Skip to main content
Canllawiau

Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd: gofynion hylendid ar gyfer busnesau bwyd

Canllawiau ar gymhwyso Cyfraith Bwyd Gyffredinol a rheoliadau hylendid i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd.

Dogfennau

Manylion

Rhagymadrodd

Mae cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (‘cell-cultivated’) (CCPs) yn cwmpasu amrywiaeth o fwydydd y gellir eu gwneud trwy ddefnyddio proses gynhyrchu heb ladd anifeiliaid neu heb ddilyn arferion ffermio ac amaethyddol traddodiadol. Mae celloedd sydd wedi’u harunigo (‘isolated’) o anifeiliaid neu blanhigion – gan gynnwys celloedd o gig, bwyd môr, braster, offal, neu wyau wedi’u ffrwythloni – yn cael eu tyfu mewn amgylchedd rheoledig, ac yna’n cael eu cynaeafu i wneud cynnyrch bwyd terfynol.

Drwy’r rhaglen blwch tywod ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd – sy’n cael ei chynnal rhwng mis Chwefror 2025 a mis Chwefror 2027 – mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn gwella ein dealltwriaeth o CCPs sy’n deillio o anifeiliaid, gan greu canllawiau ar ystod o bynciau sy’n berthnasol i’r cynhyrchion hyn. Wrth i ni gasglu mwy o wybodaeth drwy’r rhaglen blwch tywod ar CCPs fel cynhyrchion rheoleiddiedig, byddwn yn datblygu a chyhoeddi canllawiau pellach i helpu busnesau i ddeall sut mae rheoliadau bwyd yn berthnasol i’w cynhyrchion.

Statws cyfreithiol y canllawiau

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu dehongliad yr ASB ac FSS o’r gofynion cyfreithiol ac nid yw’n gyfystyr â dehongliad awdurdodol o’r gyfraith. Maent wedi’u creu i roi arweiniad ar y gofynion cyfreithiol ar gyfer cynhyrchu CCPs, a dylid eu darllen ynghyd â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am gydymffurfio â chyfraith bwyd. Ni all y ddogfen ganllaw hon gynnwys pob senario, ac argymhellir eich bod chi’n ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol i ddeall sut mae’n gymwys i’ch amgylchiadau chi. Nid oes rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn. Gall ffyrdd eraill o ddilyn y gyfraith fod yr un mor ddilys.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2026

Argraffu'r dudalen hon