Canllawiau

Gwybodaeth gan CThEM i asiantau ynghylch diogelwch ar-lein

Diogelwch eich manylion mewngofnodi a lleihau'r perygl o dwyll wrth ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM.

Lleihau’r perygl o dwyll

Er mwyn lleihau’r perygl o dwyll dylech:

  • newid eich cyfrinair yn rheolaidd - o leiaf unwaith bob 3 mis
  • rhoi gwybod i’r Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein ynghylch gweithgareddau amheus ar eich cyfrif
  • peidio â chaniatáu i bobl defnyddio eich manylion mewngofnodi– os oes yn rhaid i bobl eraill gyrchu’r cyfrif gallwch sefydlu gweinyddwyr a chynorthwywyr
  • diweddaru eich rhestr o weinyddwyr a chynorthwywyr yn gyson
  • cadw eich manylion mewngofnodi’n ddiogel, peidiwch â’u rhannu ag unrhyw un - ni fydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn gofyn i chi am eich cyfrinair ar unrhyw adeg
  • cadw cyfrifiaduron yn ddiogel - rhaid i gyfrifiaduron personol a ddefnyddir at ddibenion gwaith gael yr un rheolaethau diogelwch â’r rheiny sydd yn y swyddfa
  • cyrchu manylion eich cleient gan ddefnyddio eich cofrestriad eich hun - peidiwch â defnyddio manylion mewngofnodi eich cleient

Newid eich cyfrinair pan fod CThEM yn dweud wrthych am wneud hynny

Mae’n bosib y bydd CThEM dweud wrthych am newid eich cyfrinair ar unrhyw adeg.

Caiff eich cyfrinair ei newid yn awtomatig os:

  • yw CThEM wedi gwneud 3 cynnig aflwyddiannus i gysylltu â chi er mwyn dweud wrthych ei newid
  • nad ydych yn ei newid pan fod CThEM yn dweud wrthych am wneud hynny
Cyhoeddwyd ar 28 November 2011