Canllawiau

Gwneud cais ar gyfer gorchymyn dirprwyaeth eiddo a materion ariannol

Defnyddiwch y canllaw hwn os ydych yn gyfreithiwr, yn weithiwr proffesiynol, yn awdurdod lleol neu eu cynrychiolydd, i wneud cais am orchymyn dirprwyaeth eiddo a materion ariannol

Gwneud cais am orchymyn dirprwyaeth eiddo a materion ariannol fel cyfreithiwr, gweithiwr proffesiynol, awdurdod lleol neu eu cynrychiolydd

Mae’r canllaw hwn ar gyfer defnyddwyr proffesiynol yn unig, cewch wybod sut i wneud cais i ddod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol i chi’ch hun.

I wneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol mae arnoch angen:

  1. Dweud wrth y person rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddo. Gofyn iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.

  2. Dweud wrth o leiaf 3 person sy’n gysylltiedig â’ch cais. Gofyn iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.

  3. Llenwi’r ffurflenni sy’n weddill.

  4. Cyflwyno’r ffurflenni ar-lein neu drwy’r post.

Dweud wrth y person rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddo

Rhaid i chi neu’ch cynrychiolydd ymweld â’r person a dweud wrthynt:

  • pwy sy’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt

  • bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu

  • beth fyddai cael dirprwy yn ei olygu iddyn nhw

  • ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais

Yn ystod yr ymweliad mae’n rhaid i chi roi iddynt:

  • y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) - bydd angen i chi lenwi adrannau hysbysu’r ffurflen ac fe allan nhw lenwi’r adran gydnabod os ydynt yn gallu

  • ffurflen gydnabod (COP5) - os ydynt yn gallu, bydd angen iddynt lenwi’r ffurflen hon os ydynt am wrthwynebu’r cais neu ddarparu tystiolaeth yn ei erbyn

  • unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’ch cais

Os ydynt yn gallu, dylent lenwi’r ffurflen o fewn 14 diwrnod. Os nad ydynt yn gallu, yna fe allwch anfon y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) yn ôl gyda’r adrannau hysbysu’n unig wedi’u llenwi.

Dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais

Rhaid i chi ddweud wrth o leiaf 3 person sy’n adnabod y person rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddo am eich cais. Er enghraifft, perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg y person.

Anfonwch atynt:

Gallwch ddweud wrthynt:

  • drwy’r post i’w cyfeiriad cartref

  • drwy e-bost

  • wyneb yn wyneb

Os na allwch ddweud wrth 3 o bobl, yna dylech anfon datganiad tyst (COP24) i’r Llys Gwarchod gyda’ch ffurflenni eraill.

Mae angen iddynt ddychwelyd y ffurflenni i chi o fewn 14 diwrnod iddynt eu cael. Os na fyddwch wedi cael y ffurflenni ar ôl 14 diwrnod, yna gallwch wneud cais hebddynt.

Ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi

Mae’r ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar p’un a ydych yn cyflwyno’r ffurflenni ar-lein neu drwy’r post.

Mae’n rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni o fewn 3 mis ichi ddweud wrth y bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais. Os na fyddwch yn gwneud hyn, yna bydd rhaid i chi ail-ddechrau’r broses.

Dylech gadw copi o bob ffurflen rydych yn ei llenwi ar gyfer eich cofnodion eich hun.

Mae angen i bob ceisydd lenwi:

Efallai na fydd y llys yn derbyn eich cais os na fyddwch yn anfon y ffurflen ‘asesu galluedd’ (COP3).

Os na allwch gael asesiad, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi datganiad tyst (COP24) i egluro pam rydych chi’n meddwl nad oes gan y person rydych chi’n gwneud cais ar ei gyfer alluedd meddyliol.

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni ar-lein

Disgwylir i gyfreithwyr, y rhai sy’n cynrychioli awdurdod lleol a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill gyflwyno eu ceisiadau ar-lein.

Os ydych wedi hysbysu’r unigolyn am eich cais, yna bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep).

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post

Bydd angen i chi hefyd anfon:

Cyflwyno eich ffurflenni ar-lein

Disgwylir i gyfreithwyr, y rhai sy’n cynrychioli awdurdod lleol a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill gyflwyno eu ceisiadau ar-lein. 

Os gwnaethoch hysbysu’r person am eich cais eich hun ac nad yw’r person wedi dychwelyd y ffurflenni atoch, nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw ffurflenni ychwanegol gan y byddwch yn ateb manylion y gwasanaeth ar-lein. 

Os hysbysodd asiant neu berson arall y person am eich cais, neu os dychwelodd y person a hysbyswyd y rhain atoch, bydd angen i chi gyflwyno y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep)

Byddwch angen eich Rhif Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) GLlTEF i dalu. Gwybodaeth am faint fyddwch angen talu

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post

Bydd angen i chi hefyd anfon:

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post, anfonwch y ffurflenni i’r Llys Gwarchod a chynnwys siec am y ffi gwneud cais. Gwybodaeth am faint fyddwch angen talu.

Y Llys Gwarchod / Court of Protection 
PO Box 70185 
First Avenue House 
42-49 High Holborn 
Llundain / London 
WC1A 9JA

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais ac yn dweud wrthych:

Gan amlaf, ni chynhelir gwrandawiad ar gyfer ceisiadau i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol. Os bydd un, yna bydd rhaid i chi dalu ffi. Gwybodaeth am faint fyddwch angen talu.

Mae’r canllawiau yn egluro beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad yn Y Llys Gwarchod.

Os bydd angen help neu gymorth arnoch

Gallwch gysylltu â’r Llys Gwarchod.

Y Llys Gwarchod 

courtofprotectionenquiries@justice.gov.uk 

Rhif ffôn: 0300 456 4600 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm 

Gwybodaeth am gostau galwadau

Cyhoeddwyd ar 25 April 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 April 2024 + show all updates
  1. Added a Welsh language version of the guidance

  2. First published.