Llwybrau Cenedlaethol: cynnal a chadw’r llwybrau
Darganfyddwch pwy sy’n rheoli, cynnal a chadw a gwella’r llwybrau a sut y caiff newidiadau eu gwneud i’r llwybrau.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Llwybrau cerdded hir drwy Gymru a Lloegr yw’r Llwybrau Cenedlaethol. Mae rhai o’r llwybrau hefyd ar agor i feicwyr a marchogwyr.
Gallwch ddod o hyd i fapiau rhyngweithiol ar gyfer pob llwybr a lawrlwytho data GPX (Fformat Cyfnewid GPS) ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ddata gwybodaeth ddaearyddol (GI) yn y:
-
setiau data geo-ofodol ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol yn Lloegr ar Borth-Daear Data Agored Natural England
-
setiau data geo-ofodol ar gyfer rhannau cymeradwy o Lwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III ar Borth-Daear Data Agored Natural England
-
setiau data geo-ofodol ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru ar MapDataCymru
Gallwch lawrlwytho’r data i’w ddefnyddio mewn cymwysiadau system gwybodaeth ddaearyddol. Bydd angen meddalwedd megis ArcMap, ArcGIS Pro neu QGIS arnoch i gael mynediad at y data a’i ddefnyddio.
Rheoli’r llwybrau
Caiff Llwybrau Cenedlaethol eu ‘dynodi’ gan y llywodraeth, sy’n golygu bod ganddynt statws arbennig, a chânt eu gwarchod oherwydd eu pwysigrwydd naturiol a diwylliannol. Fe’u gweinyddir gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn Lloegr, mae awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill o bryd i’w gilydd, yn ffurfio partneriaeth ac yn cydweithio i gynnal a chadw pob llwybr. Yng Nghymru, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynnal a chadw pob llwybr.
Fel arfer, caiff swyddog neu reolwr llwybr penodedig ei benodi i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y llwybr yn cydymffurfio â’r safonau a osodwyd ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol.
Awdurdodau priffyrdd lleol fel arfer sy’n cydlynu ac yn ymgymryd â’r gwaith cynnal a chadw ar y llwybrau, gyda chymorth tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr o bryd i’w gilydd.
Gallwch bori drwy:
-
y safonau rheoli ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol yn Lloegr yma
-
y safonau ansawdd ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru yma
Cyllid ar gyfer y llwybrau
Darperir cyllid ar gyfer y Llwybrau Cenedlaethol gan:
-
y llywodraeth drwy Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru
-
awdurdodau priffyrdd lleol
-
partneriaid ariannu eraill
Hygyrchedd y llwybrau
Mae partneriaethau Llwybrau Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn helpu i wneud y llwybrau’n hygyrch i fwy o bobl. Er enghraifft, trwy gael gwared ar gatiau a chamfeydd, gwella arwynebau, a darparu gwybodaeth mewn ffyrdd mwy hygyrch.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am:
-
llwybrau hygyrch eraill drwy eich cyngor lleol
Newidiadau i’r llwybrau
Gall cwrs pob llwybr newid. Mae’r rhan fwyaf o newidiadau yn rhai dros dro neu’n rhai tymhorol.
Rhaid dilyn proses ffurfiol er mwyn gwneud newidiadau parhaol i’r llwybrau. Mae gwahanol brosesau yn bodoli ar gyfer:
-
Llwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III
-
Llwybrau Cenedlaethol eraill
Llwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III
Gall Natural England gynnig newidiadau parhaol i Lwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III os oes angen. Mae’n bosib gweld y newidiadau arfaethedig ar GOV.UK ar ffurf ‘adroddiad amrywiad’.
Gallwch weld newidiadau arfaethedig i rannau o lwybr yr arfordir sydd o dan ddatblygiad neu sydd eto i gael eu hagor yma.
Gallwch weld sut i wneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig neu eu gwrthwynebu yma.
Llwybrau Cenedlaethol eraill
Mae’r rhan fwyaf o Lwybrau Cenedlaethol yn dilyn hawliau tramwy cyhoeddus a oedd eisoes yn bodoli. Eich cyngor lleol sy’n gwneud penderfyniadau o ran cofnodi a newid hawliau tramwy cyhoeddus, a all gynnwys Llwybrau Cenedlaethol.
Gallwch wneud sylwadau ar orchymyn hawl tramwy neu ei wrthwynebu pan gaiff ei hysbysebu gan y cyngor.
Cysylltu
Defnyddiwch y ffurflen Llwybrau Cenedlaethol ar-lein berthnasol i wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod am broblem ar y llwybrau – er enghraifft, rhwystrau, pethau mae angen eu cynnal a’u cadw, neu arwydd camarweiniol
-
gofyn cwestiwn am hygyrchedd ar y llwybrau
-
darganfod cyfleoedd i wirfoddoli
Os ydych chi’n rhedeg busnes ar lwybr neu gerllaw, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer busnesau ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.