Canllawiau

Hawlio arian yn ôl drwy’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Cael gwybod sut i hawlio’r ad-daliad ar gyfer gostyngiadau a roddir i bobl sy’n bwyta gyda’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.

This guidance was withdrawn on

The Eat Out to Help Out service closed on 30 September 2020. You can contact HMRC if you want to talk about your claim.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, dysgwch sut i gofrestru ar gyfer y cynllun.

Pwy all hawlio

Os ydych wedi cofrestru’ch sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan ac wedi cynnig gostyngiadau’r cynllun i bobl sy’n bwyta ar y safle o ddydd Llun i ddydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst, gallwch:

  • hawlio’n ôl y gostyngiad a roddir ar fwyd a diodydd di-alcohol

  • cyflwyno hawliadau wythnosol ar gyfer mis Awst hyd at 30 Medi

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad eich hun. Ni allwch ofyn i asiant ei wneud ar eich rhan.

Mae’n rhaid i chi nodi manylion cywir ar gyfer pob sefydliad yr ydych yn hawlio ar ei gyfer cyn i chi gyflwyno’ch hawliad. Gall eich taliad gael ei oedi os bydd angen i chi addasu gwybodaeth yn hwyrach.

Pryd y gallwch hawlio

Gallwch gyflwyno hawliad ar ôl 7 diwrnod o ddyddiad eich cofrestriad. Gallwch ond hawlio am ostyngiadau’r cynllun y gwnaethoch eu cynnig ar neu ar ôl y dyddiad y gwnaethoch gofrestru. 

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd arnoch angen y cofnodion rydych wedi’u cadw ar gyfer pob diwrnod yr ydych wedi defnyddio’r cynllun, gan gynnwys:

  • cyfanswm y bobl sydd wedi bwyta drwy ddefnyddio’r cynllun, gan gynnwys plant

  • cyfanswm y gostyngiad a roddwyd gennych

  • y cyfnod rydych yn hawlio ar ei gyfer

Os ydych yn cyflwyno hawliad ar gyfer mwy nag un sefydliad, bydd angen i chi gael:

  • cofnodion ar gyfer pob sefydliad

  • cyfanswm yr hawliad ar gyfer pob sefydliad yn barod cyn i chi hawlio

Sut i hawlio

Mae’n rhaid i chi nodi manylion cywir ar gyfer pob sefydliad yr ydych yn hawlio ar ei gyfer a gwirio’ch hawliad yn ofalus cyn cyflwyno.

Os byddwch yn hawlio gormod, ni fyddwn yn gallu cywiro hyn tan 14 Awst.

Os byddwch yn hawlio rhy ychydig, ni fyddwn yn gallu cywiro hyn tan 21 Awst.

Hawlio nawr

Gallwch gyflwyno hyd at 5 hawliad cyn 30 Medi. Ni allwch hawlio ar ôl hynny.

Wrth fewngofnodi i’r gwasanaeth, mae’n rhaid i chi ddewis y cyfnodau yr ydych yn hawlio ar eu cyfer, o:

  • 3 i 5 Awst
  • 10 i 12 Awst
  • 17 i 19 Awst
  • 24 i 26 Awst
  • 31 Awst

Bydd angen i chi hefyd nodi cyfanswm y bobl sydd wedi bwyta ar y safle a hawlio gwerth ar gyfer pob sefydliad sydd wedi cynnig gostyngiad y cynllun.

Gallwch ddarllen enghreifftiau o sut i gyfrifo cyfanswm y gostyngiadau.

I ddangos y cysylltiad rhwng nifer y bobl a gafodd y gostyngiad a chyfanswm gwerth gostyngiad y cynllun sy’n cael ei hawlio ym mhob cyfnod hawlio, ar gyfer pob diwrnod, y cyfan sy’n rhaid i chi ei gadw yw cofnod o’r canlynol:

  • cyfanswm y bobl sydd wedi bwyta yn eich sefydliad gan ddefnyddio gostyngiad y cynllun

  • cyfanswm gwerth yr holl fwyd a diodydd di-alcohol a werthwyd i’w bwyta ac yfed ar y safle lle rhoddwyd gostyngiadau’r cynllun

  • cyfanswm gwerth gostyngiadau’r cynllun yr ydych wedi’u rhoi ac wedi hawlio ar eu cyfer

Os ydych yn defnyddio’r cynllun ar gyfer mwy nag un sefydliad, mae’n rhaid i chi gadw’r cofnodion hyn ar gyfer pob un.

Mae’n bosibl y bydd CThEM yn gofyn am eich cofnodion sy’n ymwneud â’r cynllun. Dylech gadw cofnodion:

  • mewn fformat sy’n addas ar gyfer eich busnes

  • gyda’ch cofnodion busnes eraill

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Ar ôl i chi hawlio, cewch gyfeirnod hawlio. Wedyn, byddwn yn gwirio bod eich hawliad yn gywir, ac yn talu swm yr hawliad drwy Bacs i’r cyfrif banc a roddwyd gennych pan wnaethoch gofrestru, cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Talu treth

Bydd angen i chi dalu TAW o hyd, yn seiliedig ar swm llawn biliau’ch cwsmeriaid cyn i ostyngiad y cynllun gael ei roi. Mae angen i’r swm hwn gael ei adlewyrchu yn y Ffurflen TAW gywir ar gyfer y cyfnod y digwyddodd y trafodyn.

Os nad yw’ch system pwynt gwerthu yn eich galluogi i roi cyfrif am TAW yn gywir o dan y cynllun hwn, gallwch addasu’ch cyfrif TAW â llaw ar ôl y gwerthiant.

Os na allwch gynnwys yr addasiad yn y cyfnod y digwyddodd y trafodyn, dylech amcangyfrif y TAW ac mae’n rhaid i chi roi cyfrif am unrhyw wahaniaeth yn eich Ffurflen TAW nesaf.

Bydd y taliad a gewch yn cael ei drin fel incwm trethadwy.

Os bydd angen i chi gywiro unrhyw wybodaeth

Os bydd angen i chi gywiro unrhyw wybodaeth bydd yn rhaid i chi gysylltu â CThEM.

Help arall y gallwch ei gael

Mae CThEM wedi cyhoeddi arweiniad sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am gymhwystra yn ogystal â sut i gynnig y gostyngiad.

Gallwch lawrlwytho deunydd hyrwyddo i ddangos eich bod yn cynnig gostyngiadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r strategaeth profi, olrhain, diogelu ac, yn Lloegr, mae’r GIG wedi cyflwyno’r gwasanaeth profi ac olrhain i helpu i olrhain ymlediad coronafeirws.

Dewch o hyd i gymorth ariannol ar gyfer eich busnes yn sgil coronafeirws.

Cysylltu â CThEM

Gallwch gysylltu â CThEM ynghylch y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 27 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 September 2020 + show all updates
  1. The Eat Out to Help Out Scheme closed on 31 August 2020. Page updated with removal of registration links.

  2. Added translation

  3. The claims service for the Eat Out to Help Out Scheme is now live.

  4. First published.