Skip to main content

Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor

Os ydych yn gweithio dramor, byddwch fel arfer yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol (a elwir yn gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU) yn y wlad lle rydych yn gweithio ynddi.

Efallai y bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU tra’ch bod yn gweithio dramor. Efallai y bydd angen i chi gael tystysgrif i ddangos eich bod yn talu yn y DU. Mae’n dibynnu ar ble a pha mor hir yr ydych yn gweithio.

Gwiriwch yr arweiniad ynghylch nawdd cymdeithasol dramor (NI38) i weld rhestr o wledydd sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gweithio mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU

Os oes gan y wlad rydych chi’n gweithio ynddi gytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU.

Bydd angen i chi gael ‘tystysgrif yswiriant’ i ddangos eich bod yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU a does dim angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych yn gweithio ynddi.

Ewch ati i gael gwybod sut i wneud cais am dystysgrif

Gwiriwch a oes gan wlad gytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU, a sut i wneud cais os ydych yn gymwys i gael tystysgrif yswiriant.

Dechrau nawr

Gweithio mewn gwlad sydd heb gytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU

Mae angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU am y 52 wythnos gyntaf o weithio dramor os ydych yn bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  • rydych yn gweithio dramor dros dro
  • mae gan eich cyflogwr leoliad busnes yn y DU
  • rydych yn breswylydd yn y DU gan amlaf
  • roeddech yn byw yn y DU yn union cyn dechrau gweithio dramor

Bydd eich cyflogwr yn tynnu eich Yswiriant Gwladol o’ch enillion.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn y DU tra’ch bod yn gweithio dramor.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tra ydych dramor.

Bydd eich taliadau’n diogelu:

Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn cynnwys eich yswiriant iechyd yn y wlad lle rydych yn byw.