Gwirio pa dreuliau sy’n drethadwy os yw’ch cyflogai yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19)
Cael gwybod pa offer, gwasanaethau neu gyflenwadau sy’n drethadwy os yw’ch cyflogeion yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19).
Ar bwy mae hyn yn effeithio
Gallai hyn effeithio arnoch os yw unrhyw rai o’ch cyflogeion yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19), a hynny o ganlyniad i’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- mae’ch gweithle wedi cau
- maent yn dilyn cyngor i hunanynysu
Y math o offer, gwasanaeth neu gyflenwad
Ffonau symudol a chardiau SIM (heb gyfyngiad ar ddefnydd preifat)
Os ydych yn darparu ffôn symudol a cherdyn SIM heb gyfyngiad ar ddefnydd preifat, a hynny wedi’i gyfyngu i un ffôn yr un i bob cyflogai, nid yw hyn yn drethadwy.
Rhyngrwyd band eang
Os yw’ch cyflogai eisoes yn talu am ryngrwyd band eang, nid oes modd hawlio unrhyw dreuliau ychwanegol.
Os oes angen cysylltiad rhyngrwyd band eang er mwyn gweithio gartref ac nad oedd cysylltiad eisoes ar gael, gallwch ad-dalu ffi’r rhyngrwyd band eang ac ni fydd hyn yn drethadwy.
Yn yr achos hwn, at ddiben busnes y mae’r rhyngrwyd band eang yn cael ei darparu, ac felly mae’n rhaid cyfyngu ar ddefnydd preifat ohoni.
Gliniaduron, llechi, cyfrifiaduron, a chyflenwadau swyddfa
Os mai at ddiben busnes y defnyddir y rhain yn bennaf ac nad oes defnydd preifat sylweddol ohonynt, nid yw’r rhain yn drethadwy.
Ad-dalu treuliau ar gyfer offer swyddfa y mae’ch cyflogai wedi’u prynu
Os oes angen i’ch cyflogai brynu offer swyddfa i’w alluogi i weithio gartref, bydd yn rhaid iddo drafod hyn â chi ymlaen llaw.
Os byddwch yn ad-dalu costau gwirioneddol y pryniant i’ch cyflogai, ni fydd hyn yn drethadwy ar yr amod nad oes defnydd preifat sylweddol.
Os na fyddwch yn ad-dalu’ch cyflogai, bydd yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer y pryniannau hyn ar ei Ffurflen Dreth neu P87, cyn belled â bod y swm a hawlir yn cael ei ysgwyddo’n gyfan gwbl, yn unig ac o reidrwydd er mwyn cyflawni dyletswyddau ei gyflogaeth. Bydd yr achlysuron pan fyddai cyflogai’n gymwys i hawlio rhyddhad treth yn brin, gan fod rhaid bodloni amodau llym. Yn ogystal, bydd cymhwystra cyflogai i hawlio rhyddhad treth yn dibynnu ar y ffeithiau ar y pryd.
Bydd angen i’ch cyflogeion gadw cofnodion o’u pryniannau a hawlio’r union swm. I gael rhagor o wybodaeth am y profion llym y mae’n rhaid eu pasio er mwyn bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth, gweler yr arweiniad ar Incwm o Gyflogaeth.
Treuliau ychwanegol megis trydan, gwresogi neu ryngrwyd band eang
Nid yw talu nac ad-dalu hyd at £4 yr wythnos i’ch cyflogeion (£6 yr wythnos o 6 Ebrill 2020 ymlaen) yn drethadwy, ar gyfer treuliau ychwanegol yr aelwyd sy’n codi oherwydd bod eich cyflogai’n gweithio gartref.
Os yw’r hawliad yn uwch na’r swm hwn, bydd yn rhaid i’ch cyflogai wneud y canlynol:
- gwirio gyda chi ymlaen llaw a fyddwch yn gwneud y taliadau hyn
- cadw derbynebau
Benthyciadau gan gyflogwyr
Mae cyflog cynnar neu fenthyciad i helpu’ch cyflogai yn ystod cyfnod o galedi yn cyfrif fel benthyciad sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.
Nid yw benthyciadau sy’n werth llai na £10,000 mewn blwyddyn dreth yn drethadwy.
Rhagor o wybodaeth am fenthyciadau.
Llety dros dro
Os oes angen i’ch cyflogai hunanynysu ond nad oes modd iddo wneud hynny yn ei gartref ei hun, gallwch ad-dalu treuliau gwesty a chostau cynhaliaeth, ac mae’r rhain yn drethadwy.
Rhagor o wybodaeth am dreuliau llety.
Cyflogeion sy’n defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion busnes
Gallwch wneud taliadau lwfans milltiroedd cymeradwy o 45c y filltir hyd at 10,000 o filltiroedd (25c y filltir ar ôl hynny), a hynny’n rhydd o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os nad ydych yn talu lwfans milltiroedd, gall eich cyflogai hawlio rhyddhad treth drwy ei Gyfrif Treth Personol.
Rhagor o wybodaeth am daliadau lwfans milltiroedd cymeradwy.
Defnydd preifat sylweddol
Ar gyfer eitemau sy’n drethadwy, mae’n rhaid i eithriadau ar gyfer buddiannau sy’n gysylltiedig â gwaith ddangos nad oes defnydd preifat sylweddol o’r rhain.
Mae CThEM yn derbyn hynny:
- pan fo’ch polisi ynghylch defnydd preifat yn cael ei ddatgan yn glir i’ch cyflogai a phan ei fod yn nodi’r amgylchiadau lle y gellir gwneud defnydd preifat o’r eitemau (gall hyn gynnwys nodi’r amgylchiadau’n glir mewn contractau cyflogaeth, neu ofyn i gyflogeion lofnodi datganiad sy’n cydnabod polisi’r cwmni ynghylch y defnydd a ganiateir ac unrhyw ganlyniadau disgyblaethol os na ddilynir y polisi)
- pan fo unrhyw benderfyniad gan y cyflogwr i beidio ag adennill costau defnydd preifat yn benderfyniad masnachol, yn hytrach na buddiant i’ch cyflogai
Ni ddylai “defnydd preifat sylweddol” fod yn seiliedig ar yr amser sy’n cael ei dreulio ar ddefnydd gwahanol. Yn hytrach, dylai fod yn seiliedig ar ddyletswyddau’ch cyflogai, ynghyd â’r angen iddo gael yr offer neu’r gwasanaethau a ddarperir er mwyn iddo allu gwneud ei waith.
Cadw cofnodion
Nid oes rhaid i chi gadw cofnodion manwl o bob achos o ddefnydd preifat er mwyn profi cais am eithriad.
Sut i adrodd i CThEM
Treuliau neu fuddiannau trethadwy
Gallwch adrodd ar unrhyw dreuliau neu fuddiannau sy’n gysylltiedig â choronafeirws yn eich Cytundeb Setliad TWE.
Mae hyn yn golygu y gallwch setlo treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar unrhyw dreuliau neu fuddiannau, er y byddai’ch cyflogai – neu eich cyflogai a chithau fel eich gilydd – fel arfer yn gyfrifol am hyn.
Mae hyn yn berthnasol i eitemau sy’n gysylltiedig â choronafeirws yn unig – er enghraifft, gall desg newydd gael ei nodi yn y Cytundeb Setliad TWE, ond nid soffa newydd.
Os ydych yn talu buddiannau drwy’r gyflogres ar hyn o bryd, gallwch barhau i adrodd ar dreuliau a buddiannau drwy’ch cyflogres. Gallwch hefyd barhau i adrodd ar dreuliau a buddiannau drwy ddatganiadau P11D.
Treuliau neu fuddiannau nad ydynt yn drethadwy
Peidiwch ag adrodd ar y rhain i CThEM.
Rhagor o wybodaeth am dreuliau neu fuddiannau nad ydynt yn drethadwy, ar gyfer cyflogeion.
Tâl buddiant trethadwy – dychwelyd offer swyddfa
Offer sy’n cael eu darparu gan y cyflogwr
Mae’n bosibl y byddwch wedi darparu offer swyddfa i gyflogeion er mwyn eu galluogi i weithio gartref. Does dim tâl treth pan fyddant yn dychwelyd yr offer atoch, cyn belled nad yw perchnogaeth yn cael ei drosglwyddo.
Os ydych, ar unrhyw adeg, yn trosglwyddo perchnogaeth yr offer i gyflogai, daw hyn yn fuddiant cyflogai. Bydd y tâl yn cael ei godi ar werth marchnad yr offer ar adeg y trosglwyddiad, llai unrhyw swm y gallai’r cyflogai fod wedi’i dalu tuag at yr offer.
Offer sy’n cael eu had-dalu gan y cyflogwr
Mae’n bosibl bod eich cyflogai wedi cytuno i brynu ei offer swyddfa ei hun i’w alluogi i weithio gartref, a’ch bod wedi ad-dalu union gost y treuliau hynny. Oni bai eich bod wedi nodi bod yn rhaid iddo drosglwyddo perchnogaeth i chi, eich cyflogai sy’n berchen ar yr offer.
Does dim tâl buddiant ar yr ad-daliad. Does dim tâl buddiant ychwaith os rydych yn caniatáu i’ch cyflogai gadw’r offer gan ei fod yn rhywbeth y mae eisoes yn berchen arno.
Cysylltu â CThEM
Cysylltwch â CThEM os ydych yn gyflogwr a bod angen help a chymorth arnoch mewn perthynas â thalu treth oherwydd coronafeirws.
Help ar-lein
Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws.
Updates to this page
-
Removed section called ‘Who is not affected’. Employees can no longer be furloughed using the Coronavirus Job Retention Scheme. The scheme ended on 30 September 2021.
-
A new section about returning office equipment has been added.
-
Updated guidance on reimbursing expenses for office equipment your employee has bought.
-
You can now use HMRC’s digital assistant to contact HMRC and get help online.
-
First published.