Canllawiau

Cael help gyda phartneriaethau ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran bartneriaeth eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Dysgu sut i ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo eich incwm a’ch treuliau os ydych yn bartner, ac ar beth y gallwch hawlio lwfansau cyfalaf.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw incwm yr ydych yn ei gael o bartneriaeth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau penodol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Er enghraifft, gwirio a ydych yn gymwys i gael rhyddhad penodol, a sut i gyfrifo ffigurau y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.

Cyfrifo’ch elw

Dysgwch sut i gyfrifo eich elw trethadwy (HS222) (yn agor tudalen Saesneg).

Dysgwch sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad os oes gennych fwy nag un busnes (HS220) (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn hawlio rhyddhadau neu lwfansau fel partner

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Os ydych yn ddiddanwr dibreswyl neu yn fabolgampwr dibreswyl

Dod i ddeall rheolau treth ar gyfer diddanwyr dibreswyl neu fabolgampwyr dibreswyl (HS303) (yn agor tudalen Saesneg).

Taflenni Cymorth eraill ar gyfer partneriaeth

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Ffurflen Dreth bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio tudalen atodol i gofnodi incwm partneriaeth ar eich Ffurflen Dreth SA100. Gallwch ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Mai 2025

Argraffu'r dudalen hon