Cynllun Iechyd Dofednod: aelodaeth a ffioedd
Sut gall cynhyrchwyr dofednod ymuno â'r Cynllun Iechyd Dofednod a thalu ffioedd amdano, a sut i dalu ffioedd i ddod yn un o'r labordai a gymeradwywyd gan y cynllun.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Mae aelodau’r cynllun iechyd dofednod (PHS) yn cael eu nabod fel sefydliadau dofednod a gymeradwywyd.
Pwy sydd angen ymuno
Rhaid i’ch mangre fod yn aelod a gymeradwywyd o’r PHS os ydych chi’n cadw dofednod a bod arnoch chi eisiau:
-
allforio neu symud mwy nag 20 o adar neu wyau deor o Brydain Fawr i’r UE neu Ogledd Iwerddon
-
gwerthu adar neu wyau deor i aelodau eraill o’r PHS
-
gwerthu adar neu wyau i aelod o Gynllun Sicrwydd Iechyd Dofednod Gogledd Iwerddon (NIPHAS)
-
allforio adar neu wyau deor i wledydd penodol y tu allan i’r UE sy’n gofyn ichi gydymffurfio (yn llawn neu’n rhannol) â Rheoliad yr UE 2019/2035, Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC neu ofynion cyfatebol
Rhaid ichi fod yn aelod os yw’r dystysgrif iechyd allforio (EHC) berthnasol yn dweud bod rhaid i’ch mangre fod yn rhan o Gynllun Iechyd Dofednod dan oruchwyliaeth llywodraeth.
Does dim angen ichi ymuno â’r PHS os ydych chi:
-
yn cadw dofednod sy’n cael eu defnyddio ar gyfer arddangosfeydd, sioeau neu gystadlaethau yn unig
-
yn cynhyrchu wyau i’r bwrdd neu gig dofednod
-
yn allforio neu’n symud llai nag 20 o adar neu wyau deor ar y tro o Brydain Fawr i’r UE neu Ogledd Iwerddon
Sut i ymuno â’r Cynllun Iechyd Dofednod
Gallwch ymuno â’r cynllun fel cynhyrchydd dofednod unigol neu fel cwmni dofednod. Rhaid ichi fod â chyfeiriad busnes cofrestredig.
Os oes gennych chi sawl mangre dofednod, rhaid ichi ymuno â’r cynllun ar gyfer pob un.
Mae yna wahanol gategorïau aelodaeth, gan ddibynnu ar eich math o fusnes, sef:
-
fferm
-
deorfa (gan gynnwys canolfannau dosbarthu wyau)
-
fferm a deorfa gyfun
Cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i ofyn am ffurflen gais i ymuno â’r Cynllun Iechyd Dofednod.
Ebost: CSCOneHealthPHS@apha.gov.uk
Ffôn: 03000 200 301
Bydd APHA yn anfon y canlynol atoch:
-
ffurflen gais
-
copi o lawlyfr aelodau’r PHS
-
gwybodaeth am sut i dalu’r ffi aelodaeth
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd tîm y PHS yn cysylltu â chi i drefnu i filfeddyg o APHA archwilio’ch mangre.
Os bydd milfeddyg APHA yn cymeradwyo’ch mangre a’ch dulliau gwaith, bydd angen ichi dalu’r ffi aelodaeth flynyddol a’r ffi am archwiliad y milfeddyg. Yna bydd APHA yn anfon rhif aelodaeth a thystysgrif atoch.
Bydd APHA yn eich ychwanegu at y rhestr o sefydliadau dofednod a gymeradwywyd unwaith y byddwch chi’n aelod. Bydd milfeddyg swyddogol yn cyfeirio at y rhestr hon wrth gwblhau’r dystysgrif iechyd allforio.
Dyw mangreoedd sydd newydd gael eu cymeradwyo ddim yn cael allforio i’r UE a Gogledd Iwerddon nes eu bod wedi bod yn aelodau o’r PHS am o leiaf 6 wythnos (sy’n cael ei nabod fel y ‘cyfnod aros 6 wythnos’). Darllenwch lawlyfr y PHS i gael rhagor o wybodaeth am y cyfnod aros 6 wythnos.
Rhaid ichi hefyd gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn y dystysgrif iechyd allforio berthnasol.
Rheoli’ch aelodaeth
Mae’r aelodaeth yn para am flwyddyn. Nid yw’n adnewyddu’n awtomatig.
Os bydd mangre aelod yn cael ei gwerthu neu ei throsglwyddo, ni fydd y fangre yn parhau yn aelod o’r cynllun yn awtomatig. Rhaid i’r preswylydd newydd wneud cais am ddod yn aelod o’r PHS.
Adnewyddu’ch aelodaeth
Mae’n rhaid ichi adnewyddu’ch aelodaeth bob blwyddyn er mwyn aros yn rhan o’r cynllun. Bydd APHA yn anfon llythyr atgoffa atoch fis cyn y dyddiad y dylech chi adnewyddu’ch aelodaeth.
Cyn diwedd eich aelodaeth flynyddol, mae’n rhaid ichi:
-
llenwi ac anfon ffurflen adnewyddu at APHA
-
talu’r ffi aelodaeth flynyddol i APHA
-
cael eich archwilio gan un o filfeddygon APHA neu filfeddyg preifat sydd wedi’i hyfforddi
Pan fydd APHA wedi cael eich ffurflen adnewyddu a’ch ffi, byddan nhw’n anfon llythyr adnewyddu atoch sy’n ddilys am y flwyddyn nesaf.
Gadael y Cynllun Iechyd Dofednod
Rhaid ichi roi hysbysiad ysgrifenedig i APHA os ydych am adael y cynllun.
Ebost: CSCOneHealthPHS@apha.gov.uk
Ffôn: 03000 200 301
Gallwch adael y cynllun unrhyw bryd, ond fydd gennych chi ddim hawl i gael ad-daliad ar eich cymeradwyaeth na’ch ffioedd aelodaeth.
Os hoffech ailymuno â’r cynllun, bydd angen ichi ailymgeisio a thalu ffi gofrestru arall.
Darllenwch lawlyfr aelodau’r PHS
Dylech ddarllen llawlyfr y cynllun iechyd dofednod i gael gwybodaeth am y canlynol:
-
beth sy’n digwydd ar ôl ichi wneud cais (gan gynnwys yr ymweliad archwilio cychwynnol, profion a’r cyfnod aros 6 wythnos cyn y cewch chi allforio)
-
gofynion archwilio blynyddol
-
gofynion y mae’n rhaid ichi eu dilyn fel aelod o’r PHS (gan gynnwys bioddiogelwch, cyfleusterau, meddyginiaethau a brechiadau)
-
profion a samplau y mae’n rhaid ichi eu cymryd a pha mor aml
Ffioedd: ffi aelodaeth, archwiliadau cymeradwyo ac adnewyddu
Rhaid ichi dalu:
-
ffi aelodaeth flynyddol sefydlog
-
ffi am archwiliadau cymeradwyo neu adnewyddu
-
ffi newidiol i dalu am yr archwiliad a’r amser teithio os cewch eich archwilio gan un o filfeddygon APHA
Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir
Rhaid ichi dalu £22 am bob chwarter awr neu lai am yr amser y bydd APHA yn ei dreulio yn archwilio’ch mangre.
Mae APHA yn cyfrifo’ch ffioedd archwilio a theithio i’r chwarter awr lawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.
Mae amser teithio wedi’i gapio ar 45 munud bob ffordd, felly fyddwch chi ddim yn talu mwy na £132 am gostau teithio.
Ffioedd
| Gwasanaeth | Ffioedd |
|---|---|
| Amser swyddog milfeddygol ar gyfer trwyddedu neu gymeradwyo | £22 |
| Amser teithio swyddog milfeddygol | £22 |
| Ffi gofrestru | £108 |
| Cymeradwyaeth y flwyddyn gyntaf i haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu haid a deorfa gyfunol ar un safle, lle mae’r archwiliad yn cael ei gyflawni gan filfeddyg o APHA | £71 |
| Adnewyddu haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun neu haid a deorfa gyfunol yn flynyddol ar un safle, lle mae’r archwiliad yn cael ei gyflawni gan filfeddyg nad yw’n filfeddyg o APHA | £67 |
| Adnewyddu haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun neu haid a deorfa gyfunol yn flynyddol, safle ychwanegol, lle mae’r archwiliad yn cael ei gyflawni gan filfeddyg nad yw’n filfeddyg o APHA | £39 |
| Adnewyddu haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun neu haid a deorfa gyfunol yn flynyddol, ar un safle, lle mae’r archwiliad yn cael ei gyflawni gan filfeddyg o APHA | £67 |
| Adnewyddu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun yn flynyddol, safle ychwanegol, lle mae’r archwiliad yn cael ei gyflawni gan filfeddyg o APHA | £39 |
Ffioedd i weithredwyr labordy sicrhau cymeradwyaeth
Mae APHA yn cymeradwyo labordai i gynnal profion diagnostig ar gyfer y Cynllun Iechyd Dofednod. Mae pob labordy yn cael ei gymeradwyo i gyflawni mathau penodol o brofion at ddibenion y PHS.
Gweler y rhestr o labordai a gymeradwywyd gan y Cynllun Iechyd Dofednod.
Rhaid i weithredwyr labordai dalu ffioedd i gynnal profion ar ran y PHS. Rhaid ichi dalu am adnewyddu bob dwy flynedd.
Rhaid i labordai swyddogol hefyd dalu ffioedd am gynnal profion hyfedredd.
| Gwasanaeth | Ffioedd |
|---|---|
| Cais am gymeradwyaeth gychwynnol neu adnewyddiad i labordy | £86 |
| Prawf hyfedredd bacterioleg Salmonela (pullorum, gallinarum ac arizonae) | £158 y prawf |
| Prawf hyfedredd seroleg Salmonela (pullorum, gallinarum) | £310 y prawf |
| Prawf hyfedredd seroleg cyw iâr Mycoplasma (gallisepticum) | £310 y prawf |
| Prawf hyfedredd meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | £280 y prawf |
| Prawf hyfedredd seroleg twrci Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | £310 y prawf |
Updates to this page
-
Updated the Welsh translation.
-
Added a link to the updated handbook for members which has had changes throughout. The handbook includes new guidance for egg distribution centres, provide clarity on testing requirements for newly approved flocks and the 6-week wait period before you can export. Also updated guidance to provide clarity on biosecurity, routine testing and record keeping, clinical examination and published a new summary of testing schedules.
-
Updated the Poultry Health Scheme handbook (PDF). Clarified surveillance requirements for Salmonella Pullorum/Gallinarum in the hatchery.
-
Updated the table under 'Fees for approval and to join the PHS'.
-
In Wales, there are new fees for PHS services from 5 July 2023. Some fees will increase again on 1 July 2024.
-
In England and Scotland, there are new fees for the Poultry Health Scheme from 1 July 2023. Some fees will increase again on 1 July 2024.
-
Requirements for export health certificates have changed and PHS handbook has been updated.
-
Updated scheme contact details
-
Update to Fees
-
AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).
-
Updated contact details for queries and correspondence about the Poultry Health Scheme
-
First published.