Skip to main content
Canllawiau

Cysylltwch â'r CMA

Dywedwch wrth y CMA am broblemau gyda busnes, marchnad, neu i ddarparu gwybodaeth am achos newydd neu achos sy'n bodoli eisoes.

Ni all y CMA ymyrryd na chynghori ar gwynion unigol.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddweud wrth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) am broblemau gyda busnes, marchnad, neu i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth am achos newydd neu achos sy’n bodoli eisoes.

Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych chi’n chwilio am gyngor a chymorth ar unwaith. Cysylltwch â’r sefydliad cyngor defnyddwyr perthnasol yn eich ardal (yn agor mewn tab newydd). (in English)

Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych chi’n gwneud adroddiad chwythwr chwiban. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth chwythwr chwiban yn lle hynny. (in English)

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Gofynnir i chi ddarparu:

  • disgrifiad o’r mater, gan gynnwys ei effaith
  • unrhyw dystiolaeth ategol sydd gennych
  • manylion amdanoch chi’ch hun ac, os yw’n berthnasol, eich sefydliad

Bydd y wybodaeth a rennir gennych gyda ni yn cael ei defnyddio gan y CMA a sefydliadau eraill, i fonitro ac o bosibl i gymryd camau i atal ymddygiad busnes annheg.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Fel rhan o’ch adroddiad, gallwch ddewis darparu manylion cyswllt i’r CMA.

Os byddwch yn darparu’r manylion hyn, bydd y CMA yn prosesu eich data personol. ‘Data personol’ yw gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn y gellir ei adnabod ohono.

Rydym yn cymryd pob adroddiad o ddifrif. Os ydych chi am wneud eich adroddiad yn ddienw, bydd yn cael ei drin yn unol â’n siarter gwybodaeth bersonol (yn agor mewn tab newydd) (a elwir hefyd yn hysbysiad preifatrwydd) (in English).

Dechreuwch nawr (in English)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Mawrth 2023

Argraffu'r dudalen hon