Canllawiau

Symud nwyddau wedi’u prosesu neu wedi’u hatgyweirio i gylchrediad rhydd neu eu hail-allforio

Dysgwch sut i symud eich nwyddau o brosesu mewnol i gylchrediad rhydd, i weithdrefn arbennig arall neu i’w hail-allforio.

Rhaid i chi gael caniatâd cyn dechrau prosesu’n fewnol er mwyn prosesu neu atgyweirio eich nwyddau (yn Saesneg).

Ar ôl i chi orffen prosesu neu atgyweirio eich nwyddau, rhaid i chi ddilyn y weithdrefn i adael neu ‘ryddhau’ a gwaredu eich nwyddau drwy:

  • eu hail-allforio y tu allan i’r DU — bydd angen i chi ddefnyddio datganiad llawn oni bai eich bod wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio gweithdrefnau datganiad syml
  • eu datgan mewn gweithdrefn tollau arall
  • eu trosglwyddo i ddeiliad caniatâd prosesu mewnol arall
  • eu dinistrio — dim ond dan oruchwyliaeth swyddogion tollau mae hyn yn bosibl fel arfer

Ceir achosion arbennig hefyd ar gyfer rhai nwyddau sy’n cael eu hystyried yn rhai sy’n cael eu hail-allforio.

Bydd eich llythyr caniatâd yn rhoi gwybod i chi:

  • faint o amser sydd gennych i ryddhau eich nwyddau — bydd hyn yn seiliedig ar y cyfnod a amcangyfrifwyd gennych ar eich ffurflen gais neu 6 mis os gwnaethoch chi ddefnyddio awdurdodiad drwy ddatganiad
  • manylion eich swyddfa oruchwylio os bydd angen i chi ymestyn y cyfnod

Rhyddhau eich nwyddau gyda chaniatâd llawn

Mae angen i chi anfon ffurflen, a elwir yn ‘bil rhyddhau’, i’ch swyddfa oruchwylio ddim hwyrach na 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhau.

Cwblhewch y ffurflen ar-lein ar gyfer System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf.

Os na allwch wneud hyn ar-lein, llenwch y ffurflen drwy’r bost (yn Saesneg) neu ffurflen bost y Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn Saesneg).

Dysgwch pa mor hygyrch yw ein ffurflenni (yn Saesneg).

Anfonwch e-bost i: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk i ofyn am y ffurflen hon yn Gymraeg.

Gwybodaeth bydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fod â’r manylion canlynol wrth law er mwyn llenwi’r ffurflen:

  • eich rhif caniatâd prosesu mewnol. Gallwch weld hwn ar eich llythyr awdurdodi
  • Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwr Economaidd (EORI)
  • manylion y sawl sydd ag awdurdod
  • dyddiad cau’r bil rhyddhau
  • yr holl fanylion banc

Gwybodaeth angenrheidiol am y nwyddau rydych chi wedi’u datgan i’w prosesu’n fewnol

Bydd angen y manylion canlynol arnoch am eich nwyddau:

  • cyfeirnod datganiad mewnforio ar gyfer y tollau
  • cod economaidd
  • cod nwyddau
  • disgrifiad
  • gwerth tollau
  • symiau’r taliadau tollau a ohiriwyd

Gwybodaeth angenrheidiol os byddwch yn gwaredu eich nwyddau

Os ydych wedi gwaredu’ch nwyddau, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod y gwaredu
  • dyddiad gwaredu
  • rhif datgan cylchrediad rhydd
  • dull prisio
  • dull gwaredu
  • cod economaidd
  • cod nwyddau
  • disgrifiad
  • nifer
  • cyfradd yr elw
  • swm ffioedd tollau rydych yn hawlio rhyddhad yn eu cylch

Gwybodaeth angenrheidiol os byddwch yn cario nwyddau ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf

Os ydych yn cario nwyddau ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf, bydd angen i chi ddarparu:

  • cyfeirnod a dyddiad y datganiad tollau mewnforio
  • nifer
  • cyfnod yr estyniad

Rhyddhau eich nwyddau gyda chaniatâd drwy ddatganiad

Mae angen i chi anfon ffurflen, a elwir yn ‘bil rhyddhau’, i’ch swyddfa oruchwylio ddim hwyrach na 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhau. Er mwyn i ni brosesu’r ‘bil rhyddhau’, rhaid cynnwys yr holl fanylion banc.

Llenwch y ffurflen ar-lein ar gyfer CHIEF.

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch lenwi’r ffurflenni CHIEF (yn Saesneg) neu’r Gwasanaeth Datganiad Tollau (yn Saesneg) a’u dychwelyd drwy’r post.

Dysgwch pa mor hygyrch yw ein ffurflenni (yn Saesneg).

Anfonwch e-bost i: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk i ofyn am y ffurflen hon yn Gymraeg.

Gwybodaeth bydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fod â’r manylion canlynol wrth law er mwyn llenwi’r ffurflen:

  • eich Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwr Economaidd (EORI)
  • manylion mewnforio gan gynnwys:
    • uned prosesu cofnodion
    • rhif cofnod mewnforio
    • dyddiad y mewnforio
    • cyfradd yr elw
    • manylion gwaredu ar gyfer prosesu mewnol (gan gynnwys cyfeirnodau a dyddiadau)
    • yr holl fanylion Bacs (ni roddir sieciau mwyach)

Talu toll pan fyddwch yn rhyddhau nwyddau i fod mewn cylchrediad rhydd

Os byddwch yn rhyddhau eich nwyddau i fod mewn cylchrediad rhydd, bydd angen i chi dalu toll.

Byddwch wedi rhoi gwybod i ni a oeddech eisiau talu toll ar sail naill ai’r nwyddau yn cael eu datgan i weithdrefnau prosesu mewnol neu’n cael eu rhyddhau i fod mewn cylchrediad rhydd.

Gallwch newid y dull hwn drwy gysylltu â’ch swyddfa oruchwylio ac egluro’r rhesymau.

Byddant naill ai’n caniatáu neu’n gwrthod eich cais ac yn rhoi gwybod a yw hyn yn effeithio ar eich caniatâd.

Symud eich nwyddau i weithdrefn tollau arall

Mae sawl ffordd o symud eich nwyddau i rywun arall:

  • i ddeiliad awdurdodiad prosesu mewnol arall
  • o fewn yr un awdurdodiad prosesu mewnol
  • drwy drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau

Symud nwyddau i ddeiliad awdurdodiad prosesu mewnol arall

Gallwch ryddhau’ch rhwymedigaeth drwy symud y nwyddau i ddeiliad awdurdodiad prosesu mewnol arall.

Mae’n rhaid i’r parti arall wneud y canlynol:

  • gwneud datganiad tollau gan ddefnyddio CPC 51 51 000, neu CPC 51 51 A04 ar gyfer nwyddau sy’n rhan o ddull prosesu mewnol ar gyfer TAW yn unig
  • rhoi copi i chi o ddogfen gydnabod y tollau

Mae’n rhaid i chi nodi’r symudiad yn eich cofnodion masnachol cyn i’r nwyddau gael eu symud.

Eich cyfrifoldeb chi yw’r rhwymedigaeth ar gyfer unrhyw doll dramor neu TAW mewnforio sydd wedi’u gohirio o dan y trefniadau, hyd nes i’r Tollau dderbyn y datganiad symud a gyflwynwyd gan y parti sy’n derbyn y nwyddau.

Symud nwyddau o fewn yr un caniatâd prosesu mewnol

Os oes gennych fwy nag un set o adeiladau yn eich caniatâd, gallwch symud y nwyddau rhyngddynt ar yr amod eich bod yn nodi’r symudiad yn eich cofnodion. Does dim angen dogfennau tollau.

Cadw cofnodion

Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n cynnwys holl fanylion y nwyddau tra byddant naill ai:

  • o fewn eich awdurdodiad prosesu mewnol
  • o fewn eich awdurdodiad gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd

Bydd hyn yn galluogi CThEF i oruchwylio eich awdurdodiad.

Mae’n rhaid i chi gadw:

  • cofnodion awdurdodiadau prosesu mewnol am 4 blynedd
  • cofnodion awdurdodiadau gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd am 5 mlynedd

Mae’n rhaid i’ch cofnodion gynnwys y canlynol:

  • cyfeirnod y caniatâd a ddefnyddiwyd i osod y nwyddau dan y weithdrefn
  • cyfeirnodau’r datganiadau a ddefnyddiwyd i osod y nwyddau dan y weithdrefn ac i ryddhau’r weithdrefn — os nad yw’r rhain ar gael, defnyddiwch godau, rhifau neu gyfeirnodau i adnabod y datganiadau
  • gwybodaeth sy’n nodi’n glir unrhyw ddogfennau, ar wahân i ddatganiadau tollau, sy’n gysylltiedig â gosod nwyddau dan y weithdrefn a’u rhyddhau
  • manylion marciau, rhifau adnabod, rhifau a math o becynnau, nifer, a disgrifiad masnachol neu dechnegol o’r nwyddau a (lle bo hynny’n berthnasol) manylion unrhyw gynwysyddion a ddefnyddir
  • lleoliad y nwyddau a manylion unrhyw symudiadau sydd wedi digwydd
  • statws tollau’r nwyddau — a ydynt yn nwyddau o’r DU neu’r tu allan i’r DU
  • manylion unrhyw ddulliau arferol o drin y nwyddau a allai fod wedi digwydd
  • manylion unrhyw ddosbarthiad newid tariff o ganlyniad i drin y nwyddau
  • y costau sy’n gysylltiedig ag unrhyw ddulliau arferol o drin y nwyddau
  • cyfradd yr elw neu’r dull o’i gyfrifo
  • manylion am unrhyw gyfwerthedd
  • manylion unrhyw drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau a allai fod wedi digwydd
  • dyddiad ac amser derbyn y nwyddau yn y parth rhydd
  • unrhyw wybodaeth ychwanegol y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi ei chadw

Os nad yw’r cofnodion hyn yn rhan o’ch prif gofnodion (er enghraifft, rydych chi’n cyfrifo cyfradd yr elw y tu allan i’ch prif gofnodion), rhaid i chi roi cyfeiriad at ble mae’r wybodaeth yn eich prif gofnodion.

Achosion arbennig ar gyfer rhyddhau

Dewis arall yn lle ail-allforio neu ryddhau eich nwyddau i gylchrediad rhydd yw cael gwared â’ch nwyddau drwy un o’r dulliau canlynol:

  • siopau allforio lle mae’r nwyddau ar werth i deithwyr sy’n teithio y tu allan i’r DU
  • eu gwerthu i luoedd arfog nad ydynt o’r DU sydd wedi’u lleoli yn y DU (er enghraifft, lluoedd arfog UDA neu Ganada)
  • eu gwerthu i lysgenadaethau neu is-genadaethau er enghraifft (mae hyn yn cynnwys gwerthu i staff nad ydynt o’r DU sydd wedi’u lleoli yn y DU a staff y DU sy’n gweithio y tu allan i’r DU)
  • eu defnyddio fel storfeydd neu fynceri ar longau sy’n teithio y tu allan i’r DU (mae hyn yn cynnwys bwyd i’r criw a’r teithwyr)
  • prydau ar hambyrddau sy’n cael eu defnyddio ar longau sy’n croesi’r sianel er enghraifft, ond nid ar drenau o dan y sianel nac ar hediadau’r DU
  • tanwydd hedfan a ddefnyddir ar unrhyw awyren ar wahân i awyrennau sy’n hedfan o fewn y DU
  • danfon awyren
  • danfon llong ofod a chyfarpar cysylltiedig
  • danfon cynnyrch wedi’i brosesu lle mae’r gyfradd doll yn sero neu lle rhoddwyd tystysgrif addasrwydd i hedfan
  • gwaredu nwyddau lle na chaniateir eu dinistrio am resymau amgylcheddol

Gallwch hefyd ddefnyddio eich nwyddau fel nwyddau traul ar awyrennau neu longau sy’n teithio y tu allan i’r DU. Er enghraifft, llongau sy’n croesi’r sianel. Nid yw trenau o dan y sianel wedi’u cynnwys.

Mae nwyddau traul yn cynnwys y canlynol:

  • cytleri
  • napcynnau
  • hancesi
  • sliperi
  • pecynnau rhodd a ddarperir yn rhad ac am ddim i deithwyr

 Nid yw nwyddau i’w gwerthu na bwydydd wedi’u cynnwys.

Cyhoeddwyd ar 21 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 April 2024 + show all updates
  1. The links to the online form for Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) have been updated.

  2. We have updated 'Keeping records' to make clear how long you need to keep records.

  3. We have updated 'Discharging your goods with a full authorisation' section with a link to the postal form for the Customs Declaration service.

  4. This is a clarification to the last update. We have updated the section 'moving goods to another inward processing authorisation holder' to clarify that liability for any suspended customs duty or import VAT remains with the first holder until customs have accepted the movement declaration submitted by the receiving holder.

  5. We have updated the section 'moving goods to another authorised inward processing holder' to confirm that liability remains with the first holder until the goods are declared by the receiving holder.

  6. This guidance has been updated to show all of these movements must be made on a customs declaration under Customs Procedure Code 51 51 000 or 51 51 A04.

  7. Updated the section on keeping records to include Freeport customs special procedure authorisations.

  8. This page has been updated to advise all bank details must be included when sending bill of discharge’ for it to be processed.

  9. This page has been updated because the Brexit transition period has ended.

  10. First published.