Canllawiau

Sut i drin rhai treuliau a buddiannau a roddir i gyflogeion yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Cael gwybod am dreuliau a buddiannau trethadwy pan gânt eu talu i gyflogeion oherwydd coronafeirws a sut i roi gwybod amdanynt i CThEM.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s no longer current. Read more about employer provided expenses and benefits.

Mae’r arweiniad hwn yn ymwneud â’r driniaeth o ran Treth Incwm yn unig. Mae’n bosibl y bydd y driniaeth o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn amrywio yn dibynnu ar y buddiant neu’r draul unigol.

Profion coronafeirws (COVID-19)

Nid yw profion coronafeirws, a ddarperir gan y llywodraeth fel rhan o’i chynllun profi cenedlaethol, yn cael eu trin fel buddiant at ddibenion trethi.

Os ydych yn cyflogi gweithwyr gofal iechyd a staff rheng flaen cymwys arall sy’n cael prawf drwy’r rhaglen hon, mae hyn yn golygu nad oes treth yn ddyledus ac nad oes angen i chi roi gwybod i CThEM am fuddiant.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun profi cenedlaethol ar gael yn y canllaw gweithwyr hanfodol: mynnwch brawf heddiw i wirio a oes coronafeirws arnoch.

Os ydych yn rhoi pecynnau i brofi am antigenau i’ch cyflogeion y tu allan i gynllun profi cenedlaethol y llywodraeth, naill ai’n uniongyrchol neu drwy brynu profion sy’n cael eu cynnal gan drydydd parti, ni fydd Treth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus. Yn yr un modd, ni fydd cyflogwyr na’u cyflogeion yn agored i unrhyw Dreth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fo cyflogai’n cael arian gan ei gyflogwr am gael prawf.

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Os yw’ch cyflogeion yn gweithio mewn sefyllfa lle mae’r risg o drosglwyddo coronafeirws (COVID-19) yn uchel iawn, a bod eich asesiad risg yn dangos bod angen Cyfarpar Diogelu Personol arnynt, mae’n rhaid i chi ddarparu’r Cyfarpar Diogelu Personol hwn i’ch cyflogeion yn rhad ac am ddim. Mae’n rhaid i unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol yr ydych yn ei ddarparu i’ch cyflogeion eu ffitio’n iawn. Nid yw darparu Cyfarpar Diogelu Personol i’ch cyflogeion yn drethadwy.

Os oes angen Cyfarpar Diogelu Personol ar eich cyflogeion i gyflawni’u swydd ac nad ydych yn gallu ei ddarparu, mae’n rhaid i chi ad-dalu treuliau gwirioneddol eich cyflogeion sy’n prynu Cyfarpar Diogelu Personol eu hunain. Nid yw hyn yn drethadwy, ac ni all cyflogeion hawlio rhyddhad treth ar y treuliau hyn oddi wrth CThEM.

Llety preswyl

Os yw’ch cyflogai yn gweithio mewn gweithle parhaol

Os ydych yn darparu llety byw ar gyfer cyflogai sy’n gweithio mewn gweithle parhaol oherwydd coronafeirws, bydd y gost yn drethadwy.

Os oes eithriad yn gymwys, er enghraifft, os yw’ch cyflogai yn warden cynllun tai gwarchod, a’i fod yn byw ar y safle lle y mae ar alwad y tu allan i oriau gwaith arferol, ni fydd unrhyw dâl treth.

Os yw’ch cyflogai yn gweithio mewn gweithle dros dro (am lai na 24 mis)

Mae rhyddhad treth ar gael i’ch cyflogeion y darperir llety byw ar eu cyfer pan fyddant yn gweithio mewn gweithle dros dro oherwydd coronafeirws.

Dylech roi gwybod am y gost o ddarparu’r llety ar P11D fel arfer, hyd yn oed os mai gwerth y buddiant yw dim.

Treuliau llety

Os na all eich cyflogai ddychwelyd adref oherwydd coronafeirws, gallwch gytuno i ad-dalu ei dreuliau cynhaliaeth a’i dreuliau llety, er enghraifft os yw’n aros mewn gwesty.

Mae’r rhain yn drethadwy a gellir hysbysu yn eu cylch drwy Gytundeb Setliad TWE.

Costau tanwydd a milltiroedd ar gyfer gwaith gwirfoddol

I gefnogi gwaith gwirfoddol gan eich cyflogeion, gallwch gytuno i ad-dalu costau tanwydd neu ariannu costau milltiroedd ar gyfer gwaith gwirfoddol.

Cyflogeion sy’n defnyddio ceir cwmni

Gallwch gytuno i ad-dalu costau tanwydd (gan ddefnyddio’r Cyfraddau Tanwydd Ymgynghorol) eich cyflogeion sy’n gwneud gwaith gwirfoddol sy’n gysylltiedig â choronafeirws, er enghraifft, darparu cyflenwadau meddygol gan gynnwys cyfarpar diogelu personol .

Mae’r ad-daliadau hyn yn fuddiant, a gallwch setlo unrhyw dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ran eich cyflogai drwy hysbysu yn eu cylch drwy Gytundeb Setliad TWE.

Gallwch hefyd gytuno i ariannu costau tanwydd ar gyfer y milltiroedd a gronnir wrth wneud gwaith gwirfoddol sy’n gysylltiedig â choronafeirws. Ni ddylid ystyried milltiroedd ar gyfer gwaith gwirfoddol at ddibenion y tâl buddiant tanwydd car ar gyfer ceir cwmni.

Dylid hysbysu ynghylch unrhyw dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus drwy Gytundeb Setliad TWE fel buddiant sy’n gysylltiedig â choronafeirws, ar sail y gyfradd tanwydd ymgynghorol briodol ar gyfer y milltiroedd a gronnir wrth wneud gwaith gwirfoddol.

Cyflogeion sy’n defnyddio ceir preifat

Os yw’ch cyflogai yn defnyddio’i gar ei hun i wirfoddoli, gallwch ei ad-dalu hyd at lefel y gyfradd lwfans milltiroedd gymeradwy. Mae hyn yn drethadwy a dylid hysbysu yn ei chylch drwy Gytundeb Setliad TWE fel buddiant sy’n gysylltiedig â choronafeirws.

Os byddwch yn talu llai i’ch cyflogai na’r gyfradd lwfans milltiroedd gymeradwy, ni chaiff hawlio rhyddhad lwfans milltiroedd.

Talu neu ad-dalu costau teithio

Os ydych yn darparu cludiant i’ch cyflogai ar gyfer teithio rhwng ei weithle a’i gartref oherwydd coronafeirws, ystyrir bod hwn yn fuddiant – mae teithio rhwng gweithle’r cyflogai a’i gartref yn deithiau preifat.

Os ydych yn ad-dalu cost cludiant rhwng y gweithle a chartref eich cyflogai, mae hyn yn cael ei drin fel enillion ac mae’n rhaid i chi ddidynnu a thalu treth TWE ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy’r gyflogres.

O dan rai amgylchiadau mae eithriad rhag talu treth ar y buddiant hwn. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae’n rhaid bodloni pob un o’r 4 amod canlynol:

  • mae’n rhaid i’r cyflogai weithio’n hwyrach nag arfer, a than o leiaf 9pm
  • mae hyn yn digwydd yn afreolaidd
  • erbyn i’r cyflogai orffen ei waith, naill ai:
    • mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi stopio
    • ni fyddai’n rhesymol disgwyl iddo ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • mae’r drafnidiaeth mewn tacsi neu drafnidiaeth ffordd debyg

Gall eich cyflogeion deithio’n rheolaidd i’r gwaith mewn car gydag un neu fwy o gyflogeion eraill gan ddefnyddio trefniant rhannu car. Os bydd y trefniant hwn yn dod i ben oherwydd amgylchiadau annisgwyl ac eithriadol, sy’n gysylltiedig â choronafeirws, a’ch bod yn darparu trafnidiaeth neu’n ad-dalu’r costau teithio o gartref eich cyflogai i’r gweithle, gellir eithrio hyn hefyd.

Ni all cyfanswm nifer y teithiau eithriedig fod yn fwy na 60 taith mewn blwyddyn dreth. Terfyn unigol yw hwn sy’n berthnasol i’r teithiau hwyrnos a methiant unrhyw drefniant rhannu ceir, at ei gilydd.

Os na chaiff y gofynion hyn eu bodloni, mae trafnidiaeth rad ac am ddim neu gymorthdaledig yn drethadwy, a dylid hysbysu yn ei chylch drwy Gytundeb Setliad TWE fel buddiant sy’n gysylltiedig â choronafeirws.

Talu treuliau teithio a chynhaliaeth i gyflogeion sy’n teithio i weithleoedd dros dro

Os cafodd eich cyflogai ei roi ar ffyrlo pan oedd yn teithio i weithle dros dro, mae’r cyfnod o ffyrlo yn rhan o’r cyfnod hwnnw o waith parhaus. Bydd cyfnod o weithio gartref hefyd yn rhan o’r cyfnod o waith parhaus.

Fodd bynnag, mae’r gweithle’n stopio bod yn un dros dro o’r dyddiad y disgwylir i bresenoldeb yn y gweithle hwnnw bara dros 24 mis. Bydd unrhyw daliadau o dreuliau teithio a chynhaliaeth wedyn yn dod yn agored i dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Prydau rhad am ddim neu gymorthdaledig

Nid oes rhaid i chi hysbysu CThEM ynghylch dim byd na thalu treth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn cynnig y canlynol i’ch holl gyflogeion:

  • prydau rhad ac am ddim neu gymorthdaledig o werth rhesymol mewn ffreutur yn y gweithle
  • talebau sy’n cwmpasu’r gost o brynu’r prydau hyn

Prydau rhad ac am ddim neu gymorthdaledig nad ydynt wedi’u heithrio

Mae hyn yn cynnwys prydau:

  • nad ydynt ar raddfa resymol, er enghraifft prydau cywrain gyda gwinoedd da
  • sydd wedi’u darparu oddi ar y safle ond nid mewn ffreutur, er enghraifft mewn bwyty
  • nad ydynt ar gael i’r holl staff, er enghraifft prydau ar gyfer cyfarwyddwyr yn unig
  • sy’n cael eu darparu o dan gynllun aberthu cyflog neu drefniadau tâl hyblyg (a elwir hefyd yn ‘gynlluniau buddiant hyblyg’)

Os ydych yn rhoi talebau i’ch cyflogeion am brydau y tu allan i’r gweithle, ewch ati i gael gwybod sut i roi gwybod am hyn i CThEM.

Os ydych yn darparu talebau eraill, lwfansau arian parod neu gyfrifon cyflogeion, mae hyn yn cyfrif fel enillion, er enghraifft:

  • talebau y gellir eu cyfnewid am naill ai bwyd neu arian parod
  • lwfansau arian parod ar gyfer prydau
  • taliadau atodol i gyfrif cyflogai ar gyfer bwyd a diod yn y gweithle gan ddefnyddio cerdyn neu system PIN

Ar gyfer y costau hyn, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • ychwanegu’r swm at enillion eraill eich cyflogai
  • didynnu a thalu treth TWE ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy’r gyflogres

Os nad yw’r prydau na’r talebau rydych yn eu darparu wedi’u heithrio, mae’n rhaid i chi hysbysu CThEM yn eu cylch, a didynnu a thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar y costau.

‘Argaeledd’ ceir cwmni

Efallai bod eich cyflogai wedi’i roi ar ffyrlo neu’n gweithio gartref oherwydd coronafeirws, ac wedi cael car cwmni sydd ganddo o hyd. Dylech drin y car fel pe bai ‘ar gael at ddefnydd preifat’ yn ystod y cyfnod hwn, hyd yn oed os yw’r canlynol yn wir:

  • dywedir wrth eich cyflogai am beidio â defnyddio’r car
  • gofynnir i’ch cyflogai dynnu a chadw llun o’r milltiroedd cyn ac ar ôl cyfnod ffyrlo
  • nid yw’ch cyflogai’n gallu dychwelyd y car yn gorfforol neu ni ellir casglu’r car oddi wrth y cyflogai

Pan fo cyfyngiadau ar symud yn berthnasol oherwydd coronafeirws, a bod y cyfyngiadau hynny’n atal y car rhag cael ei ddychwelyd neu ei gasglu, bydd CThEM yn derbyn nad yw car cwmni ar gael o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fo’r contract wedi terfynu – o’r dyddiad y dychwelir allweddi’r car (gan gynnwys tabiau neu ffobiau) i’r cyflogwr neu i drydydd parti, yn unol â chyfarwyddyd y cyflogwr
  • pan nad yw’r contract wedi’i derfynu – ar ôl 30 diwrnod olynol o’r dyddiad y dychwelir allweddi’r car (gan gynnwys tabiau neu ffobiau) i’r cyflogwr neu i drydydd parti, yn unol â chyfarwyddyd y cyflogwr

Mae dychwelyd allweddi yn golygu na ellir gyrru’r car o dan unrhyw amgylchiadau, hyd yn oed os yw’n dal i fod ym meddiant eich cyflogai.

Rydym hefyd yn cydnabod, ar ôl llacio’r cyfyngiadau a osodwyd yn sgil coronafeirws, y gall gymryd peth amser i gasglu ceir y mae eu contractau wedi terfynu. Cyn belled â bod eich cyflogai’n parhau i fod heb fynediad at yr allweddi hyd nes y cesglir y car oddi wrtho, bydd CThEM yn dal i ystyried nad yw’r car ar gael.

Cynlluniau Perchnogaeth Car Cyflogeion (ECOS)

Efallai y bydd cyflogeion sydd wedi defnyddio trefniadau ECOS, gan gynnwys benthyciad gan drydydd parti i brynu car, yn gorfod dychwelyd y car ar ddiwedd cyfnod y benthyciad er mwyn i’w werth gael ei asesu fel setliad terfynol y benthyciad.

