Paratoi ar gyfer talu buddiannau drwy’r gyflogres yn orfodol
Dysgwch sut i roi gwybod am fuddiannau a threuliau mewn amser real drwy feddalwedd gyflogres, o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Pwy sydd angen yr arweiniad hwn
Mae angen yr arweiniad hwn arnoch os ydych yn gyflogwr sy’n rhoi gwybod i CThEF am fuddiannau a threuliau eich cyflogeion.
Bydd hefyd angen yr arweiniad hwn arnoch os ydych yn:
- darparu gwasanaethau’r gyflogres neu os ydych yn rhoi cyngor ar fuddiannau yn y gweithle i gyflogwyr
- datblygu meddalwedd gyflogres
- darparu buddiannau i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg)
- asiant treth
Beth fydd yn newid
O 6 Ebrill 2027 ymlaen, fel cyflogwr, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am y buddiannau canlynol sy’n cael eu talu drwy’ch cyflogres ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg):
- ceir cwmni a thanwydd
- faniau cwmni a thanwydd
- yswiriant meddygol
Gallwch hefyd dalu unrhyw fuddiannau eraill drwy’r gyflogres yn wirfoddol drwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein cyn i’r flwyddyn dreth nesaf ddechrau.
Mae’n rhaid i chi ddidynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer y buddiannau sy’n cael eu talu drwy’r gyflogres, boed hynny’n orfodol neu’n wirfoddol, mewn amser real gan ddefnyddio meddalwedd gyflogres.
Ni fydd angen i chi roi gwybod am unrhyw fuddiannau sydd wedi’u talu drwy’r gyflogres ar ffurflenni P11D a P11D(b).
Bydd y rheolau presennol o ran prisio buddiannau, ‘gwneud iawn’ ac esemptiadau yn parhau i fod yn berthnasol. Bydd CThEF yn parhau i gasglu tandaliadau diwedd blwyddyn drwy’r prosesau presennol.
Mae’n rhaid talu pob buddiant arall, ac eithrio benthyciadau a llety, drwy’r gyflogres o 6 Ebrill 2028 ymlaen.
Yr hyn y dylech ei wneud nawr
Fel cyflogwr, dylech wneud y canlynol:
- adolygu’r holl fuddiannau a threuliau sy’n cael eu cofnodi ar ffurflenni P11D ar hyn o bryd
- adolygu’ch prosesau gweinyddol ar gyfer y gyflogres, AD a buddiannau
- gwirio fod darparwr eich meddalwedd gyflogres wedi’i sefydlu ar gyfer rhoi gwybod am newidiadau
Dylech roi gwybod i’ch cyflogeion am y canlynol:
- bod treth ar fuddiannau sy’n cael eu talu drwy’r gyflogres yn cael ei chasglu yn ystod y flwyddyn drwy’r gyflogres
- na fydd eu codau treth yn cynnwys addasiadau ar gyfer buddiannau sy’n cael eu talu drwy’r gyflogres
- mae’n bosibl y byddant yn gweld newidiadau i’w slipiau cyflog a’u cyflog clir
- na fyddant yn talu mwy o dreth oherwydd y newid hwn
- y byddwch yn rhoi datganiad blynyddol iddynt o’r buddiannau sydd wedi’u talu drwy’r gyflogres ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
Dysgwch ragor am baratoi ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol (yn agor tudalen Saesneg).
Rhoi gwybod am fuddiannau mewn amser real
Dysgwch ragor am sut i roi gwybod am fuddiannau mewn amser real (yn agor tudalen Saesneg).
Dysgwch ragor am senarios cyflogres cyffredin (yn agor tudalen Saesneg) y mae cyflogwyr yn delio gyda. Gallwch hefyd ddarllen enghreifftiau manwl o dalu buddiannau drwy’r gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer yr holl fuddiannau y bydd angen i chi eu talu drwy’r gyflogres o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Sut i ddelio gyda newidiadau
Cael gwybod beth i’w wneud:
- pan ni allwch gasglu’r swm cywir o dreth (yn agor tudalen Saesneg)
- pan fydd angen i chi wneud cywiriadau ac addasiadau (yn agor tudalen Saesneg)
- pan fydd cyflogeion yn gadael yn ystod y flwyddyn dreth (yn agor tudalen Saesneg)
Cyflogeion sydd wedi’u hesemptio rhag talu buddiannau drwy’r gyflogres yn orfodol
Mae cyflogeion sy’n symud yn fyd-eang wedi’u hesemptio rhag talu buddiannau drwy’r gyflogres yn orfodol, ar yr amod eu bod yn bodloni’r amodau perthnasol Bydd angen i chi wneud cais am eithriad (yn agor tudalen Saesneg) erbyn 5 Ebrill 2027.
Cysylltu â ni
Mae’r llawlyfr arweiniad a deddfwriaeth dros dro (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi gwybodaeth fanwl i’ch helpu i baratoi ar gyfer talu buddiannau drwy’r gyflogres yn orfodol.
Os oes gennych unrhyw adborth am y newidiadau hyn, ebostiwch policyemploymentbenefitsexpenses@hmrc.gov.uk. Ni fyddwn yn gallu ymateb yn uniongyrchol i negeseuon e-bost, ond bydd eich adborth yn cael ei ystyried wrth wneud diweddariadau yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich materion treth eich hun, cysylltwch â CThEF.