Addasu’ch incwm busnes

Sut i wneud addasiadau ar ôl i chi gyflwyno eich diweddariad chwarterol terfynol.

Trwy gydol y flwyddyn, dylech fod wedi bod yn cywiro’ch cofnodion digidol i wneud yn siŵr eu bod yn gywir.

Ar ôl i chi anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol, bydd eich meddalwedd yn dangos eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, ar gyfer pob busnes sydd gennych.

Yna, mae’n bosibl y bydd angen i chi addasu’r data rydych wedi’i anfon, cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Gallai hyn gynnwys:

  • gwneud addasiadau treth, megis dileu treuliau na ellir eu caniatáu

  • gwneud addasiadau cyfrifyddu, megis addasu ar gyfer rhagdaliadau neu groniadau

  • addasu’ch incwm a’ch treuliau, os ydych yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu nad yw’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (er enghraifft, 1 Ebrill i 31 Mawrth)

  • hawlio rhyddhadau neu lwfansau, megis lwfansau cyfalaf, rhyddhad Rhentu Ystafell neu ddefnyddio’r lwfans incwm masnachu neu eiddo

Gwneud addasiadau

Byddwch yn gwneud y rhan fwyaf o addasiadau trwy newid y cyfanswm blynyddol ar gyfer categori treuliau. Gallai cyfanswm y categori gynrychioli un cofnod digidol neu lawer. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi addasu pob trafodyn unigol perthnasol.

Addasiadau treth

Byddwch yn gwneud addasiadau treth trwy addasu cyfanswm blynyddol eich treuliau.

Er enghraifft, os oes gennych un ffôn at ddefnydd busnes a phersonol, bydd angen i chi leihau cyfanswm y categori ar gyfer costau ffôn, ffacs, deunydd ysgrifennu a chostau swyddfa eraill, fel ei fod yn adlewyrchu’r swm rydych wedi’i ddefnyddio ar gyfer eich busnes yn unig.

Addasiadau cyfrifyddu

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, dylai’ch meddalwedd ganiatáu i chi addasu’r cyfansymiau blynyddol o’ch diweddariadau chwarterol i fynd i’r afael ag addasiadau cyfrifyddu, megis ar gyfer rhagdaliadau neu groniadau.

Enghraifft o addasiad ar gyfer rhagdaliad

Mae’n bosibl y byddwch yn talu £1,200 ym mis Ionawr am bolisi yswiriant 12 mis. Yn hytrach na chofnodi’r gost lawn ym mis Ionawr, gallwch ddewis lledaenu’r gost hon dros 12 mis, ar £100 y mis. Byddai hyn yn golygu bod un chwarter o’r gost yn disgyn i’r flwyddyn dreth gyntaf, a thri chwarter i’r nesaf.

I wneud hyn, byddech yn lleihau cyfanswm y categori ar gyfer Rhent, ardrethi, costau pŵer ac yswiriant ar gyfer y flwyddyn dreth gyntaf a’i gynyddu ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf, i adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei dalu ym mhob blwyddyn dreth.

Enghraifft o addasiad ar gyfer croniad

Rydych wedi cael gwasanaethau gan ymgynghorydd ym mis Mawrth 2025 ond nid ydych wedi cael eich anfonebu. Er mwyn adlewyrchu’r costau rydych wedi’u hwynebu, mae’n bosibl yr hoffech gofnodi croniad yn y flwyddyn dreth honno (2024 i 2025). Mae hyn yn golygu y bydd eich treuliau’n cael eu paru â’r un cyfnod.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth

Mae angen i chi wneud addasiad ar ddiwedd y flwyddyn dreth gyntaf yr ydych wedi dewis defnyddio cyfnodau diweddaru calendr. Mae hyn yn golygu bod eich incwm a’ch treuliau o 1 Ebrill i 5 Ebrill o ddechrau’r flwyddyn dreth honno wedi’u cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.

Er enghraifft, os byddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi addasu’ch cyfansymiau i gynnwys eich incwm a’ch treuliau o 1 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2025. I wneud hyn, dylech addasu’r cyfansymiau ar gyfer categorïau incwm a threuliau perthnasol i gwmpasu’r cyfnod hwn yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.

Ni fydd angen i chi wneud hyn ar gyfer blynyddoedd treth yn y dyfodol os ydych yn parhau i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Dysgwch ragor am reolau dyddiad cyfrifyddu hwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Hawlio rhyddhadau neu lwfansau

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhadau neu lwfansau a fydd yn lleihau’ch rhwymedigaeth Treth Incwm.

Lwfansau cyfalaf

Mae Lwfansau cyfalaf yn fath o ryddhad treth i fusnesau. Maent yn gadael i chi ddidynnu holl werth eitem, neu ran ohono, o’ch elw cyn i chi dalu treth.

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch meddalwedd i gofnodi’ch hawliad lwfans cyfalaf cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Mae’n bosibl y bydd eich meddalwedd yn gallu cofnodi’ch hawliad yn ystod y flwyddyn dreth, ond ni fydd CThEF yn prosesu’ch hawliad nes i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Rhyddhad Rhentu Ystafell

Mae’r Cynllun Rhentu Ystafell yn caniatáu i chi ennill hyd at drothwy o £7,500 y flwyddyn rhydd o dreth o osod llety wedi’i ddodrefnu yn eich cartref. Bydd y swm hwn yn cael ei haneru os ydych yn rhannu’r incwm â’ch partner neu rywun arall.

Gallwch hawlio rhyddhad rhentu ystafell naill ai:

  • yn ystod y flwyddyn dreth trwy’ch diweddariadau chwarterol

  • ar ôl diwedd y flwyddyn dreth trwy’ch diweddariad chwarterol terfynol

Os penderfynwch ar ddiwedd y flwyddyn dreth yr hoffech hawlio’ch treuliau yn hytrach na’r rhyddhad, bydd angen i chi wneud yr addasiad hwn yn eich diweddariad chwarterol olaf cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Lwfansau incwm masnachu neu eiddo

Yn ystod y flwyddyn dreth byddwch wedi creu cofnodion digidol o’ch holl incwm a threuliau o eiddo a hunangyflogaeth.

Os ydych am hawlio lwfansau rhydd o dreth ar eich incwm o eiddo ac incwm masnachu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch meddalwedd sy’n cydweddu i hawlio’r lwfans ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Bydd angen i chi hawlio’r lwfans cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Beth i’w wneud nesaf