Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd: gofynion hylendid ar gyfer busnesau bwyd
Cyhoeddwyd 10 Gorffennaf 2026
1. Trosolwg o’r canllawiau
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer busnesau bwyd i’w defnyddio ar y cyd â chanllawiau blaenorol a gyhoeddwyd yn gynharach yn y rhaglen ar ddosbarthu CCPs ac egwyddorion HACCP, sy’n cynnwys y ffaith bod cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs) yn cael eu diffinio fel cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO).
Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu i helpu busnesau perthnasol i ddeall a chymhwyso gofynion y rheoliadau hylendid wrth gynhyrchu CCPs ym Mhrydain Fawr yn unig. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol sy’n gymwys, a’r hyn y mae’n ei olygu i weithredwyr busnesau bwyd sy’n cynhyrchu CCPs, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd (wrth fagu anifeiliaid ffynhonnell y cesglir biopsïau ohonynt).
Mae’r canllawiau CCP hyn yn egluro’r gofynion hylendid ar gyfer POAO o dan Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ac yn ymwneud ag ystyriaethau rheoleiddio ehangach sy’n gymwys i’r ffynhonnell anifeiliaid ar gyfer dewis llinellau celloedd a chynhyrchu CCPs fel y nodir yn y Gyfraith Bwyd Gyffredinol a’r Gyfraith Hylendid Bwyd (Rheoliadau a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002 a Rhif 852/2004 yn y drefn honno). Mae’r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg o’r rheoliadau allweddol hyn ac yn egluro’r safbwyntiau arweiniol canlynol yng nghyd-destun CCPs:
- Mae egwyddorion cynhyrchu cynradd yn berthnasol i CCPs
- Y cynnyrch crai yw’r sampl biopsi sy’n cael ei chymryd o’r anifail ffynhonnell.
- Mae cyfraith bwyd yn gymwys i CCPs o’r adeg y caiff y biopsi ei gasglu
- Mae angen i fusnesau CCP gofrestru
- Mae cynhyrchion CCP wedi’u heithrio rhag nodau iechyd ac adnabod
- Mae gofynion penodol o fewn atodiad III o Reoliad Hylendid Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) yn cael eu datgymhwyso
- Mae angen cymeradwyaeth weinidogol i ddefnyddio sylweddau golchi amgen, heblaw dŵr yfed, er mwyn cael gwared ar halogiad oddi ar arwynebau
Dim ond CCPs sy’n cael eu cynhyrchu o gelloedd anifeiliaid y mae’r canllawiau hyn yn eu cwmpasu.
1.1 Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) yr Undeb Ewropeaidd: y cyd-destun
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg o’r egwyddorion cyfreithiol a’r arferion gorau er mwyn rhoi eglurder i fusnesau drwy gydol y gadwyn gyflenwi, yn enwedig wrth baratoi a chynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Safbwynt yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw anelu at sicrhau lefelau uchel o ddiogelwch yn y gadwyn fwyd a diogelwch defnyddwyr o’r fferm i’r fforc. Lle mae’r UE wedi cyhoeddi safbwyntiau ar hylendid, mae’r wybodaeth a ddarperir yn y canllawiau hyn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â chanllawiau’r UE ar hylendid.
Mae’r cynnig ar gyfer alinio deinamig yn golygu, yn amodol ar unrhyw eithriadau y cytunir arnynt, y byddai’r DU yn alinio â holl ddeddfwriaeth yr UE o fewn cwmpas disgwyliedig y cytundeb ac, unwaith y daw’r cytundeb i rym, y byddai rheolau sy’n gymwys yn y DU yn cael eu diweddaru yn unol â rheolau’r UE wrth iddynt newid dros amser.
2. Cynulleidfa darged
Lluniwyd y canllawiau hyn ar gyfer pob parti sydd â buddiant neu sy’n ymwneud â chynhyrchu CCPs, sy’n deillio o gelloedd anifeiliaid, i’w bwyta gan bobl.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yn y gwledydd canlynol:
-
Cymru a Lloegr, lle mae’r ASB yn gweithredu fel yr awdurdod diogelwch bwyd
-
Yr Alban, lle mae FSS yn gweithredu fel yr awdurdod diogelwch bwyd
Nid yw’r canllawiau hyn yn berthnasol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon, sy’n parhau i ddilyn deddfwriaeth yr UE.
3. Deddfwriaeth berthnasol
Bydd angen i gwmnïau sy’n cynhyrchu CCPs o fewn cwmpas y canllawiau hyn gydymffurfio â gofynion perthnasol yr holl reoliadau cymwys er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr. Er nad yw’r rhestr isod yn gynhwysfawr, dyma’r ddeddfwriaeth allweddol yn ôl pwnc:
3.1 Diogelwch bwyd
-
Rheoliad (CE) Rhif 178/2002 – Gofynion Cyffredinol Cyfraith Bwyd
-
Rheoliad (UE) Rhif 931/2011 – Ar ofynion olrhain (o dan Reoliad (CE) 178/2002)
3.2 Hylendid bwyd
3.3 Lles anifeiliaid
Mae egwyddorion a gofynion y rheoliadau hyn yn darparu fframwaith cyffredinol y gall busnesau CCP ei ddefnyddio i reoli eu cynhyrchion fel POAO, fel y disgrifir isod.
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Gwnaeth deddfwriaeth yr UE a gafodd ei dargadw wrth i’r DU ymadael â’r UE droi’n gyfraith a gymathwyd (‘assimilated’) ar 1 Ionawr 2024, ac mae wedi’i chyhoeddi ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau yng nghanllawiau’r ASB at unrhyw ddeddfwriaeth sydd ag ‘UE/EU’ neu ‘CE/EC’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) Rhif 178/2002) bellach gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd, pan fo’n berthnasol i Brydain Fawr, ac yn gyfraith uniongyrchol berthnasol yr UE pan fo’n berthnasol i Ogledd Iwerddon. Dylai cyfeiriadau at ‘gyfraith yr UE a ddargedwir’ neu ‘REUL’ bellach gael eu hystyried yn gyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
I fusnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae mwy o wybodaeth ar gael am y Fframwaith Windsor, gan gynnwys Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Cyflwynir y canllawiau hyn o dan yr adrannau canlynol:
- Safbwyntiau rheoleiddio penodol ar gyfer CCPs, gan gynnwys beth mae hyn yn ei olygu i gynhyrchwyr CCPs:
- Cyfraith Bwyd Gyffredinol a chyfraith hylendid bwyd
- Gofynion hylendid POAO ar gyfer CCPs
- Atodiad: Nodyn esboniadol o’r ddeddfwriaeth allweddol ar gyfer busnesau CCP. Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg esboniadol o’r ddeddfwriaeth allweddol sy’n cyfeirio at ofynion ehangach ar gyfer pob busnes bwyd, gan gynnwys gweithredwyr CCP (gan nodi’r safbwyntiau penodol a amlinellir yn yr adran uchod):
- Cyfraith Bwyd Gyffredinol
- Hylendid bwydydd
- Rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid
- Olrheiniadwyedd bwyd sy’n dod o anifeiliaid
4. Safbwyntiau rheoleiddio penodol ar gyfer CCPs
4.1 Cyfraith Bwyd Gyffredinol a chyfraith hylendid bwyd
Mae’r adran hon yn amlinellu safbwynt Cyfraith Bwyd Gyffredinol a chyfraith hylendid bwyd (Rheoliadau a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002 a Rhif 852/2004 yn y drefn honno) a sut mae’r diffiniadau a’r gofynion canlynol yn berthnasol i gwmnïau o fewn y gadwyn cyflenwi CCPs:
-
cynhyrchu cynradd
-
y cynnyrch crai
-
pan fo CCPs yn ddarostyngedig i gyfraith bwyd
4.2 Cynhyrchu cynradd
Mae egwyddorion cynhyrchu cynradd yn berthnasol i CCPs.
Mae deddfwriaeth cynhyrchu cynradd yn gymwys i anifeiliaid byw sy’n cynhyrchu bwyd. Bwriad y ddeddfwriaeth yw atal bwyd rhag dod yn anniogel ar ddechrau’r gadwyn fwyd, drwy atal peryglon biolegol, cemegol a ffisegol rhag mynd i mewn i’r gadwyn fwyd wrth y ffynhonnell. Mae magu anifeiliaid yn cynnwys bodloni gofynion o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Mae’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw at ddibenion cynhyrchu cynradd yn ychwanegol at y rhai sy’n ofynnol i sefydlu olrheiniadwyedd cynnyrch (o dan Reoliad a gymathwyd (UE) Rhif 931/2011) fel y manylir arnynt yn yr Atodiad.
Nod y rheolau cynhyrchu cynradd yw sicrhau bod anifeiliaid sy’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd yn addas at y diben. Mae’n ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd gadw cofnodion am anifeiliaid sy’n cael eu magu ar gyfer cynhyrchu bwyd, hyd at y pwynt y cânt eu lladd, er mwyn darparu gwybodaeth am y gadwyn fwyd. Ar gyfer cynhyrchu CCPs, mae’r gofynion hyn yn berthnasol i waith casglu biopsïau a wneir cyn neu ar ôl lladd yr anifail. Mae hyn yn cynnwys dogfennu iechyd anifeiliaid a ffermydd; statws di-glefyd; a bod cyfnodau diddyfnu unrhyw weddillion meddyginiaeth filfeddygol yn cael eu dilyn. Mae’r cofnodion hyn yn darparu ar gyfer tarddiad, olrheiniadwyedd, ymateb i achosion o alw’n ôl, a gwirio rheolaethau at ddibenion archwilio a gorfodi.
4.3 Y cynnyrch crai
Y cynnyrch crai yw’r biopsi a gymerir o’r anifail ffynhonnell y bydd ei gelloedd yn cael eu defnyddio i greu’r CCP.
Diffinnir cynhyrchion crai fel cynhyrchion a wneir drwy ddulliau cynhyrchu cynradd, gan gynnwys cynhyrchion y pridd, ffermio stoc, hela a physgota.
Y cam cyntaf wrth gynhyrchu CCP yw casglu biopsi. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â’r ffaith bod cynnyrch biopsi yn gynnyrch heb ei brosesu (erthygl 2 o Reoliad hylendid bwyd a gymathwyd (CE) Rhif 852/2004). Mae’r safbwynt hwn yn sicrhau bod y broses gynhyrchu gyfan yn dod o dan gyfraith bwyd, o’r cam cyntaf pan gesglir y biopsi o’r anifail ffynhonnell. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso egwyddorion cynhyrchu cynradd a bod â thystiolaeth i ddangos bod yr anifail ffynhonnell yn addas i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
4.4 Pan fydd CCPs yn dod yn ddarostyngedig i gyfraith bwyd
Mae gan gyfraith bwyd ddiffiniad eang, sy’n cwmpasu ystod eang o ddarpariaethau sydd ag effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ddiogelwch bwyd. Mae Cyfraith Bwyd Gyffredinol (Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002) yn diffinio ‘bwyd’ fel:
-
unrhyw sylwedd neu gynnyrch, boed wedi’i brosesu, wedi’i brosesu’n rhannol neu heb ei brosesu, y bwriedir iddo gael ei fwyta/yfed gan bobl, neu y mae’n rhesymol disgwyl iddo gael ei fwyta/yfed gan bobl
-
unrhyw sylwedd sy’n cael ei ymgorffori’n fwriadol yn y bwyd wrth ei weithgynhyrchu, ei baratoi neu ei drin (gan gynnwys dŵr)
Ystyrir mai casglu’r biopsi o’r anifail ffynhonnell yw cam cyntaf cynhyrchu CCP (fel cynnyrch heb ei brosesu), a bydd cyfraith bwyd sy’n llywodraethu bwyd yn gyffredinol, a diogelwch bwyd yn benodol, yn gymwys. O ystyried y prosesau sylweddol a gymhwysir i’r celloedd ar ôl casglu’r biopsi, caiff y biomas ar ôl cynaeafu ei ddosbarthu fel POAO wedi’i brosesu (fel y’i diffinnir yn Rheoliad hylendid bwyd a gymathwyd (CE) Rhif 852/2004 – erthygl 2).
4.5 Beth mae hyn yn ei olygu i’r sawl sy’n cynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
Mae Cyfraith Bwyd Gyffredinol a deddfwriaeth hylendid bwyd (Rheoliadau a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002 a Rhif 852/2004 yn y drefn honno) yn gymwys i bob mewnbwn a ddefnyddir wrth gynhyrchu CCPs, gan gynnwys:
-
casglu biopsïau
-
celloedd
-
sylweddau tyfu
-
sylweddau a chydrannau eraill a ddefnyddir
Daw deddfwriaeth hylendid POAO (Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004) yn gymwys o’r adeg y cesglir y biopsi hyd at yr adeg y rhoddir y bwyd POAO gorffenedig a wneir drwy feithrin celloedd ar y farchnad.
Os caiff y biomas CCP wedi’i brosesu ei ychwanegu at gynhwysion bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion ar unrhyw adeg, gall hyn greu cynnyrch cyfansawdd (fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC). O ganlyniad, mae deddfwriaeth hylendid POAO yn parhau i fod yn gymwys i’r CCP fel cynhwysyn yn unig, tra bo’n rhaid i’r bwyd cyfansawdd gydymffurfio â gofynion ehangach Cyfraith Bwyd Gyffredinol a deddfwriaeth hylendid bwyd. Byddwn yn darparu mwy o ganllawiau ar ddiffinio cynhyrchion cyfansawdd CCP maes o law fel rhan o’r rhaglen blwch tywod.
Nodir uchod y dylai egwyddorion cynhyrchu cynradd a chadw cofnodion cysylltiedig gael eu cymhwyso i CCPs. Y cynnyrch crai yw’r biopsi a gymerir o anifeiliaid a ddylai fod yn addas ar gyfer y gadwyn fwyd. Dyma hefyd y pwynt pan fydd CCPs yn dod o dan gyfraith bwyd am y tro cyntaf.
Gan fod CCPs yn dod o dan gyfraith bwyd o’r adeg y caiff y biopsi ei gasglu, rhaid i bob busnes yn y gadwyn fwyd gofrestru fel gweithredwr busnes bwyd (fel yr amlinellir yn yr adran nesaf) a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r safonau sy’n berthnasol i gynhyrchu bwyd.
Dylai cynhyrchwyr CCPs fodloni gofynion cynhyrchu cynradd gymaint â phosib, gan gynnwys cadw cofnodion mewn perthynas â magu’r anifail ffynhonnell. Mae hyn yn rhoi sicrwydd ynghylch tarddiad, olrheiniadwyedd a diogelwch – o’r anifail ffynhonnell, hyd at gasglu’r biopsi a rhoi’r CCP ar y farchnad. Dylid cyflwyno cofnodion cynhyrchu cynradd cyflawn fel rhan o’r cais i’r cynnyrch bwyd newydd CCP rheoleiddiedig gael ei awdurdodi i’w roi ar y farchnad.
Er y bydd pob cais CCP yn unigryw, i gael cyngor ar y math o wybodaeth y gallai fod ei hangen am iechyd a tharddiad yr anifail ffynhonnell, cyfeiriwch at y canllawiau CCP ar hunaniaeth, cynhyrchu a microbioleg a gyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2026. Yn benodol, gweler yr adran ‘Nodweddiad a hunaniaeth y llinellau celloedd’, sy’n cynnwys gwybodaeth am olrheiniadwyedd yr anifail ffynhonnell.
Byddai disgwyl i unrhyw linellau celloedd newydd a gynhyrchir ar ôl cyhoeddi’r canllawiau hyn gael eu datblygu yn unol ag egwyddorion cynhyrchu cynradd. Mewn achosion lle defnyddir llinellau celloedd a sefydlwyd ar gyfer cynhyrchu bwyd cyn cyhoeddi’r canllawiau hyn, ac nad oes cofnodion llawn ar gael am y cam cynhyrchu cynradd, rhaid cyflwyno tystiolaeth gadarn fel rhan o’r cais am awdurdodi’r cynnyrch CCP rheoleiddiedig i’w roi ar y farchnad. Dylai’r dystiolaeth hon ddangos yn glir fod y cynnyrch yn ddiogel ac yn bodloni’r gofynion perthnasol. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei hystyried fesul achos fel rhan o’r prosesau asesu a rheoli risg.
5. Gwybodaeth ychwanegol
Mae deddfwriaeth cynhyrchu cynradd yn ymdrin â phedwar prif gategori risg:
-
iechyd a chlefydau anifeiliaid – sicrhau bod cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid (gan gynnwys celloedd biopsi) yn ddiogel i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd
-
halogiad cemegol – atal gweddillion cemegol, gan gynnwys meddyginiaethau milfeddygol, rhag mynd i mewn i’r gadwyn fwyd
-
peryglon amgylcheddol a pheryglon sy’n gysylltiedig â dŵr
-
croeshalogi a hylendid
Er nad yw’r adnoddau canlynol yn berthnasol yn uniongyrchol i sefydliadau CCP, gan eu bod yn cael eu cofrestru yn hytrach na’u cymeradwyo, gallant fod yn ddefnyddiol fel canllaw i’r math o wybodaeth a data tebyg sydd eu hangen ar gyfer ceisiadau CCP ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid ac addasrwydd ar gyfer y gadwyn fwyd, ar gyfer biopsïau a gymerir cyn neu ar ôl lladd yr anifail:
-
atodiad III i Reoliad Hylendid POAO (Rheoliad a gymathwyd (CE) 853/2004) ar y gofynion penodol ar gyfer rhai anifeiliaid a chynhyrchion POAO, fel anifeiliaid fferm ac anifeiliaid hela gwyllt, pysgod neu gynhyrchion morol eraill
-
mae’r Llawlyfr rheolaethau swyddogol (MOC) a’r llawlyfr cyfatebol yn yr Alban (SMOC) wedi’u bwriadu ar gyfer swyddogion. Maent yn amlinellu eu tasgau, eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau wrth gynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy. Gall y llawlyfrau hyn helpu busnesau i ddeall y gofynion sy’n berthnasol iddynt. Yn benodol, mae Pennod 2.1 o’r MOC a’r SMOC yn rhoi rhagor o gyngor ar Wybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI)
5.1 Gofynion hylendid POAO ar gyfer CCPs
Mae dosbarthu CCPs fel POAO yn golygu bod yn rhaid dilyn gofynion hylendid (o dan Reoliadau a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ar hylendid POAO a Rhif 852/2004 ar hylendid bwyd). Mae’r canllawiau hyn yn rhoi eglurder ar y pynciau canlynol i gynhyrchwyr CCPs sy’n rhoi cynhyrchion POAO ar farchnad Prydain Fawr:
-
cofrestru neu gymeradwyo sefydliadau busnes (a gofynion penodol POAO)
-
nodau iechyd anifeiliaid a nodau adnabod
-
defnyddio sylweddau golchi ar gyfer POAO
5.2 Cofrestru sefydliadau CCP
Cyn rhoi cynhyrchion ar y farchnad, mae’n ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd sy’n trin a/neu’n cynhyrchu POAO gysylltu â’u hawdurdod lleol ym Mhrydain Fawr (yn unol ag erthygl 4 o reoliad hylendid POAO). Yn dibynnu ar gwmpas y gweithgaredd busnes, bydd angen i’w sefydliad fod naill ai:
-
wedi’i gofrestru (yn unol ag erthygl 6 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 852/2004 ar hylendid bwyd)
-
wedi’i gymeradwyo (yn unol ag erthygl 4.2 ac atodiad III i Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 sy’n darparu gofynion penodol ar gyfer POAO a enwir)
Gan nad yw CCPs wedi’u rhestru yn Atodiad III i Reoliad Hylendid POAO (853/2004), nid yw’r atodiad hwn na’r gofyniad i’w cymeradwyo yn gymwys i gynhyrchu CCPs ar hyn o bryd. Bydd y llywodraeth yn parhau i adolygu’r canllawiau sy’n ymwneud â chynhyrchu CCPs i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn parhau i gael ei ddiogelu.
5.3 Beth mae hyn yn ei olygu i’r sawl sy’n cynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
Rhaid i gwmnïau CCP gofrestru fel gweithredwyr busnesau bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol yn yr ardal lle maent yn gweithredu.
Gan fod cyfraith bwyd yn gymwys i CCPs o’r adeg y caiff biopsi ei gasglu o’r anifail ffynhonnell, rhaid i bob busnes yng nghadwyn gyflenwi’r CCP sy’n trin biopsïau neu gelloedd / llinellau celloedd, neu sy’n cynhyrchu CCPs dros dro neu orffenedig, gofrestru fel gweithredwr busnes bwyd gyda’i awdurdod lleol perthnasol ym Mhrydain Fawr (gweler isod).
Mae hyn yn cynnwys pob busnes yn y gadwyn gyflenwi ar ôl casglu’r biopsi, hyd at y pwynt gwerthu terfynol. Mae hynny’n cynnwys busnesau sy’n datblygu llinellau celloedd, cynhyrchwyr CCPs (gan gynnwys contractwyr trydydd parti), pecynwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr. Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys eithriadau ar gyfer defnydd domestig preifat, defnyddio neu drin symiau bach o POAO, a rhai gweithgareddau manwerthu (fel busnes i fusnes, cludo a storio), yn unol ag erthygl 1 o Reoliad a gymathwyd (CE) 853/2004.
Rhaid i chi gofrestru eich busnes o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau masnachu. Bydd unrhyw fusnes bwyd yn ddarostyngedig i rwymedigaethau’r awdurdod lleol (neu’r cyngor dosbarth yng Ngogledd Iwerddon) wrth gyflawni ei swyddogaethau bwyd statudol.
Darperir gwybodaeth isod am ddechrau busnes bwyd a chofrestru:
-
Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr: Paratoi ar gyfer dechrau eich busnes bwyd.
-
Yr Alban: Dechrau busnes newydd
Am wybodaeth am swyddogaethau awdurdodau lleol, mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (neu’r cod ymarfer cyfatebol yn yr Alban) ar gael ar gyfer y wlad berthnasol:
Mae’r dogfennau hyn yn amlinellu’r hyn y gall busnesau bwyd ei ddisgwyl gan eu hawdurdod lleol o ran diogelwch bwyd. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau neu arolygiadau ffisegol fel rhan o reolaethau swyddogol ar hylendid a safonau bwyd, ynghyd â gweithgareddau eraill fel darparu cyngor. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran ar gynnal rheolaethau swyddogol (arolygiadau hylendid a safonau bwyd) yn y Cod Ymarfer cenedlaethol perthnasol.
5.4 Nodau iechyd anifeiliaid neu nodau adnabod (ID)
O dan y ddeddfwriaeth hylendid POAO bresennol, dim ond i sefydliadau sydd angen cymeradwyaeth y mae’r gofyniad i ddefnyddio nodau iechyd anifeiliaid (ar garcasau) neu nodau adnabod (ar labeli, deunydd pecynnu ac ati) yn berthnasol.
5.5 Beth mae hyn yn ei olygu i’r sawl sy’n cynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
Gan fod sefydliadau CCP sy’n rhoi cynhyrchion ar farchnad Prydain Fawr yn cael eu cofrestru yn hytrach na’u cymeradwyo, nid oes gofyniad iddynt ddefnyddio nodau iechyd anifeiliaid na nodau adnabod.
5.6 Defnyddio sylweddau golchi ar gyfer POAO
Mae deddfwriaeth hylendid yn nodi y dylid defnyddio dŵr yfed i gael gwared ar halogiad oddi ar gynhyrchion POAO (erthygl 3 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004). Os bwriedir defnyddio sylweddau eraill at y diben hwn, mae’n rhaid eu cymeradwyo cyn y gellir rhoi cynhyrchion POAO ar y farchnad. Mae’r gymeradwyaeth hon yn wahanol i awdurdodiad bwyd newydd (o dan Reoliad a gymathwyd (UE) Rhif 2015/2283).
Ar gyfer rhai cynhyrchion pysgodfeydd, gellir defnyddio dŵr môr glân fel dewis arall yn lle dŵr yfed (cyfeiriwch at atodiad III o Reolaeth a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004).
5.7 Beth mae hyn yn ei olygu i’r sawl sy’n cynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
Rhaid i unrhyw sylwedd a ddefnyddir i olchi POAO ar unrhyw gam o’r broses cynhyrchu CCP (ar ôl casglu’r biopsi), ac eithrio dŵr yfed, gael ei gymeradwyo gan weinidogion Prydain Fawr (yn amodol ar yr eithriad uchod ar gyfer rhai cynhyrchion pysgodfeydd). Ar ôl asesu diogelwch y sylwedd, ac ochr yn ochr â’r cais i awdurdodi fwyd newydd, bydd yr ASB ac FSS yn cyflwyno argymhelliad i weinidogion Prydain Fawr ynghylch cymeradwyo’r sylwedd. Bydd hyn ar ffurf offeryn statudol, a bydd y gweinidogion yn penderfynu a ddylid cymeradwyo’r sylwedd cyn y gellir rhoi’r CCP ar y farchnad fel cynnyrch bwyd newydd rheoleiddiedig.
Gall unrhyw gwmni sydd am wneud cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio sylwedd golchi amgen drafod y broses drwy gysylltu â: regulatedproducts@food.gov.uk
Wrth gyflwyno cais i awdurdodi CCP i’w roi ar y farchnad, rhaid rhestru pob sylwedd golchi a ddefnyddir, ynghyd â’r camau cynhyrchu lle cânt eu defnyddio. Dylid darparu manylion llawn am eu cyfansoddiad ar bob cam, o gasglu’r biopsi hyd at brosesau ôl-gynhyrchu. Yn ddelfrydol, dylid cynnwys yr wybodaeth hon fel un tabl ychwanegol yn y goflen.
5.8 Atodiad: nodyn esboniadol o’r ddeddfwriaeth allweddol ar gyfer busnesau CCP.
Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg esboniadol o’r ddeddfwriaeth allweddol sy’n cyfeirio at y gofynion ehangach ar gyfer pob busnes bwyd, gan gynnwys gweithredwyr CCP (gan nodi’r safbwyntiau penodol a amlinellir yn y canllawiau uchod).
Mae deddfwriaeth POAO o dan Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 yn ymwneud yn uniongyrchol â chydymffurfiaeth ehangach o ran hylendid, diogelwch ac olrheiniadwyedd, yn enwedig o fewn:
-
Cyfraith Bwyd Gyffredinol (Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002)
-
Rheoliad hylendid bwyd (Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 852/2004)
-
gofynion olrheiniadwyedd ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 931/2011)
Mae egwyddorion a gofynion y rheoliadau hyn yn darparu fframwaith cyffredinol y gall busnesau ei ddefnyddio i reoli eu cynhyrchion fel POAO, fel y disgrifir isod.
5.9 Deddfwriaeth: Cyfraith Bwyd Gyffredinol
Cyfraith Bwyd Gyffredinol yw’r ddeddfwriaeth gyffredinol sy’n nodi egwyddorion a gofynion sylfaenol cyfraith bwyd (Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002). Ei brif nod yw diogelu iechyd pobl a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’n berthnasol i bob cam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd a bwyd anifeiliaid gyda rhai eithriadau. Rhaid i fusnesau bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae canllawiau’r ASB ar Gyfraith Bwyd Gyffredinol yn amlinellu ei phrif ofynion ar y canlynol:
-
olrheiniadwyedd bwyd
-
sut y caiff bwyd a gwybodaeth am fwyd eu cyflwyno i beidio â chamarwain y defnyddiwr
-
gweithdrefnau ar gyfer gweithio’n brydlon i dynnu neu alw’n ôl fwyd anniogel a roddir ar y farchnad
-
bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr, a’u hallforio o Brydain Fawr, i gydymffurfio â chyfraith bwyd neu amodau a gydnabyddir gan Brydain Fawr. Yn yr un modd, rhaid i fwyd sy’n cael ei fewnforio i Ogledd Iwerddon, a’i allforio ohoni, gydymffurfio â chyfraith bwyd neu amodau a gydnabyddir gan yr UE.
