Canllawiau

Hawlio gwarant neu flaendal sicrwydd mewnforio yn ôl

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn ar gyfer Mynediad Dros Dro, prosesu mewnol neu ddefnydd awdurdodedig gydag awdurdodiad drwy ddatganiad, neu os nad oedd Tystiolaeth o darddiad ar gael ar adeg y mewnforio.

Gallwch hawlio’r blaendal sicrwydd neu warant yn ôl am nwyddau sy’n bodloni’r amodau canlynol: 

  • wedi’u mewnforio i’r DU dros dro

  • wedi’u symud o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i Ogledd Iwerddon i’w defnyddio dros dro, cyn cael eu symud yn ôl i Brydain Fawr

  • wedi’u prosesu neu eu trwsio 

  • wedi’u mewnforio ar gyfer defnydd penodol

  • wedi’u mewnforio heb dystiolaeth o darddiad oedd yn gymwys i gael cyfradd tollau ffafriol

Bydd angen i chi dalu unrhyw dollau a threthi sy’n ddyledus cyn y gallwch hawlio blaendal neu warant sicrwydd yn ôl os yw’r canlynol yn wir:

  • mae nwyddau â mynediad dros dro neu nwyddau sydd wedi’u prosesu’n fewnol yn cael eu gwerthu yn y DU, neu’n aros yn y DU

  • mae nwyddau â defnydd awdurdodedig yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol i’w defnydd penodol

  • nid oes unrhyw amod arall o ran Mynediad Dros Dro, prosesu mewnol neu ddefnydd awdurdodedig yn cael eu bodloni

Pwy all hawlio

Gallwch wneud hawliad ar-lein os ydych yn un o’r canlynol: 

  • mewnforiwr

  • asiant tollau

  • trefnydd anfon nwyddau neu gwmni cludo brys, sy’n gweithredu ar ran y mewnforiwr

  • busnes sy’n mewnforio nwyddau ar gyfer defnydd masnachol

Er mwyn hawlio ar-lein bydd angen i chi danysgrifio i’r Gwasanaeth Datganiad Tollau.

Pwy na all hawlio ar-lein 

Ni fyddwch yn gallu gwneud hawliad ar-lein os yw’r canlynol yn wir:  

  • rydych eisoes wedi cael llythyr i’ch atgoffa 

  • mae’r Cyfeirnod Symud (MRN) wedi cael ei ddefnyddio mewn hawliad arall 

  • rydych yn unigolyn preifat

  • nid ydych o fewn y terfyn amser ar gyfer eich math o hawliad — darllenwch yr adran ‘Pryd i hawlio’

Pryd i hawlio

Mynediad Dros Dro

Gall Mynediad Dros Dro (yn agor tudalen Saesneg) gael ei ddefnyddio am hyd at 24 mis (yn dibynnu ar y nwyddau yr ydych yn eu mewnforio). 

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad ar ôl i chi ryddhau’r nwyddau, a chyn pen diwedd y cyfnod Mynediad Dros Dro.  

Os yw’r cyfnod Mynediad Dros Dro wedi dod i ben, bydd angen i chi yrru e-bost at CThEF, i’r tîm Mynediad Dros Dro Cenedlaethol, i’r cyfeiriad e-bost ntis@hmrc.gov.uk. Anfonwch dystiolaeth o’r nwyddau a oedd wedi’u hallforio, megis eich datganiad allforio.

Prosesu Mewnol

Gall prosesu mewnol (yn agor tudalen Saesneg) gael ei ddefnyddio am hyd at 6 mis. 

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad ar ôl i chi ryddhau’r nwyddau, a chyn pen 30 diwrnod wedi diwedd y cyfnod prosesu mewnol neu’r cyfnod defnydd awdurdodedig.

Os yw’r cyfnod prosesu mewnol wedi dod i ben, bydd angen i chi gyflwyno bil rhyddhau ar gyfer prosesu mewnol gan ddefnyddio awdurdodiad drwy ddatganiad.

Defnydd awdurdodedig

Gall defnydd awdurdodedig (yn agor tudalen Saesneg) gael ei ddefnyddio am hyd at 6 mis. 

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad ar ôl i chi ryddhau’r nwyddau, a chyn pen 30 diwrnod wedi diwedd y cyfnod prosesu mewnol neu’r cyfnod defnydd awdurdodedig.

Os yw’r cyfnod defnydd awdurdodedig wedi dod i ben, bydd angen i chi gyflwyno bil rhyddhau ar gyfer defnydd awdurdodedig gan ddefnyddio awdurdodiad drwy ddatganiad (yn agor tudalen Saesneg).

Tystiolaeth o darddiad sydd ar goll

Os gwnaethoch fewnforio nwyddau o wlad sydd â chytundeb masnachu â’r DU (yn agor tudalen Saesneg) heb dystiolaeth o darddiad, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad cyn pen 4 mis o ddyddiad y mewnforio.

Os oes mwy na 4 mis wedi mynd heibio, bydd angen i chi anfon tystiolaeth o darddiad at customsaccountingrepayments@hmrc.gov.uk, gan gynnwys ‘Canolfan Cyfrifyddu Toll Fewnforio Genedlathol / National Import Duty Accounting Centre (NIDAC)’ CThEF yn y llinell pwnc.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mynediad Dros Dro, prosesu mewnol a defnydd awdurdodedig 

Er mwyn hawlio blaendal sicrwydd neu warant ar gyfer Mynediad Dros Dro, prosesu mewnol neu ddefnydd awdurdodedig, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyfeirnod Symud (MRN) mewnforio 

  • tystiolaeth o waredu’r nwyddau (gall hwn fod yn MRN mewnforio arall, neu yn MRN allforio) 

  • manylion ynghylch pa mor hir yr oedd y nwyddau yn cael eu datgan i fod yn y DU yn ystod yr amser mewnforio

  • gwybodaeth am sut cafodd y nwyddau eu defnyddio

  • manylion banc y talai  

  • eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad  

  • y swm sy’n cael ei hawlio gennych

Yn ogystal, byddwch angen unrhyw ddogfennau ategol. Gall ffeiliau fod hyd at 9MB yr un a gallant gynnwys y canlynol: 

  • anfonebau masnachol

  • bil rhyddhau

  • datganiadau mewnforio neu allforio

  • rhestrau pacio

  • datganiad amgen neu ddargyfeirio

  • dogfennau eraill sy’n ategu’ch hawliad

Tystiolaeth o darddiad sydd ar goll

Er mwyn hawlio blaendal diogelwch neu warant ar gyfer tystiolaeth o darddiad sydd ar goll, bydd angen y canlynol arnoch:

Sut i hawlio

Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a ffeiliau angenrheidiol yn barod gennych i’w huwchlwytho cyn i chi ddechrau. 

Mewngofnodwch gan ddefnyddio’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth â wnaethoch eu defnyddio er mwyn tanysgrifio i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Bydd yr ID hwn yn gysylltiedig â’ch rhif EORI.

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Hawlio nawr

Ar ôl i chi wneud hawliad

Byddwch yn cael e-bost gan CThEF yn cadarnhau cyfeirnod eich hawliad

Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth am eich cais.

Gallwch wirio statws eich hawliad drwy edrych ar y dangosfwrdd hawliadau sydd ar y gwasanaeth ar-lein.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Mehefin 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. The online service can now process missing proof of origin claims.

  3. The online service can now process inward processing and authorised use claims.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon