Cael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm newydd ar ôl i chi gofrestru
Sut i gael mynediad at eich gwasanaeth newydd a’r hyn y gallwch ei wneud yn eich cyfrif ar-lein.
Unwaith i chi gofrestru, os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, gallwch gael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm newydd drwy eich cyfrif ar-lein CThEF presennol.
Mae angen i asiantau ddefnyddio’u cyfrif gwasanaethau asiant i gael mynediad at y gwasanaeth hwn ar ran cleientiaid sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF — bydd angen arnoch y manylion mewngofnodi rydych yn eu defnyddio ar gyfer Hunanasesiad.
Yna, dewiswch y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os na allwch gael mynediad at y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel gwasanaeth, gallwch ei ychwanegu â llaw:
-
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.
-
Dewiswch yr opsiwn ar gyfer ychwanegu treth at eich cyfrif er mwyn cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun.
-
Dewiswch yr opsiwn ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Atebwch y cwestiynau diogelwch.
Unwaith i chi gael eich awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient mewn perthynas â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, ac mae’ch cleient wedi’i gofrestru, gallwch gael mynediad at ei fanylion drwy’ch cyfrif gwasanaethau asiant.
Bydd yr hyn y gallwch ei wneud ar ran eich cleient hefyd yn dibynnu ar p’un a ydych yn brif asiant neu’n asiant cynorthwyol.
Gallwch gael mynediad at wybodaeth am eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF. Gallwch ei ddefnyddio er mwyn gwneud y canlynol:
-
bwrw golwg dros amcangyfrif o’ch bil treth
-
gwirio dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno diweddariadau chwarterol a Ffurflenni Treth
-
bwrw golwg dros yr hyn sydd angen i chi roi gwybod amdano ar gyfer pob blwyddyn dreth (eich ymrwymiadau o ran adrodd)
-
gwirio’r hyn sydd arnoch a gwneud taliad
-
bwrw golwg dros eich manylion unig fasnachwr a manylion busnes eiddo
-
ychwanegu unig fasnachwr neu fusnes eiddo newydd (yn y DU neu dramor)
-
rhoi gwybod i ni pryd mae ffynhonnell incwm yn stopio (yn dod i ben)
-
addasu taliad ar gyfrif
-
bwrw golwg dros, ac apelio yn erbyn, pwyntiau cosb a chosbau
-
optio allan os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol
-
cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os gwnaethoch gofrestru’n flaenorol ac wedyn optio allan
Yn y dyfodol, byddwch yn gallu cael mynediad at fwy o wasanaethau yn eich cyfrif. Os bydd angen i chi wneud rhywbeth sydd heb ei restru yma, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Nawr, mae angen i chi neu’ch cleient ddechrau creu cofnodion digidol o incwm a threuliau er mwyn cyflwyno diweddariadau chwarterol.