Canllawiau

Cadarnhau gwiriad treth ar gyfer ceisiadau am drwydded tacsi, trwydded hurio preifat neu drwydded fetel sgrap

Rhaid i awdurdodau trwyddedu gadarnhau bod archwiliad treth wedi’i gwblhau gan ymgeiswyr sy’n adnewyddu trwyddedau gyrrwr tacsi, trwyddedau hurio preifat a thrwyddedau metel sgrap, neu eu bod yn gwneud cais am drwydded sydd yn nwylo awdurdod arall.

Mae’n bosibl y bydd angen i ymgeiswyr gwblhau gwiriad treth os ydynt yn gwneud cais am un o’r trwyddedi canlynol:

  • gyrrwr tacsi
  • gyrrwr hurio preifat
  • gweithredwr cerbyd hurio preifat (Cymru a Lloegr yn unig)
  • swyddfa archebu (yr Alban yn unig)
  • casglwr metel sgrap symudol (teithiol)
  • safle deliwr metel sgrap

Newidiodd y rheolau i ymgeiswyr ar gyfer cwblhau gwiriad treth ar 4 Ebrill 2022 yng Nghymru a Lloegr, a bydd y rheolau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yn newid ar 2 Hydref 2023.

Pan rhaid i awdurdod trwyddedu

Rhaid i unigolion, cwmnïau ac unrhyw fath o bartneriaeth gwblhau gwiriad treth CThEF a rhoi cod gwirio treth i’w hawdurdod trwyddedu os ydynt yn gwneud y canlynol:

  • adnewyddu trwydded
  • gwneud cais am yr un math o drwydded a oedd ganddynt yn flaenorol, a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn ôl
  • gwneud cais am yr un math o drwydded sydd ganddynt eisoes drwy law awdurdod trwyddedu arall

Yna mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cod gwirio treth i gadarnhau bod y gwiriad treth wedi’i wneud cyn y gallwch gymeradwyo neu wrthod eu cais.

Dilynwch yr arweiniad ar gyfer cadarnhau cyfrifoldebau treth ymgeisydd os yw’r ymgeisydd:

  • heb ddal yr un math o drwydded
  • wedi cael yr un math o drwydded a ddaeth i ben flwyddyn neu fwy cyn gwneud y cais

Ceisiadau gan bartneriaethau

Os daw cais gan bartneriaeth, mae’n rhaid i chi gael cadarnhad gan CThEF bod pob partner yn y cais wedi cwblhau gwiriad treth.

Er enghraifft:

  • os yw un partner wedi gwneud y cais ar ran y bartneriaeth, mae’n rhaid i chi gael cadarnhad bod y partner dan sylw wedi cwblhau gwiriad treth
  • os yw mwy nag un partner yn gwneud cais y bartneriaeth, mae’n rhaid i chi gael cadarnhad ar wahân bod pob un o’r partneriaid wedi cwblhau gwiriad treth

Os yw rhai o’r partneriaid wedi cwblhau gwiriadau treth ac eraill heb wneud hynny (er enghraifft, os yw 3 phartner wedi’u henwi ac wedi llofnodi’r cais ond dim ond 2 sydd wedi cwblhau gwiriadau treth), bydd angen i chi gael cadarnhad bod pob un ohonynt wedi cwblhau gwiriad treth.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi wybod y canlynol am yr ymgeisydd:

  • cod gwirio treth a gyhoeddwyd yn ystod y 120 diwrnod diwethaf
  • y math o drwydded

Rhaid i chi ofyn i’r ymgeisydd roi cod gwirio treth arall i chi os yw’r cod wedi’i gyhoeddi dros 120 diwrnod yn ôl.

Mae’n rhaid i chi hefyd gael un o’r canlynol:

  • dyddiad geni’r unigolyn
  • Rhif Cofrestru’r Cwmni, a gyhoeddwyd gan Dŷ’r Cwmnïau

Cadarnhau gwiriad treth ymgeisydd

Cadarnhau (yn Saesneg)

Os na allwch gael at y gwasanaeth ar-lein

Os nad yw’r gwasanaeth ar gael am 5 diwrnod neu fwy o’r dyddiad y gwnaethoch geisio ei ddefnyddio am y tro cyntaf, nid oes angen i chi gael cadarnhad gan CThEF a gallwch barhau i ddelio â’r cais.

Os nad oes gennych god gwirio treth

Mae’n rhaid i chi ofyn i’r ymgeisydd am god gwirio treth os nad yw wedi ei gynnwys gyda’r cais.

Mae’n bosibl y bydd yr ymgeisydd yn rhoi gwybod i chi nad oes ganddo god gwirio treth oherwydd nad oedd y gwasanaeth ar-lein ar gael. Os digwyddir hyn:

  • rhaid i chi ofyn iddo roi cynnig arall arni i gwblhau gwiriad treth am 5 diwrnod yn olynol
  • ar ôl rhoi cynnig arni am 5 diwrnod yn olynol, rhaid i chi wirio nad oedd y gwasanaeth ar gael (yn Saesneg) ar y diwrnodau hyn

Wrth wirio argaeledd y gwasanaeth dewiswch yr opsiwn i ddangos yr holl ddiweddariad er mwyn bwrw golwg dros fanylion problemau blaenorol.

Os ydych yn gallu cadarnhau nad oedd y gwasanaeth ar gael, yna nid yw gwiriad treth yn berthnasol mwyach a gallwch fynd yn eich blaen i ddelio â’r cais.

Os yw’ch gwiriadau’n dangos bod y gwasanaeth ar gael, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r ymgeisydd a gofyn am god gwirio treth.

Estyniad i drwydded a dyddiad dod i ben wrth aros am benderfyniad cais am drwydded

Efallai y bydd eich trwydded bresennol yn cael ei hymestyn nes bydd penderfyniad terfynol wedi’i wneud o ran cymeradwyo eich cais am drwydded (gan gynnwys penderfyniad ar apêl) os ydych yn adnewyddu un o’r canlynol:

  • trwydded deliwr metel sgrap a roddwyd yng Nghymru neu yn Lloegr
  • trwydded gyrrwr Cerbyd Hacnai Llundain
  • trwyddedau a roddwyd yn yr Alban

Os nad yw’r ymgeisydd yn rhoi cod gwirio treth dilys i chi, bydd ei drwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o’r dyddiadau canlynol yw’r hwyraf:

  • 28 diwrnod ar ôl i chi ofyn am ei god gwirio treth
  • y dyddiad y daw ei drwydded i ben

Ar gyfer trwyddedau dros dro yn yr Alban, bydd eich trwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o’r dyddiadau canlynol yw’r hwyraf:

  • 7 diwrnod ar ôl i chi ofyn am ei god gwirio treth
  • y dyddiad y daw ei drwydded i ben
Cyhoeddwyd ar 10 January 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 September 2023 + show all updates
  1. Information about private hire vehicle operators has been updated.

  2. Made clear that an existing licence may be extended until a final decision to grant your licence application has been made (including a decision on appeal) if you are renewing licences issued in Scotland.

  3. Guidance has been updated as rules that currently apply in England and Wales will also apply in Scotland and Northern Ireland from 2 October 2023.

  4. A link to the online service to confirm an applicant's tax check has been added along with information about what you should do if you do not have a tax check code or cannot access this online service.

  5. Added translation