Skip to main content
Canllawiau

Ffurflen Dreth y Cwmni

Dysgwch am wneud Ffurflen Dreth y Cwmni, beth sydd angen i chi ei chynnwys a phwy sydd angen cyflwyno ffurflen.

Beth yw Ffurflen Dreth y Cwmni

Mae Ffurflen Dreth y Cwmni yn cynnwys:

  • y ffurflen CT600

  • unrhyw dudalennau atodol

  • cyfrifon y cwmni a chyfrifiadau treth

Mae’r Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM93090: cyflwyno Ffurflen Dreth: cynnwys (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn i’w gynnwys mewn Ffurflen Dreth y Cwmni.

Pwy sydd angen cyflwyno Ffurflen Dreth

Os bydd CThEF yn rhoi hysbysiad i chi gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni, yna mae gennych rwymedigaeth gyfreithiol i gyflwyno ffurflen. At y diben hwn, mae cwmni’n cynnwys:

  • clybiau aelodau

  • cymdeithasau

  • cymdeithasau a chyrff anghorfforedig eraill

Mae’r Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM40000: cyrff penodol (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn gwmni at ddibenion Treth Gorfforaeth.

Cyfnod cyfrifyddu Treth Gorfforaeth

Mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar gyfer cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n gyfystyr â’r cyfnod a nodir yn eich hysbysiad i gyflwyno ffurflen (neu sy’n dod i ben ynddo). Darllenwch Gyfnodau cyfrifyddu ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.

Os yw cyfnod cyfrifyddu’r cwmni yn wahanol i hyn, mae Llawlyfr Trethu Cwmnïau CTM93020: cyfnodau penodedig a chyfnodau dychwelyd (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio’r cyfnod neu’r cyfnodau y mae’n rhaid i chi wneud eich datganiad ar eu cyfer.

Pryd i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni

Y dyddiad cau ar gyfer eich datganiad yw 12 mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n ei gwmpasu. Mae’r Llawlyfr Trethu Cwmnïau CTM93030: dyddiad cyflwyno: diffiniad (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi arweiniad manwl ar derfynau amser cyflwyno datganiadau.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, bydd yn rhaid i chi dalu cosb am gyflwyno’n hwyr. Darllenwch y gosbau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.

Datganiad y Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid person sy’n gwneud y datganiad gynnwys datganiad ei fod yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred. Os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • mae’n rhaid i’r person sy’n gwneud y datganiad gynnwys datganiad ei fod yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred

  • os yw asiant treth yn llenwi ac yn cyflwyno’r datganiad ar ran y cwmni, mae’n rhaid i’r datganiad gael ei gwblhau gan yr asiant hwnnw

  • os yw asiant treth yn llenwi ac yn cyflwyno’r datganiad ar ran y cwmni, mae’n rhaid i’r datganiad gael ei gwblhau gan yr asiant hwnnw

Cyn i asiant gyflwyno’r datganiad, mae’n rhaid iddo:

  • wneud copi o’r wybodaeth

  • gael cadarnhad gan y swyddog priodol neu berson arall sydd wedi’i awdurdodi i weithredu ar ran y cwmni fod yr wybodaeth yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth a chred y person hwnnw

Gall darparu gwybodaeth ffug neu guddio unrhyw ran o elw’r cwmni neu’r dreth sy’n daladwy arwain at erlyniad yn eich erbyn chi a’r cwmni.

Gallwch hefyd gael eich codi cosb os yw’ch datganiad yn anghywir. Darllenwch y gosbau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.

Cyflwyno’ch datganiad i CThEF

Mae’n rhaid cyflwyno datganiadau cwmnïau yn electronig ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu sy’n dod i ben ar ôl 31 Mawrth 2010. Mae’n rhaid i gwmni neu asiant gofrestru gyda CThEF cyn gallant gyflwyno datganiad. Darllenwch Cofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth.

Fformat

Mae’n rhaid i’r cyfrifiannau a’r cyfrifon fod yn Inline eXtensible Business Reporting Language (iXBRL).

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd perchnogol trydydd parti, darganfyddwch ragor am cyflenwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Eithriadau rhag cyflwyno ar-lein

Y Llawlyfr Trethu Cwmnïau COM60040: cyflwyno CT ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio pwy sydd wedi’i eithrio rhag cyflwyno ar-lein. Yn yr achosion hyn, gallwch lawrlwytho ac argraffu copi o’r ffurflen Ffurflen Dreth y Cwmni CT600.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Pan fyddwch yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth ar-lein i CThEF byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ei bod wedi’i derbyn. Nid yw’r cadarnhad yn golygu bod CThEF wedi cytuno ar y ffigurau a ddarparwyd yn y datganiad. Gall CThEF ddiwygio’r datganiad i gywiro gwallau neu hesgoriadau amlwg neu unrhyw beth arall y mae ganddynt reswm dros gredu ei fod yn anghywir. Gall CThEF hefyd gynnal ymholiad i’r datganiad.

Sut i ddiwygio Ffurflen Dreth y Cwmni ar ôl ei chyflwyno

Os byddwch yn darganfod gwall ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad, rhowch wybod i CThEF ar unwaith, fel arall efallai y codir cosb arnoch. Darllenwch y gosbau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.

Fel arfer, mae’n rhaid i chi wneud newidiadau i’ch datganiad o fewn 12 mis i’r dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno. Darllenwch Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) am rhagor o wybodaeth.

Talu Treth Gorfforaeth

Mae’n rhaid i chi dalu eich Treth Gorfforaeth ac unrhyw symiau cysylltiedig yn electronig, gallwch wneud hyn gan ddefnyddio gwasanaeth Talu’ch bil Treth Gorfforaeth CThEF.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer talu’ch bil Treth Gorfforaeth yn dod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni. Fel arfer, dylid ei dalu 9 mis ac 1 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mehefin 2026 Show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. The 'Format' section has been updated, following the closure of the HMRC online filing service on 31 March 2026.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon