Skip to main content
Canllawiau

Gwirio manylion rhywun sy’n cynrychioli CThEF yn bersonol

Sut i gadarnhau pwy yw swyddog CThEF neu gasglwr CThEF os bydd yn cysylltu â chi yn bersonol.

Cysylltu yn bersonol

Bydd unrhyw un sy’n cynrychioli CThEF bob amser yn rhoi gwybod pwy ydyw ac yn egluro pam ei fod yn ymweld â chi.

Os nad ydych yn siŵr a yw’r person rydych chi’n yn delio ag ef yn swyddog gwirioneddol CThEF, gallwch gysylltu â CThEF i wirio pwy ydyw a chadarnhau ei fod yn swyddog o CThEF.

Cadarnhau pwy yw swyddog CThEF

Bydd y swyddog yn dangos ei gerdyn adnabod CThEF i chi, a fydd yn cynnwys ei enw, llun a rhif cyfresol CThEF.

  1. Gwnewch nodyn o enw’r swyddog a’r rhif cyfresol.
  2. Bydd y swyddog yn rhoi rhif ffôn (03000 565 656) i chi i’w ffonio.
  3. Ffoniwch y rhif a rhowch enw’r swyddog a’r rhif cyfresol i gynghorydd CThEF
  4. Bydd yr ymgynghorydd yn cadarnhau a yw’r person yn swyddog gwirioneddol CThEF.

Manylion am y rhif ffôn yr ydych yn cael gan swyddog CThEF:

  • mae ar gael 24 awr y dydd
  • dim ond ar gyfer gwirio manylion swyddogion CThEF mewn sefyllfaoedd wyneb yn wyneb
  • ni all roi cyngor i chi gydag ymholiadau am negeseuon e-bost, llythyrau neu alwadau ffôn rydych chi wedi’u cael gan CThEF

Ni ddylech ddefnyddio’r rhif ffôn hwn i gysylltu â CThEF ar gyfer ymholiadau cyffredinol.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol, gallwch gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg) mewn ffordd arall.

Cadarnhau manylion casglwr CThEF

Fel arfer bydd casglwr CThEF yn ymweld â chi rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os bydd casglwr yn ymweld â chi ar unrhyw adeg arall a’ch bod am gadarnhau pwy ydyw, trefnwch apwyntiad ag ef i’w ddychwelyd rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd y casglwr yn dangos ei gerdyn adnabod CThEF i chi, a bydd ei enw, llun a rhif cyfresol CThEF arno.

  1. Gwnewch nodyn o’r enw a’r rhif cyfresol ar y cerdyn.
  2. Ffoniwch CThEF ar 0300 200 3862.
  3. Rhowch yr enw a’r rhif cyfresol i’r ymgynghorydd, fel y gall gadarnhau bod y casglwr yn cynrychioli CThEF.

Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch wirio rhestr o gysylltiadau dilys CThEF i’ch helpu i benderfynu os yw’r cyswllt rydych wedi ei gael yn dod o CThEF, neu’n sgam gan dwyllwr.

Rhoi gwybod am e-byst, negeseuon testun, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a galwadau ffôn amheus gan CThEF

Cysylltwch â CThEF i roi gwybod am e-bost, cyfrif cyfryngau cymdeithasol, galwad ffôn neu neges destun amheus (yn agor tudalen Saesneg) sy’n sôn am CThEF.

Argraffu'r dudalen hon