Canllawiau

Gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu ffurflen bost CA8480 i wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

Sut i wneud cais

Er mwyn gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i CThEF

Gallwch wirio sut i hawlio ad-daliad ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau o Yswiriant Gwladol.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad os gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol ac rydych yn credu eich bod wedi gwneud camgymeriad pan wnaed y taliad. 

Ni fyddwch yn gymwys i gael ad-daliad os yw’r gwall yn ymwneud â newid mewn amgylchiadau ar ôl i’r taliad gael ei wneud.

Gall ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol effeithio ar eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill.

Cyn i chi wneud cais am ad-daliad:

Pryd i wneud cais 

Dylech wneud cais cyn pen 6 blynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer. Er enghraifft, os ydych yn gwneud cais am ad-daliad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, dylech wneud cais cyn 6 Ebrill 2030. 

Os byddwch yn gwneud cais ar ôl 6 blynedd, bydd angen i chi gynnwys rhesymau dros eich cais hwyr pan fyddwch yn gwneud cais.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • y rhesymau pam rydych eisiau ad-daliad
  • enw’r person y dylid gwneud yr ad-daliad yn daladwy iddo (os nad chi yw hwn)

Gwneud cais ar-lein

I wneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan wnewch gais).

Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Gwnewch gais nawr

Gwneud cais drwy’r post

Gallwch wneud cais drwy’r post os ydych yn asiant neu ni allwch wneud cais ar-lein.

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwi ffurflen CA8480.

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn adolygu’ch cais.

Os bydd angen gwybodaeth bellach arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Gallwch wirio pryd i ddisgwyl ateb gan CThEF ar ôl i chi hawlio.

Os na chaiff eich cais ei gymeradwyo

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi y rhesymau pam na chafodd eich cais ei gymeradwyo.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo

Byddwn yn anfon siec atoch yn y post am eich ad-daliad.

Ar ôl i chi gael eich ad-daliad

Os oes gennych fudd-daliadau eraill (fel Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol), bydd angen i chi roi gwybod i’r adran sy’n talu’r budd-dal i chi eich bod wedi cael ad-daliad gan CThEF. Mae hyn oherwydd y gallai ad-daliad effeithio ar eich hawl i’r budd-dal hwnnw.

Cael help

Cysylltwch â CThEF os oes angen rhagor o help arnoch.

Gallwch ein ffonio ar +44 300 200 1900 os ydych y tu allan i’r DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Mai 2025

Argraffu'r dudalen hon