Canllawiau

Rheoli eich cais Credyd Cynhwysol ar ôl i chi wneud cais

Beth allwch chi ei ddisgwyl ar ôl gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a sut i ddefnyddio'ch cyfrif.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais am Gredyd Cynhwysol, does dim mwy y mae angen i chi ei wneud ar unwaith – ac nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Byddwn yn edrych dros eich cais ac yn cysylltu â chi os ydym angen mwy o wybodaeth.

Os oes angen i ni gysylltu â chi, bydd yn yr wythnosau cyntaf ar ôl gwneud eich cais. Byddwn yn anfon neges dyddlyfr atoch neu’n eich ffonio chi. Darganfyddwch fwy am defnyddio’ch dyddfyfr.

Sut i wybod na ni sy’n ffonio

Gall galwadau gennym ni ddangos ar eich ffôn fel un o’r rhain:

  • 0800 0232 635
  • 0800 640 4999
  • rhif anhysbys
  • rhif wedi’i gadw yn ôl

Os ydych chi wedi blocio galwadau o rifau wedi’u cadw yn ôl, ceisiwch eu dadflocio. Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod bod yr alwad yn ddilys. Os ydym yn eich ffonio, gallwch hefyd ofyn i ni adael neges yn eich dyddlyfr fel eich bod yn gwybod mai ni sy’n ffonio.

Ni fyddwn byth yn anfon neges destun nac e-bost atoch yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu fanylion banc.

Eich pwynt cyswllt o fewn Credyd Cynhwysol

Ar ôl i ni edrych dros eich cais, byddwch yn cael rheolwr achos a fydd yn eich helpu i gynnal eich cais. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch hefyd yn cael anogwr gwaith a fydd yn eich cefnogi i gael gwaith.

Eich taliad cyntaf

Fel arfer, rydych yn cael eich taliad cyntaf 5 wythnos ar ôl i chi wneud cais. Darllenwch fwy am sut mae taliadau Credyd Cynhwysol yn gweithio.

Cael taliad ymlaen llaw cyn eich taliad cyntaf

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw os ydych angen arian cyn eich taliad cyntaf, er enghraifft am rent neu fwyd.

Gelwir hyn weithiau’n ‘daliad ymlaen llaw ar gais newydd’.

Bydd angen i chi dalu hyn yn ôl. Bydd arian yn cael ei dynnu o’ch taliadau Credyd Cynhwysol nes bod eich taliad ymlaen llaw wedi’i dalu’n ôl. Darllenwch fwy am gwneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol cyn eich taliad cyntaf.

Eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

Mae’r cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein yn eich helpu i reoli eich cais Credyd Cynhwysol.

Eich cyfrif yw lle rydych yn:

  • gweld pryd mae’ch taliad nesaf yn ddyledus a faint y byddwch yn ei gael
  • anfon negeseuon at eich anogwr gwaith neu reolwr achos drwy ddefnyddio’ch dyddiadur
  • edrych dros eich rhestr o bethau i’w gwneud am unrhyw dasgau y mae angen i chi eu cwblhau
  • rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau i wneud yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir o Gredyd Cynhwysol
  • gweld eich ymrwymiad hawlydd

Defnyddio eich dyddlyfr

Mae eich dyddlyfr yn rhan o’ch cyfrif ar-lein.

Os ydych yn defnyddio’r cyfrif ar-lein i reoli eich cais Credyd Cynhwysol, byddwch yn defnyddio’r dyddlyfr i gadw mewn cysylltiad â’ch anogwr gwaith neu reolwr achos. Mae’r dyddlyfr yn eich helpu i reoli eich cais a chyfathrebu â Credyd Cynhwysol.

Gallwch hefyd ei ddefnyddio i:

  • ddweud wrthym beth rydych yn ei wneud i ddod o hyd i waith fel ceisiadau am swyddi, cyfweliadau am swyddi a hyfforddiant
  • gweld cofnod o bopeth rydych chi wedi’i wneud ar gyfer Credyd Cynhwysol
  • gofyn cwestiynau cyffredinol neu ddweud rywbeth wrthym, yn hytrach na’n ffonio ni

Peidiwch â chynnwys gwybodaeth a allai eich rhoi mewn perygl o dwyll, er enghraifft, manylion banc neu rifau Yswiriant Gwladol.

Pan fyddwn yn anfon neges dyddlyfr atoch, byddwch fel arfer yn cael neges destun neu e-bost yn dweud wrthych i edrych ar eich cyfrif ar-lein. Edrychwch ar eich dyddlyfr yn rheolaidd.

Nid yw eich dyddlyfr yn wasanaeth negeseuon ar y pryd ac efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i ymateb i chi. Bydd ein hatebion yn cael eu hanfon yn ystod ein horiau agor arferol.

Defnyddio eich rhestr o bethau i’w gwneud

Mae eich rhestr o bethau i’w gwneud yn rhan o’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os oes unrhyw beth y mae angen i chi ei wneud, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn eich rhestr o bethau i’w gwneud. Edrychwch ar eich cyfrif yn rheolaidd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau popeth yn eich rhestr o bethau i’w gwneud cyn gynted â phosibl – fel arall gallai eich taliad gael ei ohirio neu ei stopio. Gelwir hyn yn sancsiwn. Mae cwblhau popeth yn eich rhestr o bethau i’w gwneud yn rhan o’ch ymrwymiad hawlydd.

Pan fyddwch wedi gorffen rhywbeth yn eich rhestr o bethau i’w gwneud, mae’n cael ei ddangos ar eich dyddlyfr. Mae hyn felly bod cofnod o bopeth rydych wedi’i wneud.

Apwyntiadau

Rhan arall o’ch ymrwymiad hawlydd yw mynychu apwyntiadau Credyd Cynhwysol.

Pan fyddwn yn trefnu apwyntiad i chi, byddwn yn anfon peth i’w wneud atoch yn dweud wrthych pryd a ble i fynychu.

Gall apwyntiadau fod dros y ffôn, drwy fideo neu wyneb yn wyneb gydag anogwr gwaith. Mae’n bwysig eich bod yn mynychu eich apwyntiadau. Rhaid i chi gyrraedd ar amser.

Os na allwch fynychu eich apwyntiad

Rydym yn disgwyl i chi fynychu eich apwyntiad. Os na allwch fynychu apwyntiad, rhaid i chi adael neges yn eich dyddlyfr yn rhoi’r rhesymau pam. Ceisiwch wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Apwyntiadau y mae’n rhaid i chi eu mynychu

Os yw’r apwyntiad yn ‘orfodol’, yna rhaid i chi fynychu. Bydd yr peth i’w wneud ar gyfer yr apwyntiad yn dweud wrthych os yw’n orfodol. Os nad ydych yn mynychu heb beth rydym yn credu sydd yn reswm da, bydd eich taliad yn cael ei effeithio. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Asesiadau Gallu i Weithio

Os ydych yn dweud wrthym am anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich ‘gallu i weithio’, efallai y byddwch angen Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Byddwn yn cysylltu â chi os byddwch angen WCA, ac yn dweud wrthych sut a phryd bydd yn digwydd. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai y gofynnir i chi.

Amddiffyn rhag sgamiau a thwyll

Ni fyddwn byth yn anfon neges destun nac e-bost yn gofyn i chi am eich gwybodaeth bersonol neu fanylion banc.

Rhannu gwybodaeth

Peidiwch â rhannu gwybodaeth os ydych yn meddwl efallai nad yw galwad, neges destun neu e-bost yn dod o Gredyd Cynhwysol. Gallai fod yn sgam.

Darllenwch fwy am sylwi ar sgamiau gwe-rwydo a sut i roi gwybod amdanynt.

Peidiwch â rhannu manylion am eich cais Credyd Cynhwysol ar gyfryngau cymdeithasol.

Mesurau amddiffynnol eraill

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r feddalwedd ar eich cyfrifiadur yn gyfredol a chymerwch ofal wrth ddefnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus neu wifi.

Dysgwch fwy am osod y diweddariadau meddalwedd ac ap diweddaraf.

Os ydych yn credu bod rhywun arall wedi cael Mynediad i’ch cyfrif

Dylech newid eich cyfrinair ar unwaith a cysylltwch â Chredyd Cynhwysol.

Sut i gau cais

Os ydych yn meddwl nad oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol mwyach oherwydd newid, y peth cyntaf y mae angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod am newid gan ddefnyddio eich cyfrif ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i’r cyfrif ar-lein, ffoniwch eich canolfan waith neu siaradwch â’ch anogwr gwaith yn eich apwyntiad nesaf.

Nid oes angen i chi gau eich cais, byddwn yn gwneud hyn i chi. Byddwn hefyd yn gwirio os oes unrhyw arian yn ddyledus i chi.

Er enghraifft, efallai y bydd gennych hawl i rywfaint o arian o Gredyd Cynhwysol os ydych yn:

  • cael swydd
  • gadael y wlad
  • dechrau gweithio mwy o oriau
  • gwella o gyflwr iechyd

Os byddwch yn dweud wrthym am newid ar unwaith, byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich talu’r swm cywir. Os byddwn yn penderfynu nad oes gennych hawl mwyach, byddwn yn cau eich cyfrif ar yr amser iawn. Byddwch yn cael neges destun neu e-bost os bydd hyn yn digwydd.

Os ydych yn penderfynu eich bod am gau eich cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:

Darganfyddwch fwy am roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Rhoi gwybod am farwolaeth

I roi gwybod am farwolaeth, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol neu gadewch neges yn eich dyddlyfr. Os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Medi 2025

Argraffu'r dudalen hon