Ffurflen

Gwneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu: Ffurflen FL401

Gofyn i’r llys wneud gorchymyn i’ch amddiffyn chi ac unrhyw blentyn perthnasol rhag camdriniaeth neu aflonyddwch gan berson a enwir, neu eu hatal rhag byw yn eich cartref.

Dogfennau

Ffurflen gais: FL401

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Templed - datganiad i gefnogi eich cais

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch ddefnyddio ffurflen FL401 i wneud cais am:

  • Gorchymyn rhag molestu, sy’n eich amddiffyn chi ac unrhyw blentyn perthnasol rhag camdriniaeth neu aflonyddwch. Gall y gorchymyn hwn hefyd atal rhywun rhag dod i’ch cartref neu yn agos at eich cartref
  • Gorchymyn anheddu, pan fydd y llys yn penderfynu pwy ddylai fyw yn y cartref neu ddychwelyd i’r cartref, neu unrhyw ran ohono

Mae’r gorchmynion hyn yn fathau o waharddeb.

Nid oes rhaid talu ffi’r llys i wneud cais. Gallwch wneud cais am y naill orchymyn neu’r llall neu’r ddau orchymyn, gan ddibynnu ar eich sefyllfa.

Mae’r ffurflen yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad pellach i’ch helpu chi i gwblhau eich cais.

Mae’n rhaid i chi hefyd baratoi datganiad tyst. Mae ein templed wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y llys. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r templed hwn os byddai’n well gennych ysgrifennu eich datganiad eich hun. Fodd bynnag, efallai y bydd y cyfarwyddyd o gymorth i chi.

Os byddwch yn penderfynu ysgrifennu eich datganiad tyst eich hun, rhaid iddo gynnwys y ‘datganiad gwirionedd’ canlynol, yn ogystal â’ch llofnod a’r dyddiad:

Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud datganiad anwir, neu sy’n achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredu’n onest ei fod yn wir.

Cefnogaeth wrth wneud cais am orchymyn

Mae CourtNav yn adnodd ar-lein (a ddarperir gan Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol) a fydd yn eich helpu chi i gyflwyno eich cais. Bydd yr adnodd hefyd yn eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorwyr cyfreithiol i drafod eich opsiynau.

Ewch i CourtNav i gofrestru a gwneud cai

Os byddwch yn penderfynu defnyddio CourtNav, ni fydd angen i chi lenwi’r ffurflen FL401 hon neu ddarparu datganiad i gefnogi eich cais - bydd CourtNav yn gwneud hyn ar eich rhan.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.

  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.

  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).

  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Gofyn am fformatau hygyrch

Gallwch ofyn am:

  • fersiwn Braille

  • fersiwn print bras

  • fersiwn hawdd ei darllen

Gofyn am fformat hygyrch drwy e-bost - hmctsforms@justice.gov.uk

Microsoft Word

Yn gyffredinol, nid yw Microsoft Word yