Talu Toll Hapchwarae neu Doll Bingo
Sut i dalu Toll Hapchwarae neu Doll Bingo, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu Toll Hapchwarae neu Doll Bingo, a’r hyn sydd i’w wneud os oes gennych ddim byd i’w dalu.
Mae canllawiau ar wahân ar gyfer talu Toll Peiriannau Hapchwarae a thalu Toll Fetio Cyffredinol, Toll Cronfa Fetio a Tholl Hapchwarae o Bell (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i dalu
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Toll Hapchwarae
Ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu 6 mis, defnyddiwch ffurflen GD95 (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r doll sy’n ddyledus, a’i thalu erbyn y dyddiadau canlynol.
| Cyfnod cyfrifyddu | Taliad GD95 sy’n ddyledus |
|---|---|
| 1 Ebrill i 30 Medi | 31 Hydref |
| 1 Hydref i 31 Mawrth | 30 Ebrill |
Mae’n rhaid i ddatganiadau a thaliadau ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar unrhyw ddyddiad arall gyrraedd CThEF cyn pen un mis calendr i ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu dan sylw.
Enghraifft
| Cyfnod cyfrifyddu | Taliad GD95 sy’n ddyledus |
|---|---|
| 10 Gorffennaf i 9 Rhagfyr | 9 Ionawr |
| 16 Rhagfyr i 15 Mehefin | 15 Gorffennaf |
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Toll Bingo
Mae eich datganiad Toll Bingo a’ch taliad yn ddyledus dim mwy na 15 diwrnod cyn diwedd eich cyfnod cyfrifyddu.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Os mai eich patrwm masnachu arferol yw cau dros dro yn ystod misoedd penodol, ni fydd angen i chi gwblhau datganiadau ‘dim’ ar y Doll Bingo ar gyfer y tymor rydych chi ar gau.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am y dyddiadau perthnasol ymlaen llaw drwy’r post neu dros y ffôn (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn sydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich tystysgrif cofrestru.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:
-
bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
-
byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad
Talu ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:
-
cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
I drefnu Debyd Uniongyrchol, gallwch argraffu ffurflen cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon drwy’r post.
Dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol. Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu os na fydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i drefnu mewn pryd.
Unwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol, bydd y swm a ddangosir ar eich datganiad yn cael ei gasglu’n awtomatig.
Mae’n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull arall os ydych yn gwneud taliad o £20 miliwn neu fwy.
Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
-
cod didoli — 08 32 00
-
rhif y cyfrif — 12000911
-
enw’r cyfrif — HMRC Gaming Duties
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB95 BARC 2005 1780 5633 90
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — HMRC Gaming Duties
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Talu â siec
Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD
Os oes gennych ddim byd i’w dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth i CThEF hyd yn oed os ydych wedi cyfrifo bod gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi.
Mae eithriadau ar gyfer datganiadau ‘dim’ ar y Doll Bingo (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
Information about the maximum amount you can pay by Direct Debit has been updated.
-
In the How to Pay section, the account names for sending payments to HMRC have changed. In particular 'HMRC GACA' and 'HMRC Import and Excise Duties euro' have changed to 'HMRC Gaming Duties'.
-
You need your 15 character charge reference number starting with X to pay Gaming or Bingo Duty.
-
Guidance about approving a payment through your online bank account has been added.
-
The process for reporting and paying your gaming duty has changed from 1 October 2019.
-
Guidance on paying by cheque through the post has been updated.
-
Guide updated to show payments can't be made with a personal credit card.
-
Guidance updated to show it won't be possible to make a payment with a personal credit card from 13 January 2018.
-
Credit card fees have changed.
-
New Barclays bank account details and International Bank Account Number added.
-
The pay by cheque through the post address has changed to HM Revenue and Customs, Direct, BX5 5BD.
-
Notification that from 1 January 2016 changes will be introduced to limit the number of credit and debit card payments that can be made to any single tax regime within a given period.
-
The online debit or credit card non-refundable fee has been increased to 1.5%.
-
HMRC have launched a new payment service - you may be directed to WorldPay if you pay online by debit or credit card. The new service uses a different service provider to BillPay.
-
First published.