Canllawiau

Gwneud cais i’r llys am orchymyn cyfraith deulu gyhoeddus

Gwasanaeth ar-lein i alluogi awdurdodau lleol i wneud cais am rai gorchmynion gwarchod plant.

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais am:

  • gorchmynion gofal a gorchmynion gofal interim
  • gorchmynion goruchwylio a gorchmynion goruchwylio interim
  • orchmynion gwarchod brys
  • orchmynion eraill o dan ran 4 Deddf Plant 1989

Gwneud cais am orchymyn

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn raddol drwy Gymru a Lloegr o’r 14eg o Fedi.

Pan fydd ar gael yn eich ardal, bydd angen ichi greu cyfrif ar gyfer eich awdurdod lleol, os nad oes gan yr awdurdod gyfrif eisoes.

I greu cyfrif bydd arnoch angen rhif cyfrif ffioedd GLlTEM yr awdurdod lleol i dalu am y cais.

Creu cyfrif

Os oes gennych gyfrif

Os oes gan eich awdurdod lleol gyfrif, gofynnwch i reolwr y cyfrif roi mynediad ichi.

Yna byddwch yn gallu mewngofnodi i wneud cais am orchymyn.

Ffyrdd eraill o gyflwyno cais

Gellir defnyddio’r ffurflen bapur C110A i wneud cais.

Postiwch y ffurflen a 4 copi i’r llys, ynghyd â’r canlynol:

  • unrhyw ddogfennau cefnogol
  • y ffi

Ni ellir trosglwyddo ceisiadau a gyflwynir ar y ffurflen bapur C110A i’r system ar-lein.

Ffioedd llys teulu

Dod o hyd i lys

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol sy’n cymryd rhan mewn achos diogelu plant a’ch bod, er enghraifft, yn cynrychioli’r rhieni neu barti arall, eglurir sut i weld y dogfennau yn yr achos a gweithredu arnynt yma.

Cyhoeddwyd ar 3 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 September 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. Added translation