Anfon eich datganiad Toll Bingo ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno’ch datganiad Toll Bingo i CThEF.
Cyflwynwch eich datganiad Toll Bingo misol drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddiwygio Ffurflen Dreth flaenorol.
Darllenwch ‘Talu Toll Hapchwarae neu Doll Bingo’ (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i’r gwahanol ffyrdd gallwch dalu’r doll.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn i chi ddechrau
Mae’n rhaid i chi fewngofnodi er mwyn anfon eich ffurflen Datganiad Toll Bingo ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu rhai pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Cyn i chi gyflwyno’ch datganiad, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif cofrestru’r Doll Bingo
- cod post eich busnes cofrestredig
- cyfrifon a chofnodion i gyfrifo’ch elw
- eich datganiad blaenorol os hoffech hawlio colled
Cyflwyno’ch Datganiad Toll Bingo
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cysylltwch â’r Tîm Prosesu Ecséis (yn agor tudalen Saesneg) i gael ffurflen bapur i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Anfon datganiad fel asiant neu gynrychiolydd
Gall asiantau neu gynrychiolwyr personol hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Bydd angen ei god mynediad a rhif cofrestru Toll Bingo ei gleient.
Diwygio Ffurflen Dreth neu ofyn am ad-daliad
Os bu gwall a olygodd nad oeddech wedi talu digon o Doll Bingo, dylech wneud addasiad ar eich Ffurflen Dreth nesaf.
Os arweiniodd y gwall at i chi dalu gormod, gallwch ofyn am ad-daliad drwy ysgrifennu at y Tîm Prosesu Ecséis (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch Hysbysiad Ecséis 212: llog statudol ac ad-daliad Treth Ecséis a or-dalwyd (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth ar sut i ofyn am ad-daliad.
Updates to this page
-
A Welsh translation of the page has been added.
-
A new section, 'Amend a return or request a repayment', has been added.
-
First published.