Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr
Cael gwybodaeth am y Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae yna 17 o Lwybrau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mesen yw’r symbol ar gyfer pob Llwybr Cenedlaethol, a defnyddir y symbol i ddangos trywydd y llwybrau. Fe welwch chi’r rhain ar hyd y llwybrau, er enghraifft ar gatiau ac arwyddion.
Mae’r llwybrau ar agor i bawb ar gyfer teithiau cerdded byr, teithiau dydd neu heriau cerdded pell. Gall beicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau ddefnyddio Llwybr Ceffylau’r Penwynion a Llwybr y Twyni Deheuol, yn ogystal â rhannau o rai o’r llwybrau eraill.
Yn yr Alban, gelwir y llwybrau cyfatebol yn Llwybrau Mawr yr Alban.
Ymweld â llwybr
Gallwch gael hyd i wybodaeth am bob llwybr, gan gynnwys:
- hygyrchedd ar y llwybr
- yr hyn y gallwch ei brofi ar y llwybr
- rhannau o’r llwybr
- mapiau ar gyfer y llwybr
- pwy i gysylltu â nhw ynglŷn â’r llwybr
Paratowch am eich ymweliad
Sut i gynllunio a pharatoi am eich ymweliad â Llwybr Cenedlaethol.
Cynnal a chadw'r llwybrau
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am:
- bwy sy’n rheoli, cynnal a chadw a gwella’r llwybrau
- sut y gwneir newidiadau i’r llwybrau