Canllawiau

Cofrestru ar gyfer Platfform Cyffredin GLlTEM: gweithwyr proffesiynol yr amddiffyniad

Cofrestrwch i gael cyfrif Platfform Cyffredin i weld a rheoli achosion mewn llysoedd troseddol.

Applies to England and Wales

Ynglŷn â’r Platfform Cyffredin

System rheoli achosion yw’r Platfform Cyffredin ar gyfer GLlTEM, y farnwriaeth a defnyddwyr llys proffesiynol, gan gynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr yr amddiffyniad.

Bydd angen i gyfreithwyr a bargyfreithwyr yr amddiffyniad gofrestru i gael cyfrif cyn iddynt fynychu gwrandawiadau lle defnyddir y Platfform Cyffredin. Bydd sefydlu cyfrif yn eich galluogi i:

  • gysylltu ag achos neu ddiffynnydd fel bod yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn cael ei hysbysu at ddibenion talu
  • hunan-gyflwyno deunyddiau achos, yn cynnwys manylion cychwynnol am achos yr erlyniad (IDPC) a’r ffurflen paratoi ar gyfer treial (ffurflen PET) yn y llys ynadon
  • cyflwyno dogfennau i’r llys ar gyfer achosion Platfform Cyffredin yn y llys ynadon

Edrychwch ar y rhestr o lysoedd lle caiff y Platfform Cyffredin ei ddefnyddio

Gweld achos

Pan fydd eich sefydliad wedi cofrestru ac y byddwch chi wedi actifadu eich cyfrif, gallwch gychwyn edrych ar achosion yn y Platfform Cyffredin.

Sut i gofrestru

I gofrestru i gael cyfrif, rhaid i’ch sefydliad lenwi ffurflen gofrestru gan nodi manylion unrhyw un sydd angen mynediad i’r gwasanaeth.

Dylai gweinyddwr y cyfrif lenwi’r ffurflen hon. Os mai chi yw gweinyddwr y cyfrif, cewch eich enwi fel y sawl sy’n gyfrifol am y platfform yn eich sefydliad.

Download the registration form in Microsoft Excel (MS Excel Spreadsheet, 170 KB)

Download the registration form in CSV format (CSV, 1.56 KB)

Llenwch y 2 dab canlynol yn unig:

  • Manylion eich sefydliad
  • Manylion y defnyddiwr

Wedi i chi lenwi’r ffurflen e-bostiwch hi i CPOnboarding@justice.gov.uk i’w dilysu.

Os yw’r Platfform Cyffredin eisoes yn cael ei ddefnyddio yn eich ardal chi, yna byddwn yn ychwanegu enw eich sefydliad a defnyddwyr i’r system.

Os ydych yn gweithio mewn llys lle mae’r platfform i’w gyflwyno yn fuan, rhoddir blaenoriaeth i sefydlu eich cyfrif. Fel arall, gall gymryd fwy o amser.

Os ydych chi’n fargyfreithiwr hunangyflogedig, yn fargyfreithiwr llawrydd neu’n fargyfreithiwr sydd â statws ‘mynediad uniongyrchol’, dylech gofrestru fel sefydliad yr amddiffyniad sy’n cynnwys un person i ddefnyddio’r Platfform Cyffredin. Byddwch yn cael rôl ‘eiriolwr’ fel y gallwch fod yn rhan o wrandawiadau a hefyd rôl ‘gweinyddwr sefydliad’ fel y gallwch ddiwygio eich manylion eich hun.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Pan fyddwch yn y system, bydd pob defnyddiwr yn cael neges e-bost gan noreply@cjscp.org.uk gyda manylion pellach. Gwiriwch eich mewnflychau ‘junk’ a ‘spam’ rhag ofn fod yr hysbysiad wedi mynd i’r blychau hyn.

Fel defnyddiwr unigol, bydd rhaid i chi wedyn actifadu eich cyfrif a chwblhau’r broses gwirio diogelwch.

Darllenwch ein canllaw ar sut i gadarnhau eich cyfrif Platfform Cyffredin.

Cymorth a chanllawiau

Os ydych angen cymorth i gofrestru, anfonwch neges e-bost i CPonboarding@justice.gov.uk.

Os ydych angen cymorth i gael rhif cyfeirnod unigryw ar gyfer achos, anfonwch neges e-bost i ProfessionalContactCrime@justice.gov.uk neu ffoniwch 0330 808 4407.

Gweler ein canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Platfform Cyffredin:

Os oes angen help arnoch i gael rhif unigryw ar gyfer achos, neu os oes gennych ymholiad ynghylch achos sydd ar y Platfform Cyffredin, cysylltwch â chanolfan gwasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd (CTSC).

Os oes arnoch angen cymorth pellach neu os oes gennych gwestiynau nas atebir yn yr arweiniad hwn, gallwch gysylltu â’r ddesg gymorth.

CTSC

Rhif ffôn: 0330 808 4407
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am hyd 5.30pm
Ar gau ar wyliau banc
E-bost: ProfessionalContactCrime@justice.gov.uk

Desg Gymorth

Rhif ffôn: 020 3989 6060
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd 8pm
Dydd Sadwrn, 8am hyd 2pm
Ar gau ar ddydd Sul a gwyliau banc
E-bost: CJSCP-DefenceServiceDesk@hmcts.net

Os nad ydych yn gyfreithiwr yr amddiffyniad neu’n weinyddwr, anfonwch neges e-bost i CJSCP-ServiceDesk@hmcts.net.

Ein nod yw ymateb i negeseuon e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.

Cyhoeddwyd ar 29 September 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 October 2023 + show all updates
  1. Removed reference to Companies House in the organisation details tab and have updated the guidance notes tab in the downloadable registration forms.

  2. Updated Welsh translation with recent changes

  3. Added guidance for independent solicitors and consistency changes to get help guidance

  4. Added links to new user guides

  5. Added translation