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 (OS 2014/1855) (Lloegr), a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Yr Alban) 2014 (OSA 2014/312)
Cam 8: Dogfennau ac olrhain
Dylech chi baratoi pecyn dogfennau cyflawn. Dylai gynnwys y canlynol:
-
Tystysgrif Iechyd Allforio neu ardystiad cyfwerth
-
anfoneb fasnachol a rhestr becynnu
-
cofnodion olrhain, fel sy’n ofynnol o dan Reoliad (CE) 178/2002, Erthygl 18
-
dogfennau HACCP a chofnodion cynhyrchu
-
cofnodion monitro tymheredd ar gyfer y gadwyn oer
-
unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae gwlad y gyrchfan yn gofyn amdanyn nhw
Deddfwriaeth gysylltiedig
-
Rheoliad (CE) 178/2002, Erthygl 18 (Olrheiniadwyedd)
-
Rheoliad (UE) 2017/625, Erthygl 87 (Ardystiadau swyddogol)
Cam 9: Cydymffurfio â gofynion o ran dosbarthu a’r gyrchfan
Pan fydd eich llwyth yn gadael Prydain Fawr, dylech chi wneud y canlynol:
-
anfon yr holl ddogfennau angenrheidiol gyda’r llwyth
-
cadw cynhyrchion ar y tymheredd cywir drwy gydol y broses allforio
-
deall y gallai gwlad y gyrchfan gynnal arolygiadau a gwiriadau wrth y ffin
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cynnyrch yn bodloni gofynion gwlad y gyrchfan, gan gynnwys cael unrhyw Dystysgrifau Iechyd Allforio gofynnol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill.
Mae’r mewnforiwr yng ngwlad y gyrchfan yn gyfrifol am drin y nwyddau’n unol â gofynion y wlad honno o ran cadw dogfennau a marchnata, a’i gofynion mewnforio eraill.
Dylech chi gadw cofnodion allforio at ddibenion olrhain.
Yn dibynnu ar eich trefniadau, y gweithredwr busnes bwyd, y gweithiwr sy’n anfon nwyddau ymlaen neu’r asiant sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd hyd nes bo’r nwyddau’n cyrraedd pen eu taith.
Unwaith y bydd eich nwyddau wedi ymadael â Phrydain Fawr, bydd y statws yn y CDS yn diweddaru i “Wedi ymadael”. Wedyn, gallwch chi lawrlwytho’r Ddogfen Ategol i’r Allforion (EAD).
Deddfwriaeth gysylltiedig
- Rheoliad (CE) 178/2002, Erthygl 17 (Cyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd)