Canllawiau

Gofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl i ryddhau carcharor

Pa bryd a sut i ofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl i ryddhau carcharor.

Applies to England and Wales

Trosolwg

Mae’r Bwrdd Parôl yn ystyried carcharorion neilltuol am barôl (rhyddhau ar drwydded) ar sail eu risg o niwed i’r cyhoedd.

Os bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu ei bod yn ddiogel rhyddhau carcharor mae’r penderfyniad yn un dros dro am 21 diwrnod calendr o’r dyddiad y cyhoeddwyd y penderfyniad (y cyfeirir ati fel y ‘ffenestr ailystyried’) os yw’r carcharor yn treulio dedfryd gymwys. Yn ystod y cyfnod yma gellir gwneud cais gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ailystyried y penderfyniad os ystyrir: • Ei fod yn cynnwys gwall cyfreithiol; • na ddilynwyd y broses gywir yn yr adolygiad o’r carcharor am barôl - er enghraifft, ni chymerwyd tystiolaeth bwysig i ystyriaeth • roedd y penderfyniad yn afresymol neu’n afresymegol – ni ellir cyfiawnhau’r penderfyniad ar sail y dystiolaeth o risg a ystyriwyd Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Parôl yn ystyried achosion yn ofalus, felly bydd yn anarferol i benderfyniad newid. Os nad yw penderfyniad parôl yn cael ei herio o fewn 21 diwrnod calendr daw’n derfynol a rhaid i’r carcharor gael ei ryddhau.

Noder: bydd y penderfyniad terfynol hwn hefyd yn ddarostyngedig i Bŵer y Bwrdd Parôl i osod ei benderfyniad o’r neilltu.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bob math o ddedfrydau lle mae’r Bwrdd Parôl yn ystyried rhyddhau, ac eithrio penderfyniadau ar ail-ryddhau carcharorion dedfryd benodol safonol yn dilyn galw yn ôl i’r carchar. Mae hefyd yn berthnasol i garcharorion a ddedfrydwyd o dan Ddeddf Troseddwyr Terfysgol (Cyfyngu ar Ryddhau Cynnar) 2020.

Yn unol â nod y Bwrdd Parôl ar gyfer tryloywder, bydd pob penderfyniad ailystyried yn cael ei gyhoeddi ar BAILII ar derfyn yr achos perthnasol. Sylwch y bydd unrhyw wybodaeth sensitif yn cael ei golygu cyn ei chyhoeddi, ac ni fydd penderfyniadau’n cael eu cyhoeddi tan ar ôl i achos y Bwrdd Parôl ddod i ben.

Gwirio penderfyniadau arferol

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder Dîm Ailystyried sy’n gwirio pob penderfyniad rhyddhau parôl dros dro. Os oes sail (rhesymau perthnasol) byddant yn gwneud cais i’r Bwrdd Parôl ailystyried y penderfyniad. Os yw’r Bwrdd Parôl yn cytuno bod y sail dros ailystyried yn ddigonol, edrychir eto ar yr achos a bydd gwrandawiad papur neu wrandawiad llafar newydd, a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud.

Eich hawl i godi materion

Mae’r Tîm Ailystyried yn gwirio pob penderfyniad rhyddhau parôl, p’un a yw dioddefwr yn gofyn iddynt wneud hynny ai peidio. Fodd bynnag, gall dioddefwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb ofyn i’r Tîm Ailystyried ystyried gwneud cais i ailystyried os ydyn nhw’n credu bod problem gyda phenderfyniad parôl.

Ni fydd y Bwrdd Parôl yn gallu ailystyried achos yn unig ar y sail nad yw dioddefwr eisiau i’r carcharor gael ei ryddhau.

Siarad â swyddog cyswllt dioddefwyr

Os ydych wedi cofrestru ar y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr (VCS), gall eich Swyddog Cyswllt Dioddefwyr (VLO) eich cefnogi drwy’r broses barôl.

