Canllawiau

Platfform Cyffredin GLlTEM: rheoli neu edrych ar fanylion achos

Mae’r Platfform Cyffredin yn galluogi’r heddlu, y farnwriaeth, cyfreithwyr, bargyfreithwyr ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i edrych ar achosion a golygu gwybodaeth am achosion.

Applies to England and Wales

Os ydych yn weithiwr proffesiynol ar gyfer yr amddiffyniad, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

  • gysylltu eich hun ag achos neu ddiffynnydd fel bo’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn cael ei hysbysu, at ddibenion talu
  • hunan-gyflwyno deunyddiau achos, yn cynnwys manylion cychwynnol am achos yr erlyniad (IDPC) a’r ffurflen paratoi ar gyfer treial (ffurflen PET) yn y llys ynadon
  • cyflwyno dogfennau i’r llys mewn achosion Platfform Cyffredin

Os ydych yn aelod o’r farnwriaeth, GLlTEM neu asiantaeth partner, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i edrych ar fanylion achosion a chymryd rhan mewn gwrandawiadau’r Platfform Cyffredin.

Cyn cychwyn

Rhaid i chi gael cyfrif cyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os ydych yn weithiwr proffesiynol i’r amddiffyniad, rhaid i’ch cwmni neu siambrau gofrestru eich enw fel y gallwch gael cyfrif.

Cofrestru i gael cyfrif

Byddwn yn gwirio eich cais ac yn anfon neges e-bost cymeradwyo o fewn 3 diwrnod gwaith.

Chwilio am achos

Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif, gallwch ddechrau defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur neu dabled i edrych ar wybodaeth am achosion ar y Platfform Cyffredin.

Byddwch angen eich ffôn ar gyfer y broses dilysu diogelwch ond ni allwch ei ddefnyddio i gael mynediad i’r Platfform Cyffredin.

Dechrau nawr

Ni allwch ddefnyddio Internet Explorer i gael mynediad i’r Platfform Cyffredin, felly efallai y bydd angen ichi gopïo’r ddolen i un o’r porwyr canlynol:

  • Edge (neu Edge Chromium)
  • Chrome
  • Firefox
  • Safari

Cymorth a chanllawiau

Gweler ein canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Platfform Cyffredin:

Os ydych yn aelod o’r farnwriaeth, GLlTEM neu asiantaeth bartner, darllenwch y canllawiau ar eich mewnrwyd.

Os oes angen help arnoch i gael rhif unigryw ar gyfer achos, neu os oes gennych ymholiad ynghylch achos sydd ar y Platfform Cyffredin, cysylltwch â chanolfan gwasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd (CTSC).

Os oes arnoch angen cymorth pellach neu os oes gennych gwestiynau nas atebir yn yr arweiniad hwn, gallwch gysylltu â’r ddesg gymorth

CTSC

Rhif ffôn: 0330 808 4407 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am hyd 5.30pm
Ar gau ar Wyliau Banc E-bost: ProfessionalContactCrime@justice.gov.uk

Desg Gymorth

Rhif ffôn: 020 3989 6060 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd 8pm
Dydd Sadwrn, 8am hyd 2pm
Ar gau ar ddydd Sul a gwyliau banc E-bost: CJSCP-DefenceServiceDesk@hmcts.net

Os nad ydych yn gyfreithiwr yr amddiffyniad neu’n weinyddwr, anfonwch neges e-bost i CJSCP-ServiceDesk@hmcts.net.

Ein nod yw ymateb i negeseuon e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.

Cyhoeddwyd ar 23 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 June 2023 + show all updates
  1. Added browser and security info and consistency changes to get help guidance

  2. Added links to new guides

  3. Added translation