Dewch o hyd i borth Kickstart i wneud cais am grant Cynllun Kickstart ar eich rhan
Darganfyddwch borth Kickstart yng Nghymru, Lloegr ar Alban sydd eisoes yn gweithio gyda Chynllun Kickstart.
Applies to England, Scotland and Wales
Mae ceisiadau i’r Cynllun Kickstart yn cau yn fuan.
Ar ôl dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 ni fyddwch yn gallu:
- gwneud cais am grant Cynllun Kickstart newydd
- ychwanegu mwy o swyddi i gytundeb grant presennol
Byddwn yn prosesu ceisiadau a gyflwynir cyn yr amser hwn neu sydd eisoes ar y gweill.
Beth yw porth Kickstart?
Gall porth Kickstart fod yn unrhyw fath o sefydliad, fel awdurdod lleol, elusen neu gorff masnach.
Byddant yn gweithredu fel cyfryngwr ac yn gwneud cais am arian ar eich rhan.
Gallant hefyd ddarparu cymorth cyflogadwyedd i’r bobl ifanc yn y swydd ar eich rhan.
Bydd pyrth Kickstart yn:
- casglu gwybodaeth am y lleoliad gwaith yr hoffech eu cynnig
- rhannu’r wybodaeth yma gyda’r DWP ar eich rhan
- talu’r cyllid i chi (er enghraifft cyflog y person ifanc)
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 October 2021 + show all updates
-
Added information about Kickstart Scheme applications closing on 17 December 2021.
-
Added link to new 'find a Kickstart gateway' online service.
-
New entries added to all regions.
-
First published.