Os byddwch yn penderfynu codi materion ynghylch y penderfyniad parôl gall y swyddog eich helpu i gysylltu â’r Tîm Ailystyried a bydd yn eich diweddaru. Gall eich VLO hefyd ddweud wrthych am wasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Efallai eich bod yn gymwys i gofrestru ar gyfer y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr nawr os nad oes gennych VLO yn barod. Os cofrestrwch chi ar gyfer y cynllun mae’n bosib y byddwch chi hefyd yn gallu gofyn i amodau ychwanegol gael eu hychwanegu at drwydded y carcharor os ydych chi’n pryderu am eich diogelwch. Mae amodau’r drwydded yn rheoli pethau fel pwy mae’r carcharor yn gallu cysylltu ag ef/hi a’r llefydd y gall fynd iddynt.

Gofyn am grynodeb o’r penderfyniad parôl

Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno cais i’r Tîm Ailystyried, efallai y byddai’n ddefnyddiol darllen crynodeb penderfyniad y Bwrdd Parôl mewn perthynas â’r achos perthnasol. Bydd y crynodeb yn esbonio sut y daeth y Bwrdd Parôl i’w benderfyniad, gan gynnwys ffactorau risg ac ymddygiad y carcharor yn y ddalfa. Gallwch ofyn am grynodeb o’r penderfyniad drwy e-bostio summaries@paroleboard.gov.uk.

Dylai dioddefwyr sy’n rhan o’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr ofyn am y crynodeb o’r penderfyniad drwy eu VLO. Os nad ydych wedi cofrestru i’r VCS gallwch ofyn am y crynodeb o’r penderfyniad drwy e-bost summaries@paroleboard.gov.uk.

Gall partïon sydd â diddordeb hefyd ofyn am grynodebau o benderfyniad y Bwrdd Parôl yn yr un ffordd, drwy’r cyfeiriad e-bost uchod.

Sut i ofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl

Mae gennych 21 diwrnod calendr o’r dyddiad y cyhoeddir penderfyniad y Bwrdd Parôl i gyflwyno eich cais i’r Tîm Ailystyried.

  1. Siaradwch â’ch VLO - bydd yn gallu egluro’r broses.
  2. Llenwi Ffurflen CPD1: Cais i ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl.
  3. E-bostiwch eich ffurflen i’r Tîm Ailystyried.

Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno unrhyw gais i’w ailystyried erbyn 5pm ar Ddiwrnod 21 y ffenestr ailystyried. Os ydych am gyflwyno sylwadau, dylech wneud hynny mewn da bryd cyn y dyddiad cau hwn (dim hwyrach na 24 awr o’r blaen os yn bosib) i sicrhau y gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi ystyriaeth lawn i’r pwyntiau y byddwch chi’n eu gwneud. Ni ellir ystyried y ffurflenni a gyflwynwyd yn agos at y dyddiad cau am 5pm ar Ddiwrnod 21 yn llawn ac felly ni all ffurfio rhan o gais, os oes sail i wneud un.

Ble i anfon y ffurflen

Dylech anfon eich ffurflen drwy e-bost at y Tîm Ailystyried cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd eich VLO yn gallu e-bostio’r ffurflen drosoch.

E-bost: reconsiderationrequests@justice.gov.uk

Cyfrinachedd

Os byddwch yn penderfynu anfon cais i’r Tîm Ailystyried bydd eich manylion yn cael eu trin yn gyfrinachol. Os bydd y tîm yn penderfynu bod sail i wneud cais i ailystyried y penderfyniad, bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn enw’r Ysgrifennydd Gwladol - fydd y carcharor ddim yn cael gwybod eich bod yn bersonol wedi codi materion ynglŷn â’u penderfyniad parôl.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Os yw’r Tîm Ailystyried yn credu y dylid ailystyried y byddant yn gwneud cais i’r Bwrdd Parôl o fewn y ffenestr ailystyried.

