Canllawiau

Newidiadau i’r Band Treth Gyngor

Yr amgylchiadau pan allai’ch band Treth Gyngor newid, gan gynnwys newidiadau ac eiddo tebyg yn yr ardal sy’n cael ei hailfandio.

Caiff bandiau Treth Gyngor eu gosod yn ôl y gwerth y byddai’r eiddo wedi’i werthu amdano ar 1 Ebrill 2003 yng Nghymru ac ar 1 Ebrill 1991 yn Lloegr.

Newidiadau i’ch eiddo

Gellir symud eich eiddo i fand uwch neu is oherwydd bod ei faint neu strwythur mewnol wedi’i newid. Efallai bod eich eiddo:

  • wedi cynyddu mewn maint
  • wedi lleihau mewn maint, fel ei ddymchwel yn rhannol
  • wedi newid mewn ffordd arall, er enghraifft ei rannu’n fflatiau neu unedau hunangynhaliol llai, neu ei droi’n un eiddo

Gall eiddo sydd wedi cynyddu o ran maint symud i fand uwch pan gaiff ei brynu nesaf.

Ailfandio eiddo tebyg yn yr ardal

Efallai y bydd eich band eiddo hefyd yn newid yn dilyn ailfandio un neu fwy eiddo o faint, math a ffordd adeiladu tebyg yn ardal eich eiddo.

Hefyd, efallai y cewch wybod gan eich cyfreithiwr bod band Treth Gyngor eiddo yr ydych yn ei brynu yn debygol o newid.

Mae newid yn eich band Treth Gyngor yn golygu y bydd swm y Dreth Gyngor a dalwch i’ch awdurdod lleol hefyd yn newid.

Pryd mae’r band yn newid heb werthiant

Gall y band newid heb werthiant mewn rhai sefyllfaoedd. Er enghraifft, ar greu randy hunangynhwysol. Efallai na fydd gwerthiant yn golygu newid mewn meddiannydd, er enghraifft pan fo gan eiddo brydles hir a chaiff rhent tir ei brynu.

Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gynnydd o’r dyddiad y caiff y Dreth Gyngor ei newid.

Beth i’w wneud os yw’ch band eiddo yn newid

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn anfon llythyr atoch os yw’ch band Treth Gyngor yn newid. Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth.

Mae’ch awdurdod lleol yn delio â biliau Treth Gyngor.

Gallwch apelio yn erbyn eich band Treth Gyngor cyn pen 6 mis o Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhoi gwybod i chi am y newid.

Cyhoeddwyd ar 22 January 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 January 2020 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.