Canllawiau

Mynnwch help os ydych chi'n gofidio bod rhywun yn cael ei radicaleiddio

Darganfyddwch sut mae rhaglen Prevent yn cynnig cymorth i bobl sydd mewn perygl o ymwneud â therfysgaeth drwy radicaleiddio.

Os ydych yn gofidio am rywun ac yn dymuno gwybod mwy am Prevent cyn gwneud atgyfeiriad, ewch i wefan ACT Early.

Bydd unrhyw beth a rannwch yn gyfrinachol bob amser.

Os oes yna berygl dybryd galwch 999.

Ynglŷn â Prevent

Mae Prevent yn raglen ddiogelu genedlaethol sy’n cefnogi pobl sydd mewn perygl o ymwneud â therfysgaeth trwy radicaleiddio.

Mae radicaleiddio’n golygu bod rhywun yn cael ei annog i datblygu safbwyntiau neu gredoau eithafol i gefnogi grwpiau a gweithgareddau terfysgol.

Ceir gwahanol fathau o derfysgaeth, ac mae Prevent yn ymdrin â phob un ohonyn nhw. Canfyddwch fwy ynglŷn â’r hyn mae terfysgaeth yn ei olygu.

Y mathau mwyaf cyffredin o defysgaeth yn y DG yw terfysgaeth asgell dde eithafol a therfysgaeth Islamaidd.

  • Gall terfysgaeth asgell dde eithafol gael ei ysbrydoli gan grwpiau fel National Action ac Atomwaffen Division.

  • Gall terfysgaeth Islamaid gael ei ysbrydoli gan grwpiau fel Daesh neu Al Qa’ida.

Mae Prevent yn cael ei redeg yn lleol gan arbenigwyr sy’n deall y risgiau a’r problemau yn eu hardal, a’r ffordd orau o gefnogi eu cymunedau. Gall yr arbenigwyr hyn gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, elusennau a sefydliadau cymunedol.

Dysgwch fwy am Prevent gan y bobl dan sylw:

Cyflwyniad i Prevent:.

Deall pam mae Prevent yn bwysig ar gyfer lleihau terfysgaeth

Mae terfysgaeth yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae llawer o fywydau wedi’u colli i ymosodiadau gan derfysgwyr yn y DU, ac mae hyd yn oed mwy o bobl wedi ei hanafu.

Gall pobl gyflawni trosedd terfysgol hyd yn oed os nad ydynt wedi cynnal ymosodiad terfysgol. Gall lawrlwytho deunyddiau terfysgol o’r rhyngrwyd neu ymuno âgrŵp terfysgolfod yn drosedd terfysgol Darganfyddwch fwy ynglŷn â’r hyn a olygir gan derfysgaeth.

Drwy gael cyngor neu gymorth gan Prevent, gallwch helpu atal y person sy’n peri gofid i chi rhag dod yn berygl i’w hun neu eraill.

Os oes yna berygl dybryd galwch 999.

Adnabod arwyddion radicaleiddio

Gall radicaleiddio ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae’n haws nac erioed i gael eich meithrin gan recriwtwyr terfysgol ar y rhyngrwyd a dod o hyd i ddeunydiau eithafol.

Mae pawb yn wahanol, a does dim rhestr wirio a all ddweud wrthym os yw rhywun yn cael ei radicaleiddio neu’n ymwneud â therfysgaeth. Ond gall yr arwyddion cyffredin hyn olygu bod rhywun yn cael ei radicaleiddio:

  • mynegi ymdeimlad o anghyfiawnder obsesiynol a dig am sefyllfa, a bwrw’r bai am hyn ar eraill
  • mynegi dicter neu safbwyntiau eithafol tuag at grŵp arbennig - fel hil neu grefydd gwahanol
  • awgrymu mai gweithredu treisgar yw’r unig ffordd i ddatrys mater
  • rhannu barn eithafol neu gasineb ar gyfryngau cymdeithasol

Beth i’w wneud os ydych yn gofidio am rywun

Ceisiwch siarad â nhw

Os yw’n rywun rydych yn ei adnabod yn dda, ceisiwch sgwrsio gyda nhw ynglŷn â’r hyn rydych wedi ei sylwi, os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.

Chwiliwch am gyngor ynglŷn â sut mae gwneud hyn:

Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd llawer o groeso i’ch ymholiad i ddechrau, ac fe all y person fynd yn ddig neu’n amddiffynol. Gallwch geisio cael sgwrs gyda theulu a ffrindiau i weld os ydyn nhw wedi sylwi ar unrhyw beth tebyg cyn cael cyngor arbenigol.

Gofynwch am gyngor

Os ydych chi’n poeni bod rhywun rydych chi’n ei adnabod yn cael ei radicaleiddio, gofynwch am gyngor cyn gynted â phosib:

Po fgynharaf y byddwch yn gofyn am gyngor, y cynharaf gallwch helpu i rwystro’r person hwnnw rhag dod yn berygl iddo’i hun neu eraill. Bydd unrhyw beth a rannwch yn cael ei drin bob amser yn gyfrinachol .

Ar ôl sgwrsio gyda rhywun ynglŷn â’ch pryderon, mae’n bosib y gofynnir i chi helpu i greu atgyfeiriad i’r rhaglen Prevent.

Beth sy’n digwydd pan fydd person yn cael ei atgyeirio i Prevent

Gall unrhyw un sy’n cael ei radicaleiddio gael ei atgyfeirio i Prevent. Mae atgyfeirio rhywun yn sicrhau y byddan nhw’n cael yr help sydd ei angen arnyn nhw i’w cadw nhw ac eraill yn ddiogel.

Nid cosb yw cael cymorth gan Prevent ac ni fydd yn mynd ar record troseddol person. Ni wneir cyfeiriadau i’r Swyddfa Gartref.

Fel arfer, bydd atgyfeiriad Prevent yn dilyn y broses hon.

  1. Mae’r heddlu lleol yn edrych ar bob atgyfeiriad yn gyntaf. Maent yn gwirio i weld os oes yna fygythiad diogelwch dybryd. Byddant hefyd yn gwirio os oes yna berygl gwirioneddol o radicaleiddio.

  2. Os nad yw’r person mewn perygl o gael ei radicaleiddio, nid yw’r achos Prevent. Lle bo’n briodol, gellir cynnig cymorth arall i’r person, er enghraifft, cael ei atgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau cymdeithasol.

  3. Os oes yna berygl o radicaleiddio, bydd panel o arbenigwyr lleol yn asesu’r atgyfeiriad. Caiff y panel ei arwain gan yr awdurdod lleol ac fe all gynnwys yr heddlu, gwasanaethau plant, gwasanaethau cymdeithasol, addysgwyr proffesiynol neu weithwyr gofal iechyd meddwl proffesiynol.

  4. Os bydd y panel yn credu penderfynu bod person mewn perygl, bydd yn cael ei wahodd i ymuno â rhaglen gefnogi o’r enw Channel. Mae hyn yn wirfoddol, felly gall person ddewis a yw am gymryd rhan. Os bydd person yn dewis peidio â chymryd rhan yn y rhaglen, efallai y bydd yn cael cynnig cefnogaeth arall yn lle hynny a bydd unrhyw risg yn cael ei reoli gan yr heddlu.

Gall y gefnogaeth a roddir gan y rhaglen Channel gynnwys:

  • mentora
  • cymorth iechyd meddwl fel cwnsela
  • cymorth addysg neu ddatblygu gyrfa
  • hyfforddiant diogelwch ar-lein ar gyfer rhieni

Darganfyddwch am y math o gymorth a gynigir trwy Prevent (ODT, 6.74 KB).

Darganfyddwch fwy ynglŷn â sut mae Prevent yn gweithio

Mae’r rhaglen Prevent hefyd yn helpu cymunedau i adeiladu eu gwytnwch i radicaleiddio trwy brosiectau lleol ledled y wlad.

Mae’r prosiectau hyn yn cael eu rhedeg gan elusennau a grwpiau cymunedol, ac yn amrywio o weithdai meddwl yn feirniadol mewn ysgolion i raglenni sy’n helpu oedolion agored i niwed gyda chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Mae Prevent yn rhedeg cannoedd o brosiectau bob blwyddyn gan gyrraedd miloedd o bobl ar draws y DU.

Gwenud cwyn am Prevent

Gallwch wneud cwyn am sut y cynhwyswyd Prevent, gan gynnwys unrhyw broblemau gyda Hyfforddiant Preventa gawsoch. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar wneud cwyn am Prevent.

Cyhoeddwyd ar 8 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 March 2024 + show all updates
  1. Added information about making a complaint about Prevent.

  2. Added a video: Prevent duty animation - public sector staff working together to stop radicalisation.

  3. Added information about the Prevent national referral form (NRF) and the 'notice, check, share' process.

  4. Removed Find out more about how Prevent works section.

  5. Added Welsh translation.

  6. First published.