Skip to main content
Canllawiau

Olrhain gwastraff digidol: gwiriwch a oes angen ichi roi gwybod am y gwastraff rydych chi'n ei dderbyn

Pryd mae’n rhaid i sefydliadau sydd â hawlen neu drwydded roi gwybod am wastraff a reolir drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff'.

Pwy sy’n gorfod defnyddio’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff’

Os oes gennych chi drwydded neu hawlen i dderbyn gwastraff a reolir, bydd angen ichi nodi manylion pob llwyth sy’n dod i law a hynny drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff’.

Mae hyn yn gymwys i bob hawlen:

  • ar gyfer gweithrediadau, gosodiadau ac offer symudol
  • ar gyfer safleoedd sydd wedi’u lleoli ar yr un safle lle cynhyrchir gwastraff

Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Olrhain Gwastraff Digidol (Cymru) 2026 a Rheoliadau Olrhain Gwastraff Digidol (Lloegr) 2026 (yn Saesneg).

Gwiriwch a oes gennych chi wastraff a reolir

Mae’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff’ wedi’i fwriadu ar gyfer gwastraff a reolir yn unig. Mae’r rhan fwyaf o wastraff cartref, gwastraff masnachol neu ddiwydiannol yn wastraff a reolir.

Cyn ichi gofrestru, gwiriwch y math o wastraff rydych chi’n ei dderbyn. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 (yn Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Pwy sydd ddim angen defnyddio’r gwasanaeth

Os ydych chi’n gweithredu canolfan ailgylchu gwastraff cartref (HWRC)

Does dim rhaid ichi ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff’ os ydych chi:

  • yn gweithredu HWRC yng Nghymru
  • yn derbyn gwastraff cartref gan breswylwyr mewn HWRC yn Lloegr

Os ydych chi wedi’ch allgáu’n ddigidol

Bernir eich bod wedi’ch allgáu’n ddigidol:

  • os nad yw’n ymarferol defnyddio offer digidol i roi gwybod am eich gwastraff oherwydd eich oedran, eich anabledd neu’ch lleoliad
  • os yw eich busnes yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan aelodau ymarferol o gymdeithas (neu urdd) grefyddol nad yw eu credoau’n gydnaws â defnyddio cyfathrebu electronig neu gadw cofnodion electronig

Ni fernir eich bod chi wedi’ch allgáu’n ddigidol:

  • os mai cofnodion papur sydd orau gennych
  • os nad ydych chi’n gyfarwydd â meddalwedd
  • os byddai’n cymryd amser neu gost ychwanegol i gydymffurfio

Bydd angen ichi ddilyn proses wahanol os ydych chi wedi’ch allgáu’n ddigidol. Edrychwch ar yr adran ynghylch cyflwyno data os ydych chi wedi’ch allgáu’n ddigidol.

Rhoi gwybod am y gwastraff rydych chi’n ei dderbyn

Defnyddiwch y gwasanaeth Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff i roi gwybod am y gwastraff a reolir rydych chi’n ei dderbyn ar eich safle trwyddedig neu eich safle sydd â hawlen.

Pa ddata i’w gyflwyno

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae angen ei gyflwyno yn Atodlen 1 i Reoliadau Olrhain Gwastraff Digidol (Cymru) 2026 ac Atodlen 1 i Reoliadau Olrhain Gwastraff Digidol (Lloegr) 2026 (yn Saesneg), gan gynnwys:

  • manylion y symudiad gwastraff, y cludwr a’r derbynnydd
  • codau dosbarthu’r gwastraff
  • codau adfer a gwaredu
  • data llygryddion organig parhaus (POPs)
  • data gwastraff peryglus

Gallwch hefyd ddod o hyd i’r gofynion data yn y Templed taenlen derbyn gwastraff (yn Saesneg).

Codau dosbarthu gwastraff

Darllenwch y canllawiau dosbarthu (yn Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio codau dosbarthu gwastraff. Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n godau rhestr wastraff (LoW) a chodau Catalog Gwastraff Ewrop (CGA).

Codau adfer a gwaredu

Edrychwch  ar Atodiad I o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (yn Saesneg) i gael y rhestr lawn o godau gwaredu ac Atodiad II o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (yn Saesneg) i gael y rhestr lawn o godau adfer.