Os ydych wedi gwneud cais i’r Tîm Ailystyried, cewch wybod a ydynt wedi gwneud cais i’r Bwrdd Parôl i ailystyried yr achos ai peidio.

Os gwneir cais i ail-ystyried i’r Bwrdd Parôl

Os bydd y Tîm Ailystyried yn cyflwyno cais am ailystyried i’r Bwrdd Parôl, gohirir rhyddhau’r carcharor.

Bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu:

  • A oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir ac y dylid rhyddhau
  • A ddylid edrych ar yr achos eto, fydd yn golygu y bydd gwrandawiad papur neu wrandawiad llafar newydd, a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud.

Os yw’r Bwrdd Parôl yn canfod bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir ond ei fod yn cynnwys camgymeriad, bydd yn nodi’r camgymeriad ac yn cadarnhau y dylid rhyddhau beth bynnag.

Os edrychir ar yr achos eto:

Os bydd cais i ail-ystyried yn llwyddiannus, bydd y Bwrdd Parôl yn edrych ar yr achos eto ar bapur neu drwy gynnal gwrandawiad wyneb yn wyneb.

Fodd bynnag, os caiff yr achos ei ailystyried fel hyn, bydd cyfle i ddioddefwyr wneud datganiad dioddefwr arall neu i ailgyflwyno’r un gwreiddiol. Bydd eich VLO yn esbonio’r amserlen ac yn eich helpu drwy’r broses.

Gallai’r Bwrdd Parôl benderfynu:

  • Bod rhaid rhyddhau’r carcharor
  • Bod rhaid rhyddhau’r carcharor ond gydag amodau trwydded gwahanol
  • Argymell trosglwyddo’r carcharor i amodau agored
  • Na ddylid rhyddhau’r carcharor ar hyn o bryd

Achosion lle mae’r Bwrdd Parôl yn penderfynu peidio â rhyddhau’r troseddwr

Pan fydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu nad yw’n ddiogel rhyddhau carcharor, bydd y penderfyniadau hyn hefyd dros dro am 21 diwrnod calendr (y cyfeirir ati fel y ‘ffenestr ailystyried’) os yw’r carcharor yn treulio dedfryd gymwys. Yn ystod y cyfnod yma mae modd i’r carcharor wneud cais i ailystyried y penderfyniad os ystyrir:

  • Ei fod yn cynnwys gwall cyfreithiol;
  • na chafodd y broses gywir ei dilyn yn yr adolygiad o’r achos i derfynu’r drwydded - er enghraifft, ni ystyriwyd tystiolaeth bwysig
  • roedd y penderfyniad yn afresymol neu’n afresymegol - ni ellir cyfiawnhau’r penderfyniad ar sail y dystiolaeth o risg a ystyriwyd

Pan fydd y carcharor yn penderfynu gwneud cais, bydd y broses a ddilynir yn debyg iawn i’r uchod. Os bydd cais i ail-ystyried yn llwyddiannus, bydd y Bwrdd Parôl yn edrych ar yr achos eto ar bapur neu mewn gwrandawiad llafar.

Os gwneir y penderfyniad eto, bydd cyfle i ddioddefwyr wneud datganiad dioddefwr arall neu ailgyflwyno’r un gwreiddiol. Bydd eich VLO yn esbonio’r amserlen ac yn eich helpu drwy’r broses.

Fel y nodir uchod, gallai’r Bwrdd Parôl benderfynu:

  • Bod rhaid rhyddhau’r carcharor
  • Bod rhaid rhyddhau’r carcharor ond gydag amodau trwydded gwahanol
  • Argymell trosglwyddo’r carcharor i amodau agored
  • Na ddylid rhyddhau’r carcharor ar hyn o bryd
Cyhoeddwyd ar 13 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 November 2022 + show all updates
  1. Added translation

  2. Process updated and form updated

  3. Added translation

  4. Added translation

  5. Information updated.

  6. First published.