Canllawiau

Cadarnhau cyfrifoldebau treth ymgeisydd ar gyfer ceisiadau am drwydded tacsi, hurio preifat neu fetel sgrap

Rhaid i awdurdodau trwyddedu gael cadarnhad gan ymgeisydd ei fod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau treth ar geisiadau cyntaf am drwyddedau gyrrwr tacsi, trwyddedau hurio preifat a thrwyddedau metel sgrap.

Rhaid i awdurdodau trwyddedu ymgymryd â gwiriadau ychwanegol os yw unigolyn, cwmni neu unrhyw fath o bartneriaeth yn gwneud cais am drwydded:

  • am y tro cyntaf
  • sydd yr un fath â’r un sydd ganddynt yn barod ond nad yw wedi bod yn ddilys am flwyddyn neu fwy

Mae’n bosibl y bydd angen i ymgeiswyr gwblhau gwiriad treth os ydynt yn gwneud cais am un o’r trwyddedi canlynol:

  • gyrrwr tacsi
  • gyrrwr hurio preifat
  • gweithredwr cerbyd hurio preifat (Cymru a Lloegr yn unig)
  • swyddfa archebu (yr Alban yn unig)
  • casglwr metel sgrap symudol (teithiol)
  • safle deliwr metel sgrap

Newidiodd y rheolau ar gyfer cwblhau gwiriad treth ar 4 Ebrill 2022 yng Nghymru a Lloegr, a bydd y rheolau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yn newid ar 2 Hydref 2023.

Darllenwch yr arweiniad ar gyfer cadarnhau gwiriad treth os yw’r ymgeisydd:

  • eisoes yn dal yr un math o drwydded ac mae’n dal i fod yn ddilys
  • yn dal yr un math o drwydded a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn ôl

Yr hyn y dylai ymgeisydd darparu

Rhaid i bobl sy’n gwneud cais am y tro cyntaf gadarnhau eu bod yn ymwybodol o’r canllawiau sy’n ymwneud â’u rhwymedigaethau treth.

Os yw’r ymgeisydd yn bartner mewn partneriaeth, gall roi cadarnhad ar ran pob un o’r partneriaid eraill.

Os nad yw’r cadarnhad wedi’i gynnwys gyda’r cais, rhaid i chi ofyn amdano ac ni allwch gymeradwyo na gwrthod hebddo.

Yr hyn i ddweud wrth ymgeisydd

Mae’n rhaid i chi wneud yr ymgeisydd yn ymwybodol bod gan CThEF bwerau i gael gwybodaeth gan awdurdodau trwyddedu. Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio’r geiriad canlynol:

‘Mae Atodlen 23 i Ddeddf Cyllid 2011 (Pwerau Casglu Data) ac Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2008 (Pwerau Gwybodaeth ac Arolygu) yn rhoi pwerau i CThEF gael gwybodaeth berthnasol gan drydydd parti. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i gyrff trwyddedu roi gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr am drwyddedau.’

Mae’n rhaid i chi hefyd roi’r cyfeiriadau gwefan GOV.UK canlynol ar gyfer arweiniad CThEF ynghylch rhwymedigaethau cofrestru ar gyfer treth i ymgeiswyr nad oes angen iddynt gwblhau gwiriad treth:

Yr hyn y mae angen i chi ei gofnodi

Rhaid i chi gadw cofnod o’r adeg y cawsoch gadarnhad gan yr ymgeisydd. Efallai y byddwch am ei gadw am yr un cyfnod o amser ag y byddwch yn cadw’r cais am drwydded.

Bydd yn rhaid i chi gofnodi bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau ei fod yn ymwybodol o’r arweiniad. Gallwch wneud hyn drwy ychwanegu datganiad at y ffurflen gais.

Rydym yn awgrymu’r geiriad canlynol ar gyfer ceisiadau unigol:

‘Rwy’n cadarnhau fy mod yn ymwybodol o gynnwys arweiniad CThEF sy’n ymwneud â’m rhwymedigaethau o ran cofrestru ar gyfer treth.’

Rydym yn awgrymu’r geiriad canlynol os yw’r ymgeisydd yn bartner mewn partneriaeth ac yn rhoi cadarnhad ar ran pob un o’r partneriaid eraill:

‘Rwy’n cadarnhau fy mod yn ymwybodol o gynnwys arweiniad CThEF sy’n ymwneud ein rhwymedigaethau o ran cofrestru ar gyfer treth.’

Cyhoeddwyd ar 10 January 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 September 2023 + show all updates
  1. Information about private hire vehicle operators has been updated.

  2. Guidance has been updated as rules that currently apply in England and Wales will also apply in Scotland and Northern Ireland from 2 October 2023.

  3. You must make the applicant aware that HMRC can get information from licensing authorities and, if the applicant does not need to complete a tax check, you must make them aware of GOV.UK guidance to help them understand their tax responsibilities.

  4. Added translation