Canllawiau

Gwiriwch pa help ariannol gallwch ei gael gan CThEM

Dysgwch am y rhyddhadau treth a chymorth ariannol sydd ar gael gan CThEM.

Help gyda gofal plant

Budd-dal Plant

Gallwch hawlio Budd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd:

  • o dan 16
  • o dan 20 os yw’n parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy

Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn.

Caiff ei dalu bob 4 wythnos a does dim terfyn ar nifer y plant y gallwch hawlio ar eu cyfer.

Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o’ch plant, i helpu gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at £4,000 y flwyddyn).

Hawlio rhyddhad treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dysgwch sut i hawlio rhyddhad treth ar arian rydych wedi ei wario ar bethau megis gwisg a dillad gwaith, offer, tanysgrifiadau neu deithio ar gyfer busnes.

Hawlio Lwfans Priodasol

Mae Lwfans Priodasol yn caniatáu i chi drosglwyddo 10% (£1,260) o’ch lwfans treth personol i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil os ydych yn ennill llai na’r lwfans treth personol, sydd fel arfer yn £12,570.

Help gyda chynilion

Cael help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (Cymorth i Gynilo)

Cyfrif cynilo yw Cymorth i Gynilo. Os oes gennych yr hawl i gael Credyd Treth Gwaith, neu os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallwch gael bonws o 50c am bob £1 yr ydych yn ei gynilo dros 4 blynedd.

Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy’n rhydd o dreth ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011.

I’r rhai sydd â chyfrif ond nad ydynt yn gwybod pwy yw darparwr y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, neu os nad ydych yn siŵr a oes gennych un ai peidio, gallwn eich helpu i ddarganfod hyn.

Cael help os na allwch dalu’ch bil treth

Os na allwch dalu, cysylltwch â CThEM cyn gynted â phosibl. Rydym yma i helpu ac mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu’r hyn sydd arnoch fesul rhandaliad, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r hyn y gallwch ei fforddio.

Dysgwch yr hyn i’w wneud os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd

Cyhoeddwyd ar 5 April 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 April 2022 + show all updates
  1. Published Welsh version.

  2. First published.