Canllawiau

Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys sirol

Sut i wneud cais am orchymyn sy’n eich diogelu rhag cam-drin domestig, neu’r risg o gam-drin domestig, os oes gennych achos sifil parhaus mewn llys sirol gyda’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt.

Yn berthnasol i Loegr

Gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig

Gall gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig (DAPO):

  • atal rhywun rhag dod i’ch cartref neu’n agos ato
  • penderfynu pwy all aros yn eich cartref neu ddychwelyd iddo
  • gorchymyn bod yr unigolyn yn mynychu rhaglen newid ymddygiad
  • gorchymyn bod yr unigolyn yn gwisgo tag electronig i wirio eu bod yn cadw at amodau’r gorchymyn

Nid oes rhaid talu ffi’r llys i wneud cais.

Os nad oes gennych chi achos sifil parhaus mewn llys sirol gyda’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, rhaid i chi wneud cais i lys teulu yn lle hynny.

Darllen y canllawiau ar gyfer gwneud cais am DAPO mewn llys teulu

Pwy all wneud cais

Gallwch ond wneud cais am DAPO os yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn:

  • Manceinion Fwyaf
  • bwrdeistrefi Croydon, Bromley neu Sutton yn Llundain
  • Hartlepool, Middlesbrough, Redcar, Cleveland a Stockton-on-Tees
  • Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)

Os nad yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn un o’r ardaloedd hyn, gallwch wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu yn lle hynny.

Ble i wneud cais

Dim ond yn y llysoedd sirol canlynol y gallwch wneud cais:

Os yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn Sutton, gallwch wneud cais naill ai yn Croydon neu Bromley.

Efallai y bydd rhaid i chi deithio i un o’r ardaloedd hyn i fynychu gwrandawiad, hyd yn oed os nad ydych yn byw yno.

Os na allwch deithio i un o’r ardaloedd hyn, gallwch wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu yn eich llys lleol yn lle hynny.

Sut i wneud cais

Bydd arnoch angen llenwi:

Gallwch wneud cais am DAPO ar unrhyw adeg yn ystod eich achos llys sifil. Er enghraifft, os oes gennych anghydfod ynghylch arian neu eiddo gyda’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt y mae llys sirol eisoes yn delio ag o.

Rhaid i chi fod â chysylltiad personol â’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt. Er enghraifft, rydych:

  • yn briod neu’n bartneriaid sifil neu wedi bod yn briod neu’n bartneriaid sifil
  • mewn perthynas neu wedi bod mewn perthynas
  • yn perthyn

Cwblhau datganiad tyst ategol

Rhaid i chi ddweud yn eich datganiad tyst ategol pam eich bod eisiau gwneud cais am DAPO. Gallai hyn gynnwys y pethau y mae’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt wedi dweud neu wneud.

Rhaid i chi gynnwys:

  • dyddiad geni’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt (os yw’n hysbys)
  • cyfeiriad ar gyfer yr unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt
  • yr hyn yr hoffech i’r llys ei orchymyn
  • unrhyw beth arall yr hoffech i’r llys ei wybod

Gallwch ofyn i’r llys orchymyn bod yr unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt:

  • yn rhoi’r gorau i wneud rhywbeth
  • yn gwneud rhywbeth penodol
  • yn gwisgo tag electronig
  • yn mynychu rhaglen, er enghraifft rhaglen newid ymddygiad, rhaglen camddefnyddio sylweddau neu raglen iechyd meddwl

Gallwch ddefnyddio’r templed datganiad tyst ategol sydd ar gael yn ffurflen DA1.

Cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol

Os nad ydych am i’ch manylion chi neu fanylion eich plentyn gael eu rhannu â’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, yna ni ddylech eu cynnwys ar y ffurflen.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen C8 a’i hanfon i’r llys gyda’ch cais

Cyflwyno’r cais

Ar ôl i’r llys dderbyn eich cais, rhaid rhoi copi i’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt (oni bai bod y llys wedi cytuno i wrando ar eich achos heb roi gwybod iddynt). Gelwir hyn yn ‘cyflwyno cais’.

Os bydd y llys yn caniatáu gorchymyn, rhaid cyflwyno’r gorchymyn i’r unigolyn rydych angen cael eich diogelu rhagddynt.

Ni ddylech gyflwyno’r cais neu’r gorchymyn eich hun. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen D89 i ofyn i swyddog llys gyflwyno’r cais neu’r gorchymyn. Rhaid i chi anfon y ffurflen hon i’r llys gyda’ch cais.

Unwaith y bydd y cais neu’r gorchymyn wedi’i gyflwyno, rhaid i chi lenwi ffurflen N215 i ddweud wrth y llys:

  • i bwy y cyflwynwyd y cais/gorchymyn
  • yr hyn y cyflwynwyd iddynt

Amrywio neu ddiddymu gorchymyn

Dim ond os yw dal mewn grym y gallwch wneud cais i amrywio neu ddiddymu DAPO.

Rhaid i chi lenwi ffurflen N244 newydd a’i hanfon i’r llys sirol a wnaeth y gorchymyn.

Nid oes rhaid talu ffi’r llys i wneud cais.

Ble i anfon y ffurflenni

Anfon drwy e-bost

Gallwch anfon eich ffurflenni wedi’u llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol trwy e-bost i’r llys sirol sy’n delio â’ch achos sifil parhaus.

Rhaid i chi atodi un copi o bob ffurflen y byddwch yn ei hanfon.

Chwilio am fanylion cyswllt y llys sirol

Anfon drwy’r post neu ddanfon yn bersonol

Gallwch anfon eich ffurflenni wedi’u llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol i’r llys drwy’r post neu eu danfon yn bersonol.

Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon un copi o bob dogfen rydych yn ei hanfon.

Os oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon 3 chopi o bob dogfen rydych yn ei hanfon. Os ydych yn gofyn i’r llys orchymyn rhywbeth yn ymwneud ag eiddo, yna rhaid i chi bostio neu ddanfon 4 copi. Gallwch ofyn i’ch cynrychiolydd cyfreithiol wneud copïau.

Chwilio am fanylion cyswllt y llys sirol

Cael cymorth

Mae Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol (RCJ) yn cynnig cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig. Gallant eich helpu i ddod o hyd i gynghorwyr cyfreithiol i wneud y canlynol:

  • trafod eich opsiynau gyda chi
  • eich helpu gyda’ch cais

Rhagor o wybodaeth am sut y gall Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol eich helpu

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ebrill 2025 show all updates
  1. Added a Welsh version of the guidance. Added a new area and courts.

  2. Added new areas to the 'Who can apply' section.

  3. Added a new area and county court that you can apply to.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon