Canllawiau

Gwneud eich taliadau Hunanasesiad, gan gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Gwiriwch sut i dalu’ch taliadau Hunanasesiad, gan gynnwys eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

This guidance was withdrawn on

You could defer your July 2020 Self Assessment payment on account until 31 January 2021. If you need more time to pay, you can find out what to do if you cannot pay your tax bill on time.

Fel un o fesurau cymorth y llywodraeth yn sgil coronafeirws (COVID-19), cafodd trethdalwyr Hunanasesiad yr opsiwn o ohirio’u taliad ar gyfrif ar gyfer mis Gorffennaf 2020 tan 31 Ionawr 2021.

Os gwnaethoch ohirio’r taliad hwn, efallai y gofynnwyd i chi wneud y 3 thaliad canlynol ar 31 Ionawr 2021:

  • eich taliad ar gyfrif gohiriedig ar gyfer mis Gorffennaf 2020 (os yw’n dal i fod heb ei dalu)
  • unrhyw gost mantoli ar gyfer 2019 i 2020
  • eich taliad ar gyfrif cyntaf ar gyfer 2020 i 2021

Os cawsoch drafferth talu’r 3 thaliad i gyd ar yr un pryd, efallai y byddwch wedi dewis sefydlu trefniant Amser i Dalu fesul rhandaliad gyda CThEM.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy drefniant Amser i Dalu

Os ydych yn hunangyflogedig a’ch bod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, fel arfer byddwch yn talu’r rhain fel rhan o’ch taliad mantoli blynyddol.

Os ydych yn talu’r 3 thaliad a nodir uchod drwy drefniant Amser i Dalu, caiff eich taliad ar gyfrif gohiriedig ar gyfer mis Gorffennaf ei glirio gyntaf, gan mai hwn sydd â’r dyddiad dyledus hynaf. Mae hyn er mwyn lleihau’r llog a godir arnoch.

Gallai hyn olygu y caiff eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfer 2019 i 2020 eu talu ar ôl eu dyddiad dyledus sef 31 Ionawr 2021. Mae talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar ôl y dyddiad hwnnw yn gallu effeithio’n andwyol ar rai budd-daliadau cyfraniadol a hawlir.

Os bydd hyn yn effeithio arnoch, cysylltwch â CThEM cyn gynted â phosibl i gael help. Efallai y bydd modd i ni ddyrannu arian yr ydych eisoes wedi’i dalu mewn perthynas â’ch rhwymedigaethau Hunanasesiad ar gyfer 2019 i 2020 yn erbyn y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 sydd arnoch. Efallai y codir swm bach o log arnoch os byddwn yn gwneud hyn, ond dylai’ch hawliad am fudd-dal cyfraniadol gael ei ddiogelu.

Talu fesul rhandaliad

Gallwch dalu’ch treth fesul rhandaliad os nad oeddech yn gallu talu’n llawn erbyn 31 Ionawr 2021. Os nad ydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2019 i 2020, bydd angen i chi ei chyflwyno cyn gynted â phosibl. Byddwn wedyn yn gwybod pa daliadau sydd arnoch, a byddwch yn gallu sefydlu trefniant Amser i Dalu fesul rhandaliad gyda ni.

Os oes arnoch hyd at £30,000, gallwch wneud hyn ar-lein hyd at 60 diwrnod ar ôl 31 Ionawr, heb orfod cysylltu â ni’n uniongyrchol.

Pan fyddwch wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, bydd angen i chi aros o leiaf 72 awr cyn y byddwch yn gallu sefydlu’ch trefniant Amser i Dalu ar-lein.

Codir cosbau am dalu’n hwyr pan fydd treth yn parhau i fod heb ei thalu 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis ar ôl dyddiadau dyledus y taliadau. Gallwch osgoi’r cosbau os gwnewch drefniant Amser i Dalu cyn i’r taliadau ddod yn ddyledus ac ar yr amod eich bod yn talu’r holl dreth sy’n ddyledus o dan y trefniant hwnnw mewn pryd.

Ar gyfer taliadau Hunanasesiad a oedd yn ddyledus ar 31 Ionawr 2021, byddwch yn osgoi’r gosb gyntaf am dalu’n hwyr os byddwch yn sefydlu trefniant Amser i Dalu erbyn 2 Mawrth 2021. Gallwch osgoi cosb 6 mis a chosb 12 mis drwy dalu’r holl dreth sydd arnoch o dan y trefniant hwnnw mewn pryd.

Mae llog yn daladwy ar randaliadau Amser i Dalu, felly dylech wirio’r cyfraddau llog ar gyfer taliadau hwyr a chynnar.

Rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad.

Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Os ydych fel arfer yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol ond gwnaethoch ddewis gohirio’ch taliad ar gyfrif ar gyfer mis Gorffennaf 2020, dylech fod wedi canslo’ch Debyd Uniongyrchol drwy’ch banc fel na fyddem wedi casglu’n awtomatig unrhyw daliad a oedd yn ddyledus.

Gallwch adfer y Debyd Uniongyrchol hwnnw os ydych am ailddechrau gwneud taliadau ar gyfrif drwy’r dull hwn yn y dyfodol.

Talu drwy’ch cod treth

Gallwch dalu’ch bil treth Hunanasesiad drwy’ch cod treth TWE, ar yr amod bod y canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae arnoch lai na £3,000 ar eich bil treth
  • rydych eisoes yn talu treth drwy TWE, er enghraifft, rydych yn gyflogai neu’n cael pensiwn cwmni
  • gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar bapur erbyn 31 Hydref, neu’ch Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr

Wedyn, bydd y swm sy’n ddyledus yn cael ei gasglu dros gyfnod o 12 mis yn lle bod angen i chi dalu’r cyfan ar unwaith.

Sut i gael help

Os na allwch dalu’ch rhwymedigaethau Hunanasesiad yn llawn

Dylech gysylltu â CThEM cyn gynted ag y gallwch os na allwch dalu’ch treth Hunanasesiad. Rydym yn benderfynol o helpu’n cwsmeriaid gymaint â phosibl. Gallai’r help hwnnw olygu sefydlu trefniant Amser i Dalu fesul rhandaliad gyda chi.

Os ydych eisoes wedi sefydlu trefniant Amser i Dalu a’ch bod yn ei chael hi’n anodd talu’r rhandaliadau y cytunwyd arnynt, cysylltwch â CThEM.

Gostwng eich taliadau ar gyfrif ar gyfer 2020 i 2021

Mae’ch taliadau ar gyfrif yn seiliedig ar eich bil treth o’r flwyddyn flaenorol. Os yw coronafeirws wedi effeithio ar eich sefyllfa ariannol, mae’n bosibl y bydd gennych rwymedigaeth treth is ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021. Efallai y byddwch am ofyn i CThEM ostwng eich taliadau ar gyfrif ar gyfer 2020 i 2021.

Rhagor o wybodaeth am daliadau ar gyfrif.

Cael help ar-lein

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws.

Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM i gael help a chyngor.

Cyhoeddwyd ar 15 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 March 2021 + show all updates
  1. The pay in instalments section has been updated to show you can set up a Time to Pay arrangement online for amounts up to £30,000 up to 60 days after 31 January 2021 without having to contact us.

  2. Information about payment of Class 2 National insurance contributions through a Time to Pay arrangement has been added and the Pay in instalments section has been updated.

  3. Added translation

  4. We have updated the guidance on what you need to do after 31 July 2020 if you chose to defer your second payment on account for the 2019 to 2020 tax year.

  5. More information about the July 2020 payment on account deferment has been added.

  6. First published.