Ymgyrchu a gweithgarwch gwleidyddol mewn etholiad: gwersi a ddysgwyd
Materion a chwestiynau allweddol i elusennau eu hystyried yn seiliedig ar fewnwelediadau o'n gwaith achos i ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol yn ystod cyfnodau etholiad blaenorol.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dylai elusennau fod yn ymwybodol y byddant yn wynebu mwy o graffu gan y cyfryngau a’r cyhoedd yn y cyfnod cyn etholiad a bod y risg y bydd elusennau’n dylanwadu ar ymddygiad pleidleiswyr, neu’n cael eu gweld yn dylanwadu arno, yn cynyddu.
Dylai elusennau ymgyfarwyddo’n gyntaf â’r rheolau perthnasol yn ein canllawiau ar ymgyrchu a gweithgarwch gwleidyddol, a’r canllawiau atodol ar faterion ychwanegol i’w hystyried wrth ymgyrchu yn ystod cyfnod cyn yr etholiad. Mae’r canllawiau hynny’n parhau’r un fath ag ar gyfer etholiadau blaenorol, ac yn cynnwys yr egwyddorion pwysig canlynol:
- ni all elusennau gael dibenion gwleidyddol, a dim ond yng nghyd-destun hyrwyddo ei dibenion elusennol y caiff elusen ymgymryd ag ymgyrchu a gweithgarwch gwleidyddol
- yn y maes gwleidyddol, rhaid i elusen bwysleisio ei hannibyniaeth a sicrhau bod unrhyw gysylltiad sydd ganddi â phleidiau gwleidyddol yn gytbwys; ni chaiff elusen roi cefnogaeth na chyllid i blaid wleidyddol, ymgeisydd na gwleidydd
- gall elusen roi cefnogaeth i bolisïau penodol a hyrwyddir gan bleidiau gwleidyddol neu godi pryderon amdanynt pe bai’n helpu i gyflawni ei dibenion elusennol cyn belled â’i bod yn egluro ei hannibyniaeth oddi wrth unrhyw blaid wleidyddol
- rhaid i ymddiriedolwyr amddiffyn eu helusen a pheidio â chaniatáu iddi gael ei defnyddio fel cyfrwng i fynegi barn wleidyddol plaid unrhyw ymddiriedolwr neu aelod o staff unigol neu gan blaid neu ymgeisydd
Fel mae ein canllawiau’n ei nodi, wrth wneud penderfyniadau ar weithgarwch yn ystod cyfnod cyn yr etholiad, rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn proses gwneud penderfyniadau briodol, gan ystyried yr ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt. Rhaid i chi ystyried ffactorau priodol, ystyried y ffactorau perthnasol yn unig, a gwneud penderfyniadau y byddai ymddiriedolwyr rhesymol yn eu gwneud.
Dylai elusennau hefyd fod yn ymwybodol o gyfraith etholiadol wrth ymgyrchu cyn etholiad cyffredinol. Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth am ei reolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod etholiad.
Ar draws cyfnodau etholiad blaenorol, mae rhai senarios y mae elusennau wedi’u hwynebu’n gyffredin. Er mwyn helpu ymddiriedolwyr i feddwl am y rhain yng nghyd-destun ein canllawiau presennol, rydym wedi crynhoi’r enghreifftiau hyn isod, gan nodi rhai cwestiynau ymarferol y gall ymddiriedolwyr eu hystyried yn ddefnyddiol fel rhan o sicrhau eu bod yn cymhwyso’r canllawiau presennol.
Mae ein Prif Swyddog Gweithredol wedi ysgrifennu blog am yr hyn a ddisgwyliwn gan elusennau yn eu hymgyrchu a’u gweithgarwch gwleidyddol a’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod hwn. I ymddiriedolwyr sy’n chwilio am drosolwg cyflym ar ymgyrchu, rydym hefyd wedi cynhyrchu Canllaw 5 Munud ar Weithgarwch Gwleidyddol ac ymgyrchu gan elusennau.
Materion allweddol
1. Cefnogi neu feirniadu polisïau penodol
Gall elusennau gefnogi neu godi pryderon am bolisïau penodol a hyrwyddir gan bleidiau gwleidyddol lle mae’r gweithgarwch hwn yn hyrwyddo eu dibenion ac er budd gorau’r elusen. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o weithgarwch o bost cyfryngau cymdeithasol ar bolisi penodol i adroddiad manwl sy’n rhoi sylwadau ar un neu fwy o bolisïau neu ymrwymiadau maniffesto.
Rhaid i elusennau sicrhau bod y gweithgarwch hwn yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw’n awgrymu cefnogaeth i blaid wleidyddol benodol na beirniadaeth ohoni yn hytrach na chanolbwyntio ar y materion y mae’r elusen yn bodoli i’w cefnogi. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i elusennau aros yn annibynnol ar wleidyddiaeth plaid.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- Sut fydd y gweithgarwch hwn yn hyrwyddo dibenion eich elusen?
- Sut ydych chi wedi sicrhau bod eich elusen yn cynnal ei hannibyniaeth a’i niwtraliaeth wleidyddol, ac yn cael ei gweld yn gwneud hynny?
- Ydych chi wedi ystyried risgiau’r weithred hon, gan gynnwys y risg i enw da’r elusen? Sut ydych chi’n lliniaru’r risgiau posibl?
2. Cefnogi neu feirniadu plaid wleidyddol neu ymgeisydd gwleidyddol
Ni ddylai elusennau gynorthwyo ymgeiswyr gyda’u hymgyrchoedd etholiadol, yn ariannol nac fel arall, na rhoi unrhyw fath o gefnogaeth bleidiol benodol. Gellid gweld gwneud hynny fel ffordd o alw ar bobl - gan gynnwys eu rhoddwyr a’u buddiolwyr - i bleidleisio dros un blaid neu’r llall, rhywbeth na ddylai elusennau ei wneud.
Rhaid i elusennau gymryd camau i ddangos eu niwtraliaeth wleidyddol, gan osgoi achosion lle mae’r niwtraliaeth hon yn cael ei chwestiynu. Er enghraifft, cefnogi neu feirniadu polisïau un blaid benodol dro ar ôl tro neu ail-bostio datganiad gan un blaid wleidyddol yn unig ar ei chyfryngau cymdeithasol.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- Yn eich ymgyrchu a’ch gweithgareddau gwleidyddol, ydych chi wedi sicrhau bod eich elusen ond yn mynegi cefnogaeth neu feirniadaeth o bolisi penodol ac nid ar gyfer ymgeisydd neu blaid wleidyddol?
- Ydych chi wedi cymryd digon o gamau lliniaru i sicrhau bod eich gweithgarwch gwleidyddol a’ch ymgyrchu yn niwtral o ran gwleidyddiaeth plaid, ac yn cael ei weld felly?
3. Gweithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu gan ymddiriedolwr elusen neu weithwyr
Yn aml, mae gan ymgeiswyr sy’n ymgeisio am etholiad gysylltiadau agos â’r gymuned ac efallai bod ganddynt gysylltiad cyfredol neu flaenorol â grwpiau cymunedol lleol neu elusennau. Er y gall ymddiriedolwyr neu weithwyr elusen ymgeisio fel ymgeiswyr gwleidyddol, gall y berthynas hon beri i bobl feddwl bod yr elusen yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol benodol. Gall y risg hon fod yn fwy pan fydd uwch weithwyr fel prif weithredwr neu ymddiriedolwr yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol.
Lle mae hyn yn digwydd, bydd angen i’r ymddiriedolwyr ystyried y gwrthdaro buddiannau posibl ac asesu’r risgiau i’r elusen o ran enw da ac atebolrwydd cyfreithiol y person sy’n ymgymryd â’r ddwy rôl ar yr un pryd. Dylent roi polisïau a gweithdrefnau ar waith i liniaru’r risg i’r elusen. Dylai’r unigolion dan sylw fod yn glir ynghylch a ydynt yn gweithredu ac yn siarad ar ran yr elusen neu fel ymgeisydd seneddol, a ni ddylai ymddiriedolwr neu weithiwr elusen byth ddefnyddio cronfeydd elusennol at eu dibenion ymgyrchu eu hunain.
Dylai elusennau hefyd gael polisi cyfryngau cymdeithasol sy’n amlinellu’r disgwyliadau a roddir ar weithwyr ac ymddiriedolwyr o ran defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr elusen a’u cyfrifon personol eu hunain. Gweler ein canllawiau ar elusennau a chyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- Ydych chi wedi asesu’r risgiau a’r gwrthdaro buddiannau posibl ar gyfer gweithiwr neu ymddiriedolwr elusen sy’n ymgeisio am etholiad?
- Pa gamau y byddwch chi’n cytuno arnynt gyda’r gweithiwr/ymddiriedolwr i liniaru risgiau’r sefyllfa?
- Pa gamau eraill y byddwch chi’n eu cymryd i liniaru’r risg bosibl i enw da’r elusen?
4. Defnydd o adeiladau elusen
Mae llawer o elusennau’n berchen ar adeiladau y maent yn dewis eu rhentu allan fel ffordd o gynhyrchu incwm. Yn ystod y cyfnod cyn etholiadau blaenorol, bu enghreifftiau o bleidiau gwleidyddol neu grwpiau eraill yn ceisio llogi adeiladau elusennol o’r fath fel lle i gynnal gweithgareddau gwleidyddol, fel canolfan i drefnu dosbarthu taflenni gwleidyddol.
Lle mae hyn yn digwydd, bydd angen i ymddiriedolwyr sicrhau nad yw eu penderfyniadau ynghylch a ydynt yn derbyn neu’n gwrthod llogi ei chyfleusterau i ymgeisydd, plaid, neu grŵp arall, yn cwestiynu niwtraliaeth yr elusen.
Ni ddylai elusen byth ddefnyddio ei chronfeydd na’i hasedau’n fwriadol ar gyfer yr hyn sy’n ymddangos yn weithgarwch gwleidyddol amhriodol, er enghraifft caniatáu i’w heiddo gael ei ddefnyddio am ddim gan un blaid wleidyddol yn unig. Fodd bynnag, gall cyfraith etholiadol ei gwneud yn ofynnol i rai elusennau (e.e. rhai ysgolion) wneud eu safleoedd ar gael i ymgeiswyr yn rhad ac am ddim.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- Ydych chi wedi sicrhau bod cyfleoedd i logi’r safle ar gael i bob plaid wleidyddol?
- A yw hyn yn cael ei drin fel llogi masnachol arferol ac a ydych chi’n codi cyfradd arferol yr elusen?
- A oes rhesymau clir, er budd gorau’r elusen, dros wrthod un blaid/ymgeisydd wrth dderbyn eraill?
5. Ymweliadau ag elusennau gan ymgeiswyr posibl
Weithiau mae darpar ymgeiswyr yn ymweld ag elusennau fel rhan o’u hymgyrch etholiadol. Gall elusennau hefyd wahodd ymgeiswyr a chynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol i gyfarfodydd cyhoeddus ynghylch materion y mae’r elusen yn ymgyrchu arnynt, er enghraifft trwy wahodd ymgeiswyr i drafod y materion hynny.
Mae’r mathau hyn o ymweliadau wedi bod yn rhan bwysig o waith achos y Comisiwn yn ystod y cyfnod cyn etholiadau cyffredinol blaenorol. Gall yr ymweliadau hyn fod yn ffordd i ymgeiswyr ryngweithio â’r gymuned leol ac i elusennau dynnu sylw at eu hachos a mynegi eu dyheadau ar gyfer newidiadau i ddeddfau neu bolisïau yn y dyfodol.
Fodd bynnag, os na chaiff ei drin yn gywir, gall cynnal ymweliadau o’r fath amlygu elusen i risg gan y gallai awgrymu bod yr elusen yn cymeradwyo ymgeisydd penodol trwy roi llwyfan iddynt.
Dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o’r risgiau hyn a chymryd camau i gadw niwtraliaeth wleidyddol yr elusen. Dylai ymddiriedolwyr allu cyfiawnhau pam y cynhaliwyd yr ymweliad, sut y hyrwyddodd ddibenion yr elusen, a sut y maent yn sicrhau nad oedd yr ymweliad yn arwain at unrhyw gymeradwyaeth ganfyddedig i’r ymgeisydd.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- Wrth gynnal cyfarfod cyhoeddus neu ymweliad, ydych chi wedi gwahodd cynrychiolwyr o sbectrwm gwleidyddol mor eang â phosibl (ac o leiaf o’r pleidiau prif ffrwd)?
- Wrth ganiatáu i ymgeisydd ymweld â’ch elusen, pa risgiau ydych chi wedi’u nodi a sut ydych chi’n bwriadu eu lliniaru?
- Pa gamau ydych chi wedi’u cymryd i sicrhau bod niwtraliaeth wleidyddol eich elusen yn cael ei chadw? Yn benodol, sut ydych chi wedi ceisio sicrhau nad yw’ch elusen, o ganlyniad i’r ymweliad, yn gysylltiedig ym meddwl y cyhoedd â phlaid wleidyddol benodol?
6. Cam/twyllwybodaeth
Yn y cyfnod cyn etholiad, mae dadl gyhoeddus ar faterion polisi yn aml yn dwysáu ac yn cynyddu o ran cyflymder. Efallai y bydd elusennau am gymryd rhan yn y ddadl hon ar bynciau polisi sy’n berthnasol i’w dibenion elusennol, er enghraifft trwy rannu gwybodaeth berthnasol am y pynciau hyn ar gyfryngau cymdeithasol. Wrth wneud hynny, mae angen i ymddiriedolwyr elusen sicrhau bod unrhyw wybodaeth a rennir gan eu helusen yn gywir, er enghraifft trwy wirio ffynhonnell y wybodaeth os ydynt yn ail-rannu rhywbeth ar gyfryngau cymdeithasol.
Gan fod yn rhaid i elusennau fod yn niwtral yn wleidyddol, ni ddylent greu a lledaenu cam/twyllwybodaeth yn fwriadol am unrhyw blaid wleidyddol, ymgeisydd, polisi, neu faniffesto.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- Os yw eich elusen wedi rhannu rhywbeth anghywir neu anwir ar ddamwain, pa gamau lliniaru allwch chi eu cymryd i negyddu unrhyw niwed i’ch enw da, fel dileu’r cynnwys hwn cyn gynted â phosibl ac ystyried a yw’n briodol ymddiheuro neu gywiro?
- Pa gamau allwch chi eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw eich elusen yn rhannu gwybodaeth anghywir?
7. Cysylltiadau â sefydliadau cysylltiedig nad ydynt yn elusennol sy’n cynnal gweithgareddau gwleidyddol ac yn ymgyrchu
Mae’r Comisiwn wedi sylwi ar broblemau ynghylch gweithgareddau ymgyrchu cyrff anelusennol sy’n gysylltiedig ag elusennau a/neu’n rhannu enwau tebyg iddynt.
Rhaid i’r ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn nodi risgiau sy’n deillio o unrhyw weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu’r sefydliad cysylltiedig a’u bod yn lleihau effaith y risgiau hynny ar yr elusen a’i henw da.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- A yw gweithredoedd y sefydliad anelusennol cysylltiedig yn niweidio enw da eich elusen neu’n codi amheuaeth ar niwtraliaeth wleidyddol eich elusen? Os felly, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i liniaru hyn?
- Pa gamau ydych chi wedi’u cymryd i sicrhau bod gwahaniaeth clir rhwng yr elusen a’r sefydliad anelusennol cysylltiedig?
8. Ymgeiswyr gwleidyddol yn defnyddio gwybodaeth am elusennau yn eu hymgyrchoedd
Mae’r risg y bydd ymgeisydd neu blaid wleidyddol yn defnyddio ymchwil elusen neu ddeunydd arall i gefnogi eu polisïau neu eu hymgyrchoedd wedi’i chodi gyda ni. Gall hyn ddigwydd gyda neu heb wybodaeth yr elusen a chydsyniad ymlaen llaw. Hyd yn oed pan nad yw hyn yn cael ei gynhyrchu na’i gymeradwyo gan yr elusen ei hun, mae risg y bydd hyn yn arwain at gefnogaeth ganfyddedig i’r ymgeisydd neu’r blaid benodol honno.
Cwestiynau allweddol i chi eu hystyried:
- Os yw deunydd eich elusen wedi cael ei ddefnyddio’n amhriodol gan blaid wleidyddol heb eich caniatâd, pa gamau lliniaru allwch chi eu cymryd i reoli’r effaith bosibl ar eich niwtraliaeth wleidyddol ganfyddedig?
- Er enghraifft, a ddylech chi gyhoeddi datganiad yn cadarnhau bod eich deunydd wedi cael ei ddefnyddio heb eich gwybodaeth na’ch caniatâd?
Pryd y bydd y Comisiwn yn cymryd camau gweithredu
Yn ystod y cyfnod hwn o ymgyrchu elusennol a gweithgarwch gwleidyddol cynyddol tebygol, bydd y Comisiwn yn parhau i asesu digwyddiadau yn unol â’n canllawiau ar godi pryder gyda’r Comisiwn a’n canllawiau ar ymgyrchu elusennol a gweithgarwch gwleidyddol a’n canllawiau ar wneud penderfyniadau ymddiriedolwyr.
Efallai y bydd achlysuron pan fydd y Comisiwn yn cysylltu ag elusen i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad, er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o’r ffeithiau. Efallai y bydd adegau hefyd pan fydd y Comisiwn yn cysylltu ag elusen i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’n canllawiau perthnasol. Nid yw ein camau gweithredu yn yr achosion hyn o reidrwydd yn golygu ein bod wedi penderfynu bod camwedd wedi digwydd, dim ond ein bod yn cymryd camau cymesur i sicrhau bod canlyniadau priodol yn cael eu cyrraedd.
Adrodd am ddigwyddiad difrifol i’r Comisiwn Elusennau
Mae’n ofynnol i ymddiriedolwyr adrodd am ddigwyddiadau difrifol i’r Comisiwn ar unwaith. Nid yw hyn yn gyfyngedig i, ond gall gynnwys, materion sy’n ymwneud ag ymgyrchu elusennol a gweithgarwch gwleidyddol. Bydd ‘Sut i adrodd am ddigwyddiad difrifol yn eich elusen’ yn helpu ymddiriedolwyr i benderfynu a ddylid adrodd am ddigwyddiad.
Rydym yn asesu adroddiadau trwy ein ffurflen digwyddiad difrifol at wahanol ddibenion, gan gynnwys a ddylid ymgysylltu ag elusen i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd.
Gwybodaeth bellach
Mae ein tudalennau ymgyrchu Elusennau mewn cyfnod etholiad cyffredinol neu gyfnod etholiad y Senedd yn darparu dolenni i’r holl ganllawiau perthnasol.