Sut mae mathau gwahanol o gyflogaeth yn effeithio ar Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Dysgwch am y rheolau gwahanol sy’n berthnasol i rai mathau o gyflogaeth er mwyn penderfynu ar hawl eich cyflogai i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Gweithwyr asiantaeth, cyflogeion achlysurol neu cyflogeion â chontract tymor byr
Gallwch drin gweithwyr asiantaeth fel cyflogeion ar gyfer TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.
Fel arfer, bydd cyflogai achlysurol neu gyflogai â chontract tymor byr yn rhywun sy’n gweithio i chi o dan yr amodau canlynol:
- pan bo ei angen
- ar gyfres o gontractau byrion o gyflogaeth
Mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i’r cyflogai os yw’r amodau canlynol yn berthnasol:
- rydych yn didynnu TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o’i enillion (neu y byddwch chi wedi gwneud os byddai ei enillion yn ddigon uchel)
- mae’r cyflogai yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (yn agor tudalen Saesneg)
Gallai dal gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol os yw’r canlynol yn wir:
- nid oes gennych waith i’w roi i’r cyflogai
- mae gennych waith i’w roi i’r cyflogai, ond nid ydyw ar gael
- mae’r cyflogai yn sâl neu wedi’i anafu
- ni all y cyflogai weithio o ganlyniad i absenoldeb ar y cyd i rieni, gwyliau â thâl neu absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol (megis absenoldeb Mamolaeth neu Dadolaeth Statudol)
Dysgwch beth i’w wneud os yw’ch cyflogai yn cael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eisoes, ac mae’r cyflogai yn rhoi gwybod i chi ei fod yn sâl am fwy na 7 diwrnod.
Gweithwyr Amaethyddol
Mae gweithwyr amaethyddol yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cael eu cyflogi cyn 1 Hydref 2013 yn cael eu cwmpasu gan y telerau a’r amodau sydd wedi’u nodi yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i weithwyr amaethyddol os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
- roedd y gweithiwr wedi’i gyflogi ar, neu ar ôl, 1 Hydref 2023
- mae’r gweithiwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (yn agor tudalen Saesneg)
Dysgwch ragor am hawliau gweithwyr amaethyddol (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfarwyddwyr
Os yr ymgorfforwyd eich cwmni cyn 1 Hydref 2009
Os yr ymgorfforwyd (cofrestru fel cwmni cyfyngedig) eich cwmni cyn 1 Hydref 2009, bydd yr erthyglau cymdeithasau safonol, sy’n berthnasol yn ddiofyn, yn parhau i fod yn berthnasol.
Bydd yn rhaid cael penderfyniad cyffredin gan y cyfranddalwyr er mwyn pennu tâl y cyfarwyddwr.
Mewn achosion o’r fath, bydd y dull o gyfrifo tâl y cyfarwyddwr drwy ffigur blynyddol yn berthnasol er mwyn cyfrifo ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol.
Ni fydd unrhyw daliadau sydd wedi’u talu cyn y bleidlais flynyddol yn cael eu hystyried wrth gyfrifo ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol.
Os yr ymgorfforwyd eich cwmni ar ôl 1 Hydref 2009
Mae rheoliadau diweddarach os yr ymgorfforwyd (cofrestru fel cwmni cyfyngedig) ar ôl 1 Hydref 2009.
Maent yn darparu ar gyfer erthyglau cymdeithasu newydd, a byddant yn gwneud y canlynol:
- bod yn berthnasol yn ddiofyn os nad yw erthyglau eraill yn cael eu mabwysiadu
- caniatáu i’r cyfarwyddwyr bennu tâl y cyfarwyddwr
Bydd cyfarwyddwyr yn penderfynu ar swm y tâl, a phryd y caiff ei dalu.
Nid oes gofyn cael penderfyniad gan gyfranddalwyr y cwmni yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol.
Mewn achosion o’r fath, bydd ffioedd y cyfarwyddwr yn cael eu dosbarthu fel enillion ar y diwrnod yr oeddent yn daledig, er mwyn cyfrifo ei hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol.
Dysgwch am redeg cwmni cyfyngedig a chyfrifoldebau’r cyfarwyddwr (yn agor tudalen Saesneg).
Taledig yn gontractiol
Os yw cyfarwyddwr yn cael taliad cyflog rheolaidd yn gontractiol, cyfrifwch yr enillion cyfartalog wythnosol, fel y byddwch yn ei wneud ag unrhyw gyflogai arall.
Taledig yn ôl dyfarniad y cyfarwyddwyr (nad yw’n bleidlais ffurfiol)
Er mwyn cyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol yn ystod y cyfnod perthnasol, adiwch y canlynol at ei gilydd:
- yr arian a dalwyd
- unrhyw daliad arall o enillion gros
Defnyddiwch y dyddiad y talwyd yr arian, nid dyddiad dyfarniad y cyfranddalwyr yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol.
Fel arfer, y cyfnod perthnasol yw’r 8 wythnos sy’n rhagflaenu’r wythnos berthnasol.
Mae’r cyfnod perthnasol yn cychwyn ddiwrnod ar ôl y diwrnod cyflog arferol olaf, sydd o leiaf 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod perthnasol.
Mae’r cyfnod perthnasol yn gorffen ar y diwrnod cyflog arferol olaf sydd ar, neu cyn, y Dydd Sadwrn sy’n ystod yr wythnos berthnasol.
Taledig yn gontractiol a thrwy bleidlais ffurfiol
Efallai bydd cyfarwyddwr sy’n cael ei dalu’n gontractiol (cyflog rheolaidd), yn cael bonws neu ffioedd drwy bleidlais ffurfiol.
Cyfrifwch ei enillion cyfartalog wythnosol, fel y byddwch yn ei wneud ag unrhyw gyflogai arall. Os yw’r bleidlais ffurfiol yn digwydd yn ystod yr wythnos berthnasol, dylech gynnwys y bonws neu’r ffioedd er mwyn cyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol.
Taledig drwy bleidlais ffurfiol yn unig
Os bydd y cyfarwyddwr yn cael ei dalu drwy bleidlais ffurfiol yn unig, dylech wneud y canlynol:
- cyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol yn y ffordd arferol
- defnyddio dyddiad y bleidlais ffurfiol yn hytrach na dyddiad ei ddiwrnod cyflog arferol
Fel arfer, bydd pleidlais ffurfiol yn digwydd yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol y cwmni, a bydd wedi’i gytuno yng nghofnodion y cwmni.
Arian sydd wedi’i dynnu cyn pleidlais ffurfiol
Mae rhai cyfarwyddwyr yn tynnu arian allan o’r busnes cyn pleidlais ffurfiol.
Peidiwch â defnyddio’r arian hwn wrth gyfrifo enillion cyfartalog wythnosol y cyfarwyddwr, hyd yn oed os didynwyd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar yr adeg y talwyd yr arian.
Cyflogeion sy’n gweithio dramor
Mae’n bosibl i’ch cyflogai gael Gofal Newyddenedigol Statudol os ydy’r cyflogai yn gweithio i chi y tu allan i’r DU, cyn belled â bod yr amodau canlynol yn wir:
- rydych yn agored i ddidynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o’i enillion (neu y byddwch chi wedi gwneud os byddai ei enillion yn ddigon uchel)
- mae’r cyflogai yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (yn agor tudalen Saesneg)
Dysgwch ragor am gyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydy’ch cyflogai yn gweithio dramor.
Morwyr
Os mai’r DU yw lleoliad eich busnes, ac mae’r morwr yn gweithio ar fwrdd llong sy’n masnachu adref, mae’n bosibl y gallai gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, os ydy’r morwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.
Athrawon Cyflenwi, gweithwyr tymhorol neu gyflogaeth afreoleidd arall
Gallwch drin y gweithwyr hyn fel cyflogeion ar gyfer TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.
Mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol i’r cyflogai os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn didynnu TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o’i enillion (neu y byddwch chi wedi gwneud os byddai ei enillion wedi bod yn ddigon uchel)
- mae’r cyflogai yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r mwyafrif o’r rheolau ar gyfer ‘gweithwyr asiantaeth’ yn berthnasol ar gyfer y mathau hyn o weithwyr.
Mae’n bosibl eu trin fel eu bod wedi gweithio yn ystod yr wythnos berthnasol hyd yn oed os yw’r canlynol yn wir:
- nid oes gennych waith i’w roi i’r cyflogai
- mae’r cyflogai yn sâl neu wedi’i anafu
- ni allai weithio o ganlyniad i absenoldeb ar y cyd i rieni, gwyliau â thâl neu absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol (megis absenoldeb Mamolaeth neu Dadolaeth Statudol)
Dysgwch beth i’w wneud os yw’ch cyflogai yn cael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eisoes, ac mae’r cyflogai yn rhoi gwybod i chi ei fod yn sâl am fwy na 7 diwrnod.
Cyflogeion sydd â mwy nag un swydd gyda chi
Os oes gan eich cyflogai fwy nag un swydd gyda chi, mae’n bosibl y bydd yn medru cael y canlynol:
- y Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol fel un rhan (ar gyfer yr holl swyddi)
- y Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol mewn cyfrannau ar wahân (ar gyfer pob swydd yn unigol)
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol fel un rhan
Os ydych yn adio holl enillion gros eich cyflogai at ei gilydd er mwyn cyfrifo ei gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, gallwch ddilyn yr un dull er mwyn cyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol.
Dim ond un rhan o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol gall eich cyflogai ei gael.
Mae’n rhaid i’r cyflogai gael yr un Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ac Absenoldeb ar gyfer yr holl swyddi. Os nad yw hyn yn wir, bydd yn colli ychydig o’i hawl Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol mewn cyfrannau ar wahân
Os nad ydych yn adio holl enillion gros eich cyflogai at ei gilydd er mwyn cyfrifo ei gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, byddwch yn cyfrifo ei enillion cyfartalog wythnosol ar wahân.
Gall eich cyflogai gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol mewn cyfrannau ar wahân.
Ni fydd yn colli dim o’i hawl Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol os ydy’r cyflogai yn cael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ac Absenoldeb mewn cyfrannau ar wahân.
Cyflogeion sydd â mwy nag un cyflogwr
Os yw eich cyflogai yn gweithio i gyflogwr arall, ac maent yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (yn agor tudalen Saesneg), gallai gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol mewn 2 ran; un gan bob cyflogwr.
Os ydych chi a chyflogwr arall yn cyfuno ei enillion unigol i un taliad unigol o enillion, byddwch yn cael eich trin fel un cyflogwr.
Gallwch gytuno ar y dosraniad o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol y byddwch yn ei dalu yr un i’r cyflogai.
Os na allwch gytuno ar y dosraniad y byddwch yn ei dalu yr un, gallwch ei gyfrifo ar wahân. Bydd y swm yn seiliedig ar gyfanswm enillion gros y cyflogai yr ydych yn ei dalu yr un.
Gall y cyflogai gymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol gan bob cyflogwr.