Skip to main content
Canllawiau

Llwybrau Cenedlaethol: paratowch ar gyfer eich ymweliad

Sut i gynllunio eich ymweliad â Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr a pharatoi ar ei gyfer.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Gwiriwch eich llwybr  

Gwiriwch a oes unrhyw ddargyfeiriadau neu lwybrau ar gau

Efallai y bydd rhannau o’ch llwybr yn wahanol i’r hyn sydd ar eich map neu yn eich teithlyfr. Er enghraifft, efallai fod:

  • newidiadau dros dro wedi’u gwneud oherwydd erydiad, gwaith atgyweirio, gwaith rheoli tir neu ddigwyddiadau lleol

  • newidiadau tymhorol wedi’u gwneud er eich diogelwch, neu er mwyn amddiffyn bywyd gwyllt

  • llwybrau dewisol – adrannau lle gallwch ddewis pa lwybr yr hoffech ei ddilyn

Os bydd unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r llwybr, bydd y rhain wedi’u nodi’n glir ar arwyddion. Dylech sicrhau eich bod yn dilyn arwyddion lleol ar y llwybr bob amser.

Gallwch hefyd wirio unrhyw ddargyfeiriadau neu lwybrau sydd wedi cau ar fapiau’r llwybrau ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol

Gwiriwch y fferïau sy’n rhan o’r daith

Ar rai llwybrau, bydd angen i chi fynd ar fferi fel rhan o’ch taith. Mae’r rhain yn bennaf ar Lwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III. 

Dylech wirio’r amserlenni fferi lleol. Mae rhai fferïau yn dymhorol neu’n rhedeg ar adegau penodol yn unig. Mae’n bosibl na fydd fferïau’n rhedeg mewn tywydd garw neu lanw eithafol hefyd.

Gwiriwch pa rannau sydd ar agor i feicwyr a marchogwyr 

Gallwch ddod o hyd i ba rannau o’r llwybrau y gall beicwyr neu farchogwyr eu defnyddio ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.

Mae rhai hawliau tramwy cyhoeddus hefyd ar agor i farchogwyr, beicwyr neu fodurwyr. Gallwch ddod o hyd i hawliau tramwy cyhoeddus ar y canlynol: 

Cynlluniwch eich taith

Cynlluniwch eich cludiant

Gwiriwch ble mae eich llwybr yn dechrau ac yn gorffen. Bydd angen i chi gynllunio sut y byddwch yn cyrraedd yno ac yn dod adref, neu’n dychwelyd i’ch llety os ydych yn aros dros nos. 

Mae’r llwybrau’n mynd trwy leoedd sydd â mynediad i fysiau, trenau a gwasanaethau trafnidiaeth eraill, neu’n agos atynt.  

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys yr adnodd cynllunio teithiau, yn www.traveline.info.

Archebu llety

Mae yna ystod o leoedd i aros ar hyd y llwybrau neu yn y cyffiniau. 

Os ydych yn bwriadu gwersylla, bydd angen i chi ddod o hyd i faes gwersylla swyddogol. Fel arfer, ni allwch wersylla’n wyllt ar dir ger y llwybrau – byddai angen i chi gael caniatâd gan berchennog y tir.

Efallai yr hoffech archebu eich llety ymlaen llaw gan y gall lleoedd ger y llwybrau lenwi’n gyflym, yn enwedig yn y gwanwyn a’r haf ac ar wyliau banc.

Trefnu i drosglwyddo eich bagiau

Os nad ydych eisiau cario’ch bagiau ar hyd y llwybr, mae cwmnïau y gallwch eu llogi i symud eich bagiau o un man aros i’r llall, neu o ddechrau i ddiwedd eich llwybr.

Cael cymorth i gynllunio eich taith

Gallwch ddefnyddio cwmni gwyliau i wneud y canlynol:

  • archebu gwyliau neu daith gerdded dywysedig

  • archebu eich llety neu wasanaeth trosglwyddo bagiau

  • cynllunio eich taith eich hun

Cyn i chi ddechrau

Os ydych chi’n mynd ar eich pen eich hun, dywedwch wrth rywun ble rydych chi’n bwriadu mynd a rhowch wybod iddynt os bydd eich cynlluniau’n newid.

Gwiriwch y tywydd ac amseroedd y llanw

Gwiriwch y rhagolygon tywydd cyn i chi gychwyn. Gall amodau newid yn gyflym ar fynyddoedd ac ar hyd yr arfordir. Byddwch yn barod i droi yn ôl os bydd yr amodau’n newid pan fyddwch ar y llwybr.

Os yw eich llwybr wrth y môr neu ger afon lanw, gwriwch amseroedd y llanw cyn i chi adael i leihau’r risg eich bod yn cael eich dal gan lanw sy’n codi.

Ewch â map

Lawrlwythwch fap neu sicrhewch eich bod yn cael gafael ar fap, teithlyfr neu gyfarwyddiadau cyn i chi adael. Efallai na fydd gennych fynediad i’r rhyngrwyd ar y llwybr, felly ni ddylech ddibynnu ar adnoddau ar-lein yn unig.