Rhoi gwybod am wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus (POPs)

Os yw’r gwastraff yn cynnwys un neu ragor o’r sylweddau a restrir yn Atodiad IV o’r Rheoliad POPs (yn Saesneg), mae’n rhaid ichi nodi:

  • enw’r sylwedd
  • gwerth y crynodiad

Os na allwch chi ddarparu dim o’r wybodaeth yma, rhaid ichi ddweud pam.

Rhoi gwybod am wastraff peryglus

Rhaid ichi wirio a oes gan eich gwastraff un neu fwy o briodweddau peryglus a restrir yn Atodiad III o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (yn Saesneg).

Ar gyfer pob priodwedd beryglus, rhaid ichi gynnwys:

  • y codau Priodwedd Beryglus (HP) perthnasol
  • y cydrannau cemegol neu fiolegol
  • gwerth crynodiad y cydrannau peryglus (heb gynnwys cydrannau peryglus sydd â phriodweddau ffisegol)

Os yw’ch gwastraff yn cynnwys sylwedd sy’n fwy na’r terfyn crynodiad a restrir yn Atodiad C, Pennod 16 o’r canllawiau technegol dosbarthu gwastraff (yn Saesneg), mae’n rhaid ichi nodi’r cod perygl fel POP.

Os na allwch chi ddarparu dim o’r wybodaeth hon, rhaid i chi ddweud pam.

Pryd mae angen ichi gyflwyno’ch data

Os ydych chi’n derbyn gwastraff yng Nghymru neu Loegr, rhaid ichi ddefnyddio’r gwasanaeth o 1 Hydref 2026 ymlaen.

Rhaid ichi gyflwyno cofnodion o fewn dau ddiwrnod gwaith (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc), gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl ichi dderbyn y gwastraff.

Er enghraifft, os byddwch chi’n derbyn y gwastraff am 9am ddydd Llun, rhaid ichi gyflwyno’ch derbynneb a sicrhau rhif cyfeirnod unigryw erbyn 11:59pm ddydd Mercher.

Os oes gwall gyda’ch cyflwyniad

Os cewch chi hysbysiad trwy’r ebost neu gan eich meddalwedd ynghylch gwall gyda’ch cyflwyniad, rhaid ichi ei gywiro o fewn yr un amserlen o ddau ddiwrnod gwaith.

Os ydych chi’n derbyn gwastraff a reolir drwy biblinell

Os yw’ch gwastraff yn cael ei bibellu dros fwy nag un diwrnod, mae’r amserlen dau ddiwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl ichi dderbyn y llwyth olaf.

Os yw’r gwastraff yn cael ei bibellu’n barhaus, mae’r amserlen yn dechrau y diwrnod ar ôl y cynharaf o’r dyddiadau canlynol:

  • dyddiad gorffen y chwarter yn y nodyn trosglwyddo gwastraff neu’r nodyn llwyth
  • y diwrnod y mae’r pibellu yn stopio

Nodiadau a ffurflenni y mae’n rhaid ichi eu cyflwyno y tu allan i’r gwasanaeth

Hyd nes y cewch chi hysbysiad pellach, mae’n rhaid ichi barhau i gyflwyno’r nodiadau a’r ffurflenni canlynol yn ogystal â defnyddio’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff’.

Nodiadau trosglwyddo gwastraff a nodiadau llwyth gwastraff peryglus

Bydd y dull papur presennol o olrhain gwastraff yn parhau i redeg ochr yn ochr â’r gwasanaeth digidol newydd i ddechrau. Mae hyn yn golygu bod rhaid ichi barhau i lenwi nodiadau trosglwyddo gwastraff, ffurflenni Atodiad VII a nodiadau llwyth gwastraff peryglus (lle bo’u hangen).

Os byddwch chi’n derbyn llwyth o wastraff peryglus â sawl nodyn llwyth, rhaid ichi nodi’r gwastraff sydd wedi’i gynnwys ar bob nodyn llwyth fel cofnod ar wahân yn y gwasanaeth.

Ffurflenni gwastraff a ffurflenni derbynwyr gwastraff peryglus

Rhaid ichi barhau i gyflwyno ffurflenni gwastraff yn unol ag amodau’ch hawlen amgylcheddol.

Rhaid ichi hefyd barhau i gyflwyno ffurflenni derbynwyr gwastraff peryglus (bydd taliadau yn dal yn gymwys).

Bydd y llywodraeth a’r rheoleiddwyr amgylcheddol yn datblygu cynlluniau pontio ar gyfer symud o ffurflenni data i ddefnyddio data’r gwasanaeth.

Diweddaru gwallau yn y data rydych chi wedi’i gyflwyno

Rhaid ichi gywiro unrhyw wall cyn gynted ag y gallwch a bob amser o fewn un mis ar ôl ei ddarganfod. Mae hyn yn gymwys i wallau:

  • yn y data rydych chi wedi’i gyflwyno
  • yn yr wybodaeth am wastraff sydd wedi’i rhoi i chi

Dim ond os ydych chi wedi cael cyfeirnod olrhain gwastraff ar gyfer y symudiad gwastraff hwnnw y byddwch chi’n gallu diweddaru taenlen sy’n bodoli eisoes.

Rhoi gwybod am dderbyniadau gwastraff yn ystod toriad

Os na allwch chi gyflwyno derbyniad o wastraff oherwydd toriad (er enghraifft, oherwydd difrod adeiladau neu fethiant rhwydwaith), mae’n rhaid ichi:

  • ddweud wrth eich rheoleiddiwr cyn gynted ag y gallwch (oni bai eich bod wedi cael gwybod bod y toriad yn deillio o’r ffaith nad yw’r gwasanaeth ar gael)
  • gwneud a chadw cofnod ysgrifenedig o dderbyniadau data gwastraff o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod ar ôl derbyn y llwyth
  • trosglwyddo’r cofnod ysgrifenedig i’r gwasanaeth o fewn saith diwrnod gwaith, gan ddechrau o’r diwrnod ar ôl i’r toriad gael ei ddatrys
  • rhoi mynediad i’ch rheoleiddiwr i’ch cofnod ysgrifenedig cyn gynted ag y gallwch os bydd yn gofyn i’w weld

Cyflwyno data os ydych chi wedi’ch allgáu’n ddigidol

Os ydych chi’n gymwys fel rhywun sydd wedi’i allgáu’n ddigidol, mae’n rhaid ichi:

  • fod â rhif allgáu’n ddigidol a roddwyd ichi gan eich rheoleiddiwr
  • gwneud cofnod ysgrifenedig o bob llwyth rydych chi’n ei dderbyn o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod ar ôl i’r llwyth gael ei dderbyn – rhaid i’r cofnod gynnwys yr holl wybodaeth ofynnol
  • cynnwys eich rhif allgáu’n ddigidol ym mhob cofnod ysgrifenedig
  • cadw’r cofnod ysgrifenedig am o leiaf dair blynedd, gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r cofnod yn cael ei wneud
  • rhoi mynediad i’ch rheoleiddiwr i’ch cofnodion ysgrifenedig cyn gynted ag y gallwch os bydd yn gofyn i’w gweld

Os ydych chi wedi’ch allgáu’n ddigidol ond nad oes gennych rif allgáu’n ddigidol, rhaid ichi gysylltu â’ch rheoleiddiwr a gwneud cais am un.

Bydd eich rheoleiddiwr yn rhoi rhif ichi ac yn cadw cofnod o’ch manylion ar eu cronfa ddata.

Os nad ydych chi wedi’ch allgáu’n ddigidol mwyach

Rhaid ichi ysgrifennu at eich rheoleiddiwr a rhoi gwybod iddo cyn gynted ag y gallwch os yw’ch amgylchiadau wedi newid.

Ar ôl ichi roi gwybod, gallwch barhau i wneud cofnodion ysgrifenedig yn ystod cyfnod pontio o 28 diwrnod. Ar ôl 28 diwrnod, mae’n rhaid ichi ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod am dderbyn gwastraff’.

Gallwch gael dirwy os byddwch chi’n gweithredu fel person sydd wedi’i allgáu’n ddigidol ac nad oes gennych rif allgáu’n ddigidol neu os byddwch chi’n methu dweud wrth eich rheoleiddiwr nad ydych yn gymwys mwyach.

