Canllawiau

Amgylchiadau cyflogeion sy’n effeithio ar daliad Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Dysgwch sut y gall gwahanol amgylchiadau effeithio ar sut rydych yn cyfrifo hawl eich cyflogai a’r hyn rydych yn ei dalu iddo.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Enillion yr effeithir arnynt gan godiad cyflog sydd wedi’i ôl-ddyddio

Os oes gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, ac yn cael codiad cyflog sydd wedi’i ôl-ddyddio sy’n cynyddu swm yr enillion gros a dalwyd eisoes yn y cyfnod perthnasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • defnyddio’r enillion gros newydd i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol newydd
  • talu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ychwanegol sydd arnoch

Os nad oedd gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, ac os nad oedd gan eich cyflogai hawl i godiad cyflog sydd wedi’i ôl-ddyddio yn y cyfnod perthnasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Tandaliadau neu ordaliadau enillion

Os yw tandaliadau neu ordaliadau enillion yn effeithio ar enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai presennol, byddant hefyd yn effeithio ar hawl y cyflogai i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch cyflogai wedi cael ei ordalu, mae’n bosibl ei fod wedi cael gormod o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol (a byddai’n rhaid ei dalu’n ôl trwy’r gyflogres)
  • mae’ch cyflogai wedi cael ei dandalu, nid yw wedi cael y Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol cywir

Os yw’ch cyflogai’n newydd, ac mae tandaliadau neu ordaliadau enillion sy’n effeithio ar eu hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol:

  1. Gwiriwch a oes ganddo dystiolaeth ddogfennol sy’n cytuno i’r swm o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol y dylid bod wedi’i dalu iddynt, yn seiliedig ar ei enillion cyfartalog wythnosol.
  2. Yna, defnyddiwch y swm y cytunwyd arno i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Os nad oes tystiolaeth ddogfennol, defnyddiwch ei enillion gros i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Gall y cyflogai gael cyngor gan Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Cytundebau setliad TWE

Os nad oedd eich cyflogai’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol oherwydd bod ei enillion wythnosol cyfartalog yn llai na’r terfyn enillion is ar ddiwedd yr wythnos berthnasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Adiwch unrhyw dreuliau neu fuddiannau sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb setliad TWE a ddaeth i law yn y cyfnod perthnasol.
  2. Mae angen cynnwys cyfanswm unrhyw dreuliau neu fuddiannau yn ei enillion gros.
  3. Yna, defnyddiwch ei enillion gros i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol yn y cyfnod perthnasol.

Aberthu cyflog

Os oes gan eich cyflogai drefniant aberthu cyflog gyda chi, defnyddiwch swm gwirioneddol yr enillion gros a dalwyd iddo yn ystod y cyfnod perthnasol i gyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol.

Ni ellir aberthu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ac mae’n rhaid ei dalu’n llawn.

Dysgwch ragor am aberthu cyflog i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Buddiant nad yw ar ffurf arian parod

Mae’n bosibl y byddwch yn talu rhywfaint o enillion eich cyflogai gyda buddiant nad yw ar ffurf Arian Parod, fel bwyd a llety, nwyddau neu wasanaethau.

Ni ellir tynnu gwerth ariannol y buddiant a roddir i’ch cyflogai yn ystod y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol o’u hawl tâl.

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn llawn.

Genedigaethau lluosog o’r un beichiogrwydd

Bydd gan eich cyflogai hawl i Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol (os yw’n gymwys) am uchafswm o 12 wythnos, hyd yn oed os oes angen gofal newyddenedigol ar fwy nag un plentyn:

  • ar yr un pryd (mae gorgyffwrdd)
  • ar adegau ar wahân (does dim gorgyffwrdd)

Os oes angen gofal newyddenedigol ar fwy nag un plentyn ar yr un pryd, gall eich cyflogai adeiladu (‘cronni’) ei hawl i Absenoldeb a Thâl Gofal Newydd-enedigol Statudol am un plentyn yn unig.

Os oes angen gofal newyddenedigol ar adegau ar wahân, gall eich cyflogai adeiladu ei hawl i Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfer pob un o’r plant, cyn belled â bod pob un ohonynt yn cael o leiaf 7 diwrnod di-dor llawn o ofal newyddenedigol.

Bydd gan eich cyflogai hyd at 68 wythnos o enedigaeth y plant, neu o enedigaeth y plentyn cyntaf (os oes gan y plant ddyddiadau geni gwahanol) i ddefnyddio ei hawl.

Trefniadau mam fenthyg

Os eich cyflogai yw’r rhiant arfaethedig mewn trefniant mam fenthyg (yn agor tudalen Saesneg), ond na wnaeth wneud cais am orchymyn rhiant i ddod yn rhiant cyfreithiol cyn pen 6 mis i enedigaeth y plentyn, bydd ganddo hawl o hyd i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r plentyn yn dechrau cael gofal newyddenedigol cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael ei eni, ac maent wedi cael o leiaf 7 diwrnod di-dor llawn o ofal newyddenedigol
  • mae’ch cyflogai eisoes wedi cronni ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Tarfiad ar fabwysiadu

Gall mabwysiadu gael ei darfu os, er enghraifft, mae’r plentyn:

  • yn mynd yn ôl i ofal awdurdod lleol
  • wedi’i fabwysiadu o dramor ac yn stopio byw gyda’r rhiant mabwysiadol

Os mae’ch cyflogai yw’r rhiant mabwysiadol, bydd ganddo’r hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r plentyn yn dechrau cael gofal newyddenedigol cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael ei eni, ac maent yn cael o leiaf 7 diwrnod di-dor llawn o ofal newyddenedigol
  • mae’r cyflogai eisoes wedi cronni ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Mae’r plentyn yn marw

Bydd gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:

  • roedd angen gofal newyddenedigol ar y plentyn cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael ei eni, a derbyniodd 7 diwrnod llawn o ofal newyddenedigol
  • mae’r cyflogai eisoes wedi cronni ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Mae’n bosibl y bydd y cyflogai hefyd yn gymwys i gael Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth.

Nid yw’r cyflogai’n dychwelyd i’r gwaith

Os yw’ch cyflogai’n dweud wrthych nad ydynt yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl iddo gymryd ei Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi barhau i dalu ei hawl i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Ni allwch ofyn i’r cyflogai talu unrhyw beth yn ôl.

Mae cyflogai’n gadael cyn cymryd Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Ni fydd gan eich cyflogai hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r cyflogai’n gadael eich cyflogaeth yr wythnos cyn y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, neu’n gynharach
  • nid oedd eich cyflogai wedi’i gyflogi’n barhaus gennych o ddiwedd yr wythnos berthnasol

Mae cyflogai’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl iddo wasanaethu yn y lluoedd arfog (milwr wrth gefn)

Os bydd eich cyflogai’n dychwelyd i’r gwaith cyn pen 6 mis o wasanaethu yn y lluoedd arfog, mae’n bosibl y bydd y cyflogai’n gallu cael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol o dan Reoliadau’r Lluoedd Wrth Gefn (Diogelu Cyflogaeth) (rheoliad 21) (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os nad oedd yn gweithio i chi yn ystod y cyfnod cyflogaeth parhaus.

I gyfrifo cyfnod cyflogaeth parhaus y cyflogai, adiwch y canlynol at ei gilydd:

  • pa mor hir y gweithiodd eich cyflogai i chi cyn iddo wasanaethu
  • pa mor hir y mae’ch cyflogai’n gweithio i chi ar ôl iddo wasanaethu

Peidiwch â chynnwys pa mor hir y gwasanaethodd eich cyflogai yn y lluoedd arfog.

Mae cyflogai’n cael ei adfer ar ôl ei ddiswyddo

Os byddai’ch cyflogai wedi bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, ond y gwnaethoch ei ddiswyddo yn ystod y cyfnod cyflogaeth parhaus, mae’n rhaid i chi dalu’r hyn y mae ganddo’r hawl iddo, os byddwch yn ei adfer am un o’r rhesymau canlynol:

  • oherwydd bod tribiwnlys cyflogaeth wedi penderfynu ei fod wedi’i ddiswyddo’n annheg
  • ar ôl penderfynu ar ganlyniad gweithdrefn gwyno ffurfiol

Seibiannau mewn cyflogaeth

Os yw’ch cyflogai’n gymwys, mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol iddo os oes ganddo gontract gwasanaeth parhaus, ac mae saib yn y cyfnod cyflogaeth parhaus am y rhesymau canlynol:

  • mae’ch cyflogai’n sâl neu wedi’i anafu — ond dim ond os yw’r cyfanswm cyfnod yn 26 wythnos neu lai
  • mae’ch cyflogai ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant, mabwysiadu neu brofedigaeth rhieni, ac wedi gweithio i chi cyn ac ar ôl
  • mae’n ŵyl gyhoeddus
  • nid oedd gennych unrhyw waith i’w roi iddo os ydyn nhw ar gontract achlysurol neu dymor byr, neu ei fod yn weithiwr asiantaeth

Dysgwch am y gwahanol reolau hawl ar gyfer rhai mathau o gyflogaeth.

Mae’r cyflogai’n sâl

Os yw’ch cyflogai’n sâl am fwy na 7 diwrnod, yn ystod y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi wirio a ddylen nhw gael Tâl Salwch Statudol yn hytrach na Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Os yw’ch cyflogai’n cael Tâl Salwch Statudol, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogai nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Pan fydd cyfnod Tâl Salwch Statudol y cyflogai’n dod i ben, gallwch ddechrau talu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol iddo eto.

Bydd eich cyflogai’n colli ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol am y cyfnod y mae’n cael Tâl Salwch Statudol; ni fydd yn gallu ei gario drosodd.

Mae cyflogai’n mynd dramor

Os yw’ch cyflogai eisoes wedi bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, a’i fod yn gadael Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) yn ystod y cyfnod Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi barhau i dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol sy’n weddill.

Mae’r cyflogai’n gweithio i gyflogwr arall

Dylai’ch cyflogai rhoi gwybod i chi os yw’n gweithio i gyflogwr arall.

Mae’n rhaid i chi wirio a oedd eich cyflogai wedi’i gyflogi gan y cyflogwr arall:

  • yn ystod wythnos lle mae’n hawlio Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
  • cyn neu ar ôl yr wythnos berthnasol

Os yw’ch cyflogwr yn gweithio i gyflogwr arall cyn yr wythnos berthnasol, ac nad yw’n agored i dalu Gofal Newyddenedigol Statudol iddo, mae’n rhaid i chi barhau i dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol sy’n weddill i’ch cyflogai.

Os yw’ch cyflogwr yn gweithio i gyflogwr arall ar ôl yr wythnos berthnasol, rhoi’r gorau i dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i’ch cyflogai; Mae’ch rhwymedigaeth i dalu yn dod i ben o ddechrau’r wythnos y maent yn gweithio i’r cyflogwr arall.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogai nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Mae cyflogai’n marw

Os yw’ch cyflogai’n marw yn ystod y cyfnod Gofal Newyddenedigol Statudol, dylech dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol am yr wythnos y mae’n marw, ond nid am unrhyw wythnos ar ôl hynny.

Gweithredu diwydiannol

Nid yw gweithredu diwydiannol yn torri’r cyfnod cyflogaeth parhaus, ond os yw’ch cyflogai ar streic oherwydd gweithredu diwydiannol, nid yw’r wythnosau neu’r wythnosau rhannol yr oeddent i fod i weithio i chi, ond nad oeddent yn eu cyfrif tuag at y cyfnod cyflogaeth 26 wythnos hyd at ddiwedd yr wythnos berthnasol.

Mae’r cyflogai wedi’i arestio neu yn y carchar

Mae’n rhaid i’ch cyflogai rhoi gwybod i chi os yw’n cael ei harestio (yn y ddalfa) neu yn y carchar.

Peidiwch â thalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol am unrhyw adeg y mae’ch cyflogai’n cael ei arestio neu yn y carchar.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogai nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.

Mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i’ch cyflogai os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch cyflogai’n helpu’r heddlu yn wirfoddol gyda’u hymchwiliadau
  • mae’ch cyflogai’n cael ei ryddhau o’r ddalfa heb gael ei gyhuddo
  • mae’ch cyflogai allan ar fechnïaeth, a heb gael ei gyhuddo
  • mae dedfryd carchar eich cyflogai wedi’i hatal
  • mae’ch cyflogai’n cael ei ganfod yn ddieuog o drosedd a’i ryddhau
  • mae’ch cyflogai’n cael ei gael yn euog o drosedd, ond nid yw’n cael dedfryd o garchar (nid yw’n mynd i’r carchar)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Mai 2025 show all updates
  1. Added translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon