Canllawiau

Rhoi gwybod bod gwastraff wedi dod i law

O fis Hydref 2026 ymlaen (Ionawr 2027 yn yr Alban), mae’n rhaid i bob sefydliad sydd â thrwydded neu hawlen i dderbyn gwastraff ddefnyddio'r gwasanaeth newydd, rhoi gwybod bod gwastraff wedi dod i law.

Pwy sy’n cael defnyddio’r gwasanaeth

Cewch ddefnyddio’r gwasanaeth yma os ydych chi:

  • yn sefydliad sy’n gweithredu o leiaf un safle sydd â thrwydded neu hawlen ac sy’n derbyn gwastraff
  • yn ymgynghorydd neu’n gynrychiolydd i sefydliad sy’n derbyn gwastraff

Mae awdurdodau lleol yn methu defnyddio’r gwasanaeth yma ar hyn o bryd. Peidiwch â chofrestru os ydych chi’n gweithio i awdurdod lleol neu’n cynrychioli awdurdod lleol.

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

Y tro cyntaf ichi ddefnyddio’r gwasanaeth, gofynnir ichi greu cyfrif Defra.

I greu cyfrif Defra bydd angen ichi naill ai:

  • mewngofnodi i gyfrif eich sefydliad ar Borth y Llywodraeth neu GOV.UK One Login
  • creu cyfrif Porth y Llywodraeth neu gyfrif GOV.UK One Login, os nad oes un gan eich sefydliad

Rydych chi’n gallu gwneud hyn o fewn y gwasanaeth.

Chewch chi ddim defnyddio cyfrif personol Porth y Llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth yma – defnyddiwch gyfrif eich sefydliad bob amser.

Ar ôl ichi greu’ch cyfrif Defra, byddwch chi’n defnyddio cyfrif eich sefydliad ar Borth y Llywodraeth neu ei gyfrif GOV.UK One Login bob tro y byddwch chi’n mewngofnodi i’r gwasanaeth.

Start now

Anfon eich data

Mae yna ddwy ffordd ichi roi gwybod bod gwastraff wedi dod i law:

  1. defnyddio rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API).
  2. llenwi ac uwchlwytho taenlen.

Does dim rhaid ichi ddewis un dull – rydych chi’n cael cyflwyno’ch data drwy ddefnyddio cyfuniad o’r API a’r daenlen.

Defnyddio rhyngwyneb rhaglennu rhaglenni (API)

Mae API yn caniatáu i wahanol systemau meddalwedd gysylltu â’i gilydd er mwyn cyfnewid data’n ddiogel.

Cysylltu’ch meddalwedd gwastraff â’r API

Os hoffech chi ddefnyddio’r API, rhaid i’ch sefydliad gael meddalwedd gwastraff benodol. Bydd angen i’ch darparwr meddalwedd ei chysylltu ag API Derbyn Gwastraff Defra.

Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio a chysylltu’r API yn y canllawiau i ddatblygwyr meddalwedd.

Derbyn eich cod API

Ar ôl ichi gofrestru’ch sefydliad, bydd cod API unigryw yn cael ei roi ichi. Rhowch y cod yma i’ch darparwr meddalwedd a fydd yn ei ddefnyddio ar gyfer eich symudiadau gwastraff.

Gallwch ddefnyddio’r un cod API i anfon symudiadau gwastraff ar gyfer pob safle y mae eich sefydliad yn ei weithredu.

Os oes gennych chi fwy nag un sefydliad ar eich cyfrif Defra, fe gewch chi god API unigryw ar gyfer pob un.

Taenlen

Os nad oes gennych chi’r feddalwedd angenrheidiol i ddefnyddio’r API, gallwch anfon eich data drwy ddefnyddio taenlen Derbyn Gwastraff Defra.

Chewch chi ddim defnyddio’ch taenlen eich hun na gwneud newidiadau i fformat fersiwn Defra.

Bydd angen ichi:

  1. lawrlwytho templed y daenlen.
  2. llenwi’r meysydd data gorfodol.
  3. uwchlwytho’r daenlen ar ôl ei llenwi.

Gallwch ychwanegu sawl symudiad i’r un daenlen – does dim angen ichi lawrlwytho taenlen newydd ar gyfer pob llwyth o wastraff sy’n dod i law.

Os yw’ch sefydliad yn gweithredu mwy nag un safle, gallwch ychwanegu’r symudiadau hynny at yr un daenlen hefyd.

Chewch chi ddim defnyddio’r un daenlen ar gyfer sawl sefydliad. Bydd angen ichi lawrlwytho taenlen ar wahân ar gyfer pob un.

Amserlen rhoi gwybod

Rhaid ichi roi gwybod am bob llwyth o wastraff sy’n dod i law. Mae gennych chi ddau ddiwrnod gwaith o’r diwrnod ar ôl i’r gwastraff ddod i law i gyflwyno’ch adroddiad.

Er enghraifft, os bydd y gwastraff yn dod i law am 9.00am ddydd Llun, rhaid ichi gyflwyno’ch adroddiad bod y gwastraff wedi dod i law erbyn 11:59pm ar y dydd Mercher.

Pa ddata i’w gyflwyno

I gael rhagor o wybodaeth am y data y mae’n rhaid ichi ei gyflwyno, edrychwch ar y rhestr o ofynion data.

Ychwanegu sefydliadau at eich cyfrif

Os ydych chi’n gweithredu mwy nag un sefydliad sy’n derbyn gwastraff (er enghraifft is-gwmni neu bartneriaeth), gallwch ychwanegu’r rhain at yr un cyfrif Defra.

Bydd angen ichi gofrestru pob sefydliad ar wahân cyn eu hychwanegu nhw at eich cyfrif. Bydd y tâl gwasanaeth blynyddol yn gymwys i bob sefydliad rydych chi’n ei ychwanegu.

Beth fydd y gost

Dyw’r tâl gwasanaeth blynyddol ddim yn ddyledus tan fis Hydref 2026. Bydd yn costio £26 y flwyddyn ar gyfer pob sefydliad ar eich cyfrif.

Mae’r ffi yn gymwys i nifer y sefydliadau. Nid yw’n gymwys i’r nifer o safleoedd derbyn gwastraff sydd gan y sefydliad.

Cael help

Cysylltwch â’r tîm cymorth os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth neu os ydych chi’n cael problemau wrth ei ddefnyddio.

Ffôn: 03000 203 781

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Gwybodaeth am y taliadau am alwadau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Ebrill 2026

Argraffu'r dudalen hon