Os na fyddwch chi’n cydymffurfio â’r rheoliadau newydd

Byddwch yn cyflawni trosedd os na fyddwch chi’n cydymffurfio â’r rheolau. Mae hyn yn cynnwys rheolau ar ddyddiadau cau, toriadau, cofnodion ysgrifenedig, cywiro gwallau, allgáu digidol a gwneud cofnodion cywir gan ddefnyddio’r gwasanaeth.

Os torrwch chi unrhyw un neu ragor o’r rheolau yma, fe allech chi wynebu:

  • hysbysiad cydymffurfio
  • hysbysiad adennill costau gorfodi
  • cosb ariannol amrywiol o swm diderfyn
  • cosb ariannol benodedig o £1,000
  • erlyniad troseddol ac, os cewch eich euogfarnu, dirwy ddiderfyn

Gallech hefyd wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar os byddwch chi’n gwneud datganiadau neu gofnodion ffug neu gamarweiniol i’r rheoleiddwyr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bolisi gorfodi a sancsiynau Cyfoeth Naturiol Cymru neu, yn achos Lloegr polisi gorfodi a sancsiynau Asiantaeth yr Amgylchedd (yn Saesneg).

Cyflwyno gwrthwynebiad

Os cewch chi hysbysiad o fwriad i gyflwyno cosb ariannol, mae gennych 28 diwrnod i gyflwyno gwrthwynebiad ysgrifenedig i’ch rheoleiddiwr.

Bydd eich rheoleiddiwr yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a gall benderfynu rhoi hysbysiad cosb ariannol terfynol, a all gynnwys addasiadau.

Apelio yn erbyn penderfyniad sancsiwn sifil

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad sancsiwn sifil ar ôl ichi gael hysbysiad cosb ariannol terfynol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adennill costau gorfodi.

Gallwch apelio os ydych chi’n credu bod penderfyniad y rheoleiddiwr:

  • wedi’i seilio ar wall ffeithiol
  • yn anghywir yn y gyfraith
  • yn afresymol (er enghraifft, swm cosb amrywiol neu’r gofyniad mewn hysbysiad cydymffurfio)

Rhaid ichi anfon eich apêl at y tribiwnlys haen gyntaf o fewn dau fis ar ôl penderfyniad y rheoleiddiwr.

Os byddwch chi’n apelio, mae’r hysbysiad yn cael ei atal (ac eithrio hysbysiadau cydymffurfio) nes bod eich apêl yn cael ei thynnu’n ôl neu nes bod y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad.

Gall y tribiwnlys ddiddymu’r penderfyniad, ei gadarnhau, ei amrywio neu ei anfon yn ôl at y rheoleiddiwr gyda chyfarwyddiadau.

Cael rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad rheoleiddio yng Nghymru ac apelio yn erbyn rheoleiddiwr (yn Saesneg) yn Lloegr.

Cofrestr gyhoeddus o gamau gorfodi

Bydd eich rheoleiddiwr yn cadw cofrestr sydd ar gael i’r cyhoedd o unrhyw euogfarnau, sancsiynau sifil a hysbysiadau adennill costau gorfodi.

Dim ond ar ôl i unrhyw apêl gael ei datrys neu os yw’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno apêl wedi mynd heibio y bydd sancsiynau sifil yn ymddangos ar y gofrestr. Rhaid i wybodaeth sy’n ymwneud â sancsiynau sifil gael ei thynnu o’r gofrestr o fewn pedair blynedd.

Rhaid i fanylion euogfarnau gael eu tynnu o’r gofrestr unwaith y bydd y cyfnod adsefydlu perthnasol wedi’i gwblhau.

Ble i gael rhagor o wybodaeth

Rheoliadau Olrhain Gwastraff Digidol (Cymru) 2026

Rheoliadau Olrhain Gwastraff Digidol (Lloegr) 2026 (yn Saesneg)

Cael help

Cymorth technegol

Os oes arnoch chi angen help i gael mynediad i’r gwasanaeth neu os ydych chi’n cael problemau wrth ei ddefnyddio, cysylltwch â’r ddesg gymorth dechnegol.

Ffôn: 03000 203 781
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Rhagor o wybodaeth am daliadau am alwadau

Bodloni’r gofynion ynglŷn ag olrhain gwastraff digidol

Os oes gennych gwestiwn am fodloni gofynion olrhain gwastraff digidol, cysylltwch â’ch rheoleiddiwr cenedlaethol:

Argraffu'r dudalen hon