Gallwch chwilio am dir ger y llwybr y gallwch ei archwilio (a elwir yn ‘dir mynediad agored’) a gwirio a yw unrhyw ran o’r tir hwnnw ar gau i gerddwyr ar hyn o bryd. Cewch hyd i’r canlynol:

Cadw mewn cysylltiad ar y llwybr

Cyn i chi adael, dylech wefru’ch ffôn symudol ac unrhyw ddyfeisiau eraill y bydd eu hangen arnoch ar y llwybr yn llawn. Ar gyfer teithiau hirach, efallai yr hoffech fynd â banc pŵer cludadwy gyda chi.

Gall signal ffôn fod yn anghyson ar hyd y llwybrau. Efallai y bydd rhai ardaloedd lle nad oes gennych signal o gwbl.

Mae Wi-Fi ar gael mewn rhai tafarndai, caffis a lleoedd aros ar hyd y llwybrau. 

Beth i’w bacio  

Ceisiwch beidio â chario gormod o bwysau yn eich bag.

Ar gyfer rhai llwybrau, bydd angen i chi bacio cwmpawd a map a gwybod sut i’w defnyddio.

Bwyd a dŵr

Ar gyfer pob diwrnod ar y llwybr, dylech gario’r canlynol:

  • byrbrydau a bwyd

  • digon o ddŵr – yn enwedig ar ddiwrnodau poeth

Er bod tafarndai, caffis a siopau ar rai o’r llwybrau neu gerllaw, dylech gario digon o fwyd a dŵr ar gyfer pob diwrnod.

Efallai y bydd rhannau anghysbell yn rhan o’r llwybr sy’n golygu bod mynediad at ddŵr yn gyfyngedig. Os ydych yn bwriadu yfed dŵr o nentydd, dylech ddefnyddio offer puro.

Dillad ac esgidiau addas

Dylech fod yn barod am dywydd newidiol. Bydd angen esgidiau da arnoch (megis esgidiau cerdded), dillad gwrth-ddŵr a haenau cynnes.

Mewn tywydd poeth, efallai y bydd angen eli haul, het a haenau ysgafn arnoch chi.

Eitemau mewn argyfwng

Os ydych yn mynd ar daith hirach, neu i ardal anghysbell, dylech fynd â phecyn argyfwng gyda chi. Gallai hwn gynnwys chwiban, fflachlamp, pecyn cymorth cyntaf, bag goroesi a bwyd ychwanegol.

Ar y llwybr

Dilynwch yr arwyddion

Mae pob Llwybr Cenedlaethol yn hawdd ei ddilyn ac wedi’i farcio â symbol mesen neu enw’r llwybr. Fe welwch chi’r rhain ar hyd y llwybr, er enghraifft ar gatiau ac arwyddion.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld y canlynol:

  • arwyddion sy’n dangos dargyfeiriadau neu lwybrau amgen

  • arwyddion perygl neu rybudd – er enghraifft, yn rhybuddio am y llanw, am greigiau a all syrthio neu ymylon clogwyni

  • gwybodaeth leol ar arwyddion a hysbysfyrddau

  • arwyddion eraill – megis i gadw cŵn ar dennyn

Mae hawliau tramwy cyhoeddus wedi’u marcio ag arwyddion neu saethau lliw – er enghraifft, melyn ar gyfer llwybrau troed, glas ar gyfer llwybrau ceffylau. Gallwch eu defnyddio i adael y llwybr a chwblhau taith gerdded gylchol, archwilio lleoedd o ddiddordeb, cyrraedd eich llety, neu ddod o hyd i leoedd i fwyta ac yfed.

Byddwch yn ofalus ar yr arfordir

Os ydych chi ar yr arfordir, byddwch yn ymwybodol o risgiau megis:

  • stormydd

  • ymylon clogwyni

  • creigiau llithrig neu ansefydlog

  • mwd a sugndraeth

  • y llanw – er mwyn osgoi cael eich dal

Dilynwch ganllawiau gan Wylwyr y Glannau EF ar sut i fod yn ddiogel ar yr arfordir.

Cael cymorth mewn argyfwng

Os ydych chi mewn argyfwng, ffoniwch 999.  

Os ydych chi:

  • ar yr arfordir, gofynnwch am wylwyr y glannau

  • mewn man anghysbell, gofynnwch am yr heddlu ac yna’r gwasanaeth achub mynydd neu wasanaeth chwilio ac achub yr iseldir

Bod yn ymwybodol o’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau 

Dylech ddilyn y canllawiau ar hawliau tramwy a mynediad i dir,, gan gynnwys sut i wneud y canlynol:

  • defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus

  • defnyddio eich hawl i grwydro

  • cael mynediad i dir preifat

Helpwch i amddiffyn yr amgylchedd naturiol drwy ddilyn y canlynol:

Os ydych chi ger yr arfordir, cadwch yn ddiogel trwy ddilyn cyngor diogelwch Gwylwyr y Glannau EF.

Rhaid i berchnogion a rheolwyr tir sicrhau eu bod yn gwneud y canlynol:

Cysylltu

Defnyddiwch y ffurflen Llwybrau Cenedlaethol ar lein berthnasol i roi gwybod am broblem ar y llwybr, megis rhwystrau, pethau mae angen eu cynnal a’u cadw, neu arwydd camarweiniol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2026

Argraffu'r dudalen hon