Canllawiau

Sut i reoli risgiau yn eich elusen

Sut i adnabod, asesu a rheoli'r risgiau y gallai eich elusen eu hwynebu.

This guidance was withdrawn on

This information is covered in our guidance Charities and risk management (CC26).

Applies to England and Wales

Mathau o risg

Mae unrhyw beth a allai atal eich elusen rhag cyflawni ei nodau neu ymgymryd â’i strategaethau yn risg. Gallai’r mathau o risgiau y gallai eich elusen eu hwynebu ddibynnu ar ei maint, ei chyllid a’i gweithgareddau, ymysg ffactorau eraill.

Mae’r risgiau y gallai eich elusen eu hwynebu yn cynnwys:

  • niwed i’w henw da
  • cael llai o gyllid neu lai o roddion cyhoeddus
  • colli arian drwy fuddsoddiadau amhriodol
  • newid ym mholisi’r llywodraeth ar fater penodol, sy’n effeithio ar grantiau neu gontractau

Adnabod unrhyw risgiau posibl a allai atal eich elusen rhag bodloni anghenion ei buddiolwyr, a rhoi prosesau yn eu lle i asesu a rheoli’r risgiau hynny.

Sut i reoli risgiau

Nid oes rhaid i chi gael proses rheoli risg ar gyfer eich elusen yn ôl y gyfraith, na dilyn dull arbennig. Ond mae’r Comisiwn Elusennau yn argymell yn gryf bod polisi a phroses rheoli risg glir gennych. Bydd hyn yn eich helpu i adnabod a rheoli’r holl fathau o risgiau a chorffori rheoli risg yng ngwaith eich elusen.

Mae canllawiau manwl y comisiwn ar reoli risg yn amlinellu hanfodion delio â risgiau. Mae’n cynnwys model rheoli risg wedi’i ffurfio o’r camau canlynol:

  1. sefydlu polisi risg
  2. adnabod risgiau
  3. asesu risgiau
  4. gwerthuso pa gamau i’w cymryd
  5. adolygu, monitro ac asesu’n achlysurol

Mae’r model yn cynnwys grid mapio - dyma un ffordd o asesu’r effaith y gallai pob risg ei chael ar eich elusen:

Dylai fod ymagwedd strwythuredig gan eich elusen at reoli risg sy’n briodol ar gyfer maint a’i chymhlethdod. Mae ymagweddau enghreifftiol yn cynnwys:

Pryd i adrodd ar reoli risg

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i elusennau nad ydynt yn gwmnïau gydag incwm o £500,000 neu ragor (ac elusennau gydag incwm o fwy na £250,000 a hefyd asedau sy’n werth mwy na £3.26 miliwn) gynnwys datganiad rheoli risg yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr. Ond mae’n arfer da i elusennau llai adrodd ar eu gweithgareddau rheoli risg hefyd.

Mae’n rhaid i elusennau sy’n gwmnïau adrodd ar eu prif risgiau ac ansicrwydd yn adroddiad y cyfarwyddwyr (oni bai eu bod wedi’u dosbarthu fel cwmni bach yn ôl y gyfraith).

Beth i’w gynnwys mewn datganiad rheoli risg

Dylai’ch datganiad rheoli risg gynnwys:

  • cydnabyddiaeth o gyfrifoldeb ymddiriedolwyr i adnabod, asesu a rheoli risgiau
  • trosolwg o broses eich elusen ar gyfer adnabod risgiau
  • dangos bod y prif risgiau wedi cael eu hadolygu neu eu hasesu
  • cadarnhau bod y systemau a’r prosesau wedi’u sefydlu i reoli risgiau

Dylai elusennau mwy neu’r rhai sydd â gweithgareddau mwy cymhleth ddarparu datganiad rheoli risg mwy manwl.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013