Mae Safonau Bwyd yr Alban hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol fel rhan o’i chanllawiau cyffredinol ar redeg busnes bwyd.
5.10 Deddfwriaeth: hylendid bwydydd
Yn ogystal ag egwyddorion Cyfraith Bwyd Gyffredinol, nodir gofynion penodol ar gyfer hylendid bwydydd (Rheoliad a gymathwyd (CE) 852/2004) sy’n gosod rheolau hylendid cyffredinol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd (a diffiniadau a nodir yn erthygl 2). Yn benodol, mae pennod 2 yn amlinellu’r gofynion pwysig canlynol ar gyfer busnesau bwyd:
-
erthygl 3 – Rhwymedigaethau cyffredinol: Rhaid i fusnesau bwyd sicrhau bod pob cam o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd sydd o dan eu rheolaeth yn bodloni’r gofynion hylendid perthnasol a nodir yn y rheoliad hwn
-
erthygl 4 – Gofynion hylendid cyffredinol a phenodol: Mae’n darparu gofynion ar gyfer busnesau bwyd sy’n ymwneud â gwaith cynhyrchu cynradd, ac unrhyw gam o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd
-
erthygl 5 – Dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol (HACCP): Ynghylch gweithredu a chynnal gweithdrefnau HACCP. Mae’r rhaglen blwch tywod wedi cyhoeddi canllawiau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd: canllawiau ar ddosbarthu ac egwyddorion HACCP
-
erthygl 6 – Rheolaethau swyddogol, cofrestru a chymeradwyaeth: Mae’n nodi’r gofynion i fusnesau roi gwybod i’r awdurdod cymwys er mwyn cofrestru neu gael cymeradwyaeth cyn rhoi cynhyrchion ar y farchnad.
Mae’r rheoliad hwn hefyd yn cyfeirio at fewnforion ac allforion (pennod IV). Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu trefniadau ar gyfer mewnforio ac allforio CCPs, a disgwylir cyhoeddi canllawiau erbyn diwedd y rhaglen blwch tywod ar ddechrau 2027.
Yn berthnasol i fusnesau CCP:
-
mae atodiad I yn nodi’r gofynion ar gyfer cynhyrchu cynradd (hynny yw, magu’r anifail ffynhonnell hyd at y pwynt y caiff ei ladd), gan gwmpasu gofynion ar gyfer hylendid a chadw cofnodion
-
mae atodiad II yn rhoi manylion am y rhwymedigaethau hylendid cyffredinol sy’n berthnasol i weithredwyr busnesau bwyd, gan gynnwys sefydliadau bwyd, prosesau a gofynion hylendid personol
5.11 Deddfwriaeth: rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid
Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth uchod, mae Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 yn darparu rheolau hylendid manwl ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (POAO) yng nghyd-destun peryglon penodol a allai fod yn gysylltiedig â chynhyrchion o’r fath. Mae’r rheoliad hwn yn cynnwys gofynion gwybodaeth am ddaliadau anifeiliaid, cludo i ladd-dy a rhoi POAO ar y farchnad. Felly, mae’r rheoliad hylendid POAO hwn yn gymwys nid yn unig i gynhyrchu cynradd sy’n ymwneud â magu anifeiliaid, ond hefyd i weithgareddau hyd at y pwynt y cânt eu lladd (neu hyd at gasglu biopsi cyn lladd yr anifeiliaid, lle mae hynny’n berthnasol i CCPs).
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i CCPs o’r adeg y caiff y biopsi ei gasglu, drwy’r holl gamau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, hyd at roi’r CCP ar y farchnad. Mae’n gymwys i POAO heb eu prosesu ac i POAO wedi’u prosesu.
Oni nodir yn benodol, nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o blanhigion a hefyd gynhyrchion wedi’u prosesu sy’n dod o anifeiliaid (hynny yw, cynhyrchion cyfansawdd – fel y’u diffinnir yn erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC).
Mae’r rheoliad hylendid POAO hwn yn nodi nifer o eithriadau eraill (erthygl 1), gan gynnwys bwyd POAO ar gyfer defnydd domestig preifat, trin symiau bach (gan gynnwys helgig gwyllt), a busnesau sy’n storio neu’n cludo’r cynhyrchion hyn yn unig.
Mae olrheiniadwyedd yn elfen hanfodol wrth sicrhau diogelwch bwyd (gweler yr adran nesaf). Mae’r rheoliad hwn yn nodi’r gofynion ar gyfer cofrestru busnesau bwyd a’r amodau ar gyfer rhoi cynhyrchion ar farchnad Prydain Fawr. Gall hyn gynnwys cymeradwyo sefydliadau a defnyddio nodau iechyd ar garcasau a nodau adnabod ar becynnau a labeli.
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau bwyd wedi’u cofrestru. Fodd bynnag, gall rhai mathau o fwyd beri risgiau penodol i iechyd y cyhoedd ac mae gofynion hylendid penodol yn berthnasol iddynt. O ganlyniad, mae’r busnesau hynny sy’n ymdrin â’r fath fwyd yn cael eu cymeradwyo, fel y nodir yn atodiad III i’r Rheoliad hwn.
Mae enghreifftiau o sefydliadau cymeradwy sy’n ymdrin â POAO traddodiadol yn cynnwys sefydliadau:
-
cig
-
wyau a physgod
-
helgig
Mae’r rheoliad hwn yn nodi nifer o ofynion allweddol sy’n arbennig o berthnasol i gwmnïau CCP, gan gynnwys:
-
erthygl 3 sy’n nodi mai dim ond dŵr yfed y caiff busnesau bwyd ei ddefnyddio i olchi POAO neu i gael gwared ar halogiad oddi arnynt, oni bai bod gweinidogion Prydain Fawr wedi cymeradwyo sylweddau amgen
-
erthygl 4 sy’n nodi’r gofynion ar gyfer cofrestru neu gymeradwyo busnesau
-
erthygl 6 sy’n nodi’r gofynion ar gyfer mewnforio POAO i Brydain Fawr
-
erthygl 7 sy’n cyfeirio at ofynion o ran dogfennaeth ar gyfer sefydliadau sy’n trin POAO
5.12 Atodiadau
-
Mae atodiad I yn darparu rhestr fanwl o ddiffiniadau ar gyfer POAO penodol (nid yw CCPs wedi’u diffinio yno)
-
Mae atodiad II yn ymwneud â gofynion ar gyfer rhai POAO, gan gynnwys nodau adnabod, gweithdrefnau sy’n seiliedig ar HACCP, gwybodaeth am y gadwyn fwyd, a bwyd POAO wedi’i rewi
-
Mae atodiad III yn ymwneud â gofynion penodol ar gyfer sefydliadau sy’n trin POAO a enwir, fel cludo a lladd carnolion (‘ungulates’) mawr (fel gwartheg a defaid), dofednod, lagomorffiaid (hynny yw cwningod ac ysgyfarnogod), lladd anifeiliaid ar y fferm, anifeiliaid hela gwyllt, cynhyrchion llaeth a chynhyrchion morol penodol, ac ati (nid yw CCPs wedi’u rhestru)
5.13 Deddfwriaeth: olrheiniadwyedd bwyd sy’n dod o anifeiliaid
Mae deddfwriaeth benodol ar y gofynion olrheiniadwyedd ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 931/2011) yn nodi’r rhwymedigaethau ar gyfer olrhain cynhyrchion ar bob cam o’r broses gynhyrchu, prosesu a dosbarthu. Mae’r rheoliad yn nodi bod rhaid i bob busnes, drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan, gadw gwybodaeth am bob cyflenwr uniongyrchol a phob busnes lle mae cynhyrchion heb eu prosesu a/neu wedi’u prosesu wedi cael eu dosbarthu’n uniongyrchol. Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o blanhigion a hefyd gynhyrchion wedi’u prosesu sy’n dod o anifeiliaid (cynhyrchion cyfansawdd).
Cyfeirir at y gofyniad olrheiniadwyedd hwn fel ‘un cam yn ôl ac un cam ymlaen’, sy’n darparu gwybodaeth olrheiniadwyedd lawn am y gadwyn gyflenwi i ddiogelu defnyddwyr. Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid i bob cwmni yn y gadwyn gyflenwi ei chadw a’i darparu i’r awdurdod cymwys os gofynnir amdani yn cynnwys:
-
y cyflenwr, y traddodwr a’r traddodai (enwau a chyfeiriadau busnes)
-
swm neu gyfaint y bwyd sy’n dod o anifeiliaid
-
cyfeirnod sy’n nodi’r lot, y swp neu’r llwyth, fel sy’n briodol
-
disgrifiad manwl o’r bwyd a’r dyddiad anfon
6. Adolygu
Mae’r canllawiau hyn yn gywir ar ddyddiad eu cyhoeddi.
Ein nod yw cadw’r holl ganllawiau’n gyfredol a chynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod y canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Y dyddiad adolygu nesaf a drefnwyd ar gyfer y canllawiau hyn yw 9 Gorffennaf 2027 fan bellaf.
7. Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn, a gallwch ei rannu drwy gysylltu â ni yn regulatedproducts@food.gov.uk