Oherwydd cyfyngiadau a osodwyd yn sgil coronafeirws, os nad yw’ch cyflogai wedi gallu dychwelyd y car i’r ddelwriaeth neu’r ffatri ar gyfer ei asesiad, efallai y bydd tâl Treth Incwm ar swm y benthyciad sy’n ddyledus o hyd.

Os oedd cyfnod y benthyciad yn llai na 4 blynedd, efallai y bydd yn bosibl i’ch cyflogai drefnu estyniad gyda darparwr y benthyciad am ychydig fisoedd eto. Bydd hyn yn cwmpasu’r cyfnod hyd nes y gellir dychwelyd y car a setlo’r benthyciad. Os gwneir hyn, bydd CThEM yn derbyn nad yw’r trefniadau’n arwain at godi tâl Treth Incwm. Fodd bynnag, os caiff y benthyciad ei ymestyn y tu hwnt i 4 blynedd, bydd tâl Treth Incwm yn codi.

Aberthu cyflog

Caiff newidiadau mewn amgylchiadau oherwydd coronafeirws eu derbyn fel newid mewn ffordd o fyw sy’n caniatáu i drefniadau aberthu cyflog gael eu hadolygu. Os yw’ch cyflogai yn dewis diwygio trefniadau aberthu cyflog oherwydd coronafeirws, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y newid yn cael ei adlewyrchu yn nhelerau ac amodau ei gyflogaeth.

Newidiodd y rheolau ar aberthu cyflog ym mis Ebrill 2017 ac, ar gyfer y rhan fwyaf o’r trefniadau a ddaeth i rym cyn 6 Ebrill 2017, mae’r rheolau newydd hyn o ran prisio buddiannau bellach yn berthnasol.

Mae’r rheolau trosiannol yn berthnasol am gyfnod hirach os yw’r buddiant yn golygu:

  • darparu car gydag allyriadau o fwy na 75g CO2/km
  • darparu llety byw
  • talu ffioedd ysgol

Ni fydd y rheolau newydd yn berthnasol i’r mathau hyn o fuddiannau tan 6 Ebrill 2021, oni bai bod cyflogeion yn amrywio neu’n adnewyddu eu trefniadau.

Nid ystyrir bod trefniant yn amrywiol os yw amrywio’r trefniant yn gysylltiedig yn uniongyrchol â choronafeirws yn unig.

Benthyciadau gan gyflogwyr

Mae cyflog cynnar neu fenthyciad i helpu’ch cyflogai yn ystod cyfnod o galedi yn cyfrif fel benthyciad sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Nid yw benthyciadau sy’n werth llai na £10,000 mewn blwyddyn dreth yn drethadwy.

Arweiniad pellach ar fenthyciadau a ddarperir i gyflogeion.

Cyflogeion sy’n gweithio gartref

Gwiriwch pa dreuliau sy’n drethadwy os yw’ch cyflogai’n gweithio gartref oherwydd coronafeirws.

Sut i hysbysu CThEM

Gallwch hysbysu CThEM ynghylch unrhyw dreuliau neu fuddiannau sy’n gysylltiedig â choronafeirws yn eich Cytundeb Setliad TWE.

Os ydych ar hyn o bryd yn talu buddiannau drwy’r gyflogres, gallwch barhau i hysbysu ynghylch treuliau a buddiannau drwy’ch cyflogres, cyn belled â’ch bod wedi cofrestru gyda CThEM cyn dechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill). Gallwch hefyd barhau i hysbysu ynghylch treuliau a buddiannau drwy ddatganiadau P11D.

Mae CThEM yn disgwyl i bob ffurflen P11D a P11D(b) gael ei chwblhau ar-lein erbyn 6 Gorffennaf 2020 ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020. Mae opsiynau papur ar gael i gyflogwyr nad ydynt yn gallu cyflwyno ffurflenni ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 March 2021 + show all updates
  1. Information about paying or refunding transport costs for employees has been added.

  2. The section 'Coronavirus (COVID-19) tests' has been updated.

  3. Welsh translation added.

  4. Information about 'coronavirus (COVID-19) tests' has been added.

  5. Information about 'Coronavirus (COVID-19) tests' has been added.

  6. Added translation

  7. Information about 'Coronavirus (COVID-19) tests' has been removed.

  8. Information about 'Coronavirus (COVID-19) tests' and 'Personal Protective Equipment (PPE)' has been added.

  9. Guidance has been added about paying travel and subsistence expenses to an employee travelling to a temporary workplace.

  10. Welsh translation added.

  11. Section about Employee Car Ownership Schemes (ECOS) has been added to the guide.

  12. First published.