Canllawiau

Gweld cais cyfraith deulu gyhoeddus ac ymateb iddo

Gwasanaeth ar-lein sy’n galluogi cyfreithwyr a chynrychiolwyr eraill i weld gorchmynion cyfraith gyhoeddus ac ymateb iddynt.

Dyma’r gorchmynion y mae’r gwasanaeth hwn yn eu cwmpasu:

  • gorchmynion gofal a gorchmynion gofal interim
  • gorchmynion goruchwylio a gorchmynion goruchwylio interim
  • gorchmynion gwarchod brys
  • gorchmynion eraill o dan ran 4 Deddf Plant 1989

Gall cyfreithwyr sy’n cynrychioli rhieni neu bartïon eraill ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

  • weld gorchmynion a chyfarwyddiadau
  • i lwytho dogfennau ynglŷn ag achos
  • i weld dogfennau a lwythwyd gan eraill
  • i gael hysbysiadau ynglŷn ag achos

Gweld gorchymyn neu ymateb iddo

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno’n raddol drwy Gymru a Lloegr o’r 14eg o Fedi.

Os ydych yn gynrychiolydd mewn achos sydd wedi ei gychwyn ar y gwasanaeth, bydd angen ichi greu cyfrif ar gyfer eich cwmni neu eich practis cyfreithiol.

Creu cyfrif

Os oes gennych gyfrif

Os oes gan eich cwmni neu eich practis cyfreithiol gyfrif, gofynnwch i reolwr y cyfrif roi mynediad ichi.

Yna byddwch yn gallu mewngofnodi i weld a rheoli achosion yr ydych yn ran ohonynt.

Os ydych yn gyfreithiwr awdurdod lleol

Os ydych yn gyfreithiwr awdurdod lleol, eglurir sut i wneud cais am orchymyn cyfraith deuluol gyhoeddus yma.

Cyhoeddwyd ar 3 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 September 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. Added translation