Gofyn i CThEM gadarnhau bod gennych blentyn newydd a oedd yn effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth, a bod cael plentyn newydd wedi effeithio ar yr elw masnachu neu’r cyfanswm incwm y rhoesoch wybod amdano ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.
Pwy ddylai ddefnyddio’r ffurflen hon
Os nad ydych eisoes yn gymwys, defnyddiwch y ffurflen hon os oes gennych blentyn newydd sydd naill ai:
- wedi effeithio ar yr elw masnachu neu’r cyfanswm incwm y rhoesoch wybod amdano ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019
- yn golygu na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019
Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn hunangyflogedig yn ystod blwyddyn dreth 2017 i 2018 ac wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar neu cyn 23 Ebrill 2020.
Mae’n rhaid i chi fodloni’r holl feini prawf eraill.
Dewch o hyd i help a chymorth arall sydd ar gael i chi.
Os ydych eisoes yn gymwys ar gyfer y grant yn seiliedig ar eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer 2016 i 2017, 2017 i 2018 a 2018 i 2019, ni ddylech ddefnyddio’r ffurflen hon.
Pryd i ofyn i CThEM
Dylech ofyn i CThEM gadarnhau’ch gwybodaeth ar neu cyn 5 Hydref 2020. Mae hyn oherwydd gall dilysu cymryd hyd at 2 wythnos.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth – os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gyflwyno’ch hawliad
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad – os nad yw hwn gennych, gallwch gael gwybod sut i gael eich rhif UTR sydd ar goll
- eich rhif Yswiriant Gwladol – os nad yw hwn gennych, gallwch gael gwybod sut i gael eich rhif Yswiriant Gwladol sydd ar goll
Bydd angen i chi hefyd roi gwybodaeth a allai gynnwys:
- enw llawn a dyddiad geni’ch plentyn
- y dyddiad mabwysiadu
- eich rhif Budd-dal Plant
- rhif tystysgrif geni’ch plentyn
- os ydych yn hawlio Lwfans Mamolaeth
Gofyn i CThEM gadarnhau’ch gwybodaeth
Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes Dynodydd Defnyddiwr (ID) gennych, gallwch greu un pan fyddwch yn gofyn i CThEM.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, dylech gysylltu â CThEM am help.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Fe gewch gyfeirnod unigryw pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen, a dylech ei chadw ar gyfer eich cofnodion.
Bydd CThEM yn adolygu’ch gwybodaeth ac yn cysylltu â chi cyn pen pythefnos, i roi gwybod i chi a yw’ch gwybodaeth wedi’i dilysu ac os ydych yn gymwys i gyflwyno hawliad.
Cysylltu â CThEM
Gallwch wirio’r cymorth arall sydd ar gael i chi.
Rydym yn cael nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Ond gallwch gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.