Canllawiau

Awdurdodi ymgynghorydd elusen i anfon cyfrifon

Dweud wrth y Comisiwn Elusennau rydych chi am i gyfrifydd eich elusen neu ymgynghorydd arall anfon cyfrifon ar ran yr ymddiriedolwyr.

This guidance was withdrawn on

Applies to England and Wales

Pryd i anfon cyfrifon

Mae’n rhaid i chi anfon cyfrifon eich elusen i’r comisiwn bob blwyddyn os yw’n:

  • sefydliad corfforedig elusennol (SCE) - waeth beth fo’i incwm
  • elusen gofrestredig ac mae ei hincwm gros dros £25,000

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen sicrhau bod eu cyfrifon yn cael eu paratoi a’u hanfon o fewn 10 mis o ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gallwch chi:

Ymddiriedolwyr elusen: sut i roi awdurdod i’ch cynghorwr gyflwyno eich cyfrifon.

O leiaf diwrnod cyn rydych am i’r cynghorwr gyflwyno’r cyfrifon:

  1. cysylltwch â ni dros y ffôn

  2. rhowch gyfeiriad e-bost y trydydd parti dibynadwy a byddwn yn diweddaru eich cyfrif ar-lein

Pan fydd hyn wedi cael ei gwblhau bydd y cynghorwr yn gallu dilyn y camau nesaf i gyflwyno’r cyfrifon.

Ymgynghorwyr elusen: sut i anfon cyfrifon ar gyfer cleient sy’n elusen

Pan fydd cyfrifon yr elusen wedi’u paratoi a’u cytuno gan yr ymddiriedolwyr:

  1. cofrestrwch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn - cewch e-bost gyda manylion mewngofnodi a chyfrinair 8 nod
  2. mewngofnodwch - fe welwch restr o elusennau sydd wedi’ch awdurdodi i anfon eu cyfrifon
  3. cliciwch ar enw’r elusen i lanlwytho ei chyfrifon fel ffeil PDF.

Os nad ydych yn gweld elusen rydych yn disgwyl ei gweld, gofynnwch i’r elusen wirio ei bod wedi awdurdodi’r cyfeiriad e-bost cywir (yr un a ddefnyddioch chi i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth) o leiaf 1 diwrnod yn ôl.

Cyhoeddwyd ar 14 January 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 October 2017 + show all updates
  1. How to let us know if you want your charity’s accountant or other adviser submit accounts on trustees’ behalf.

  2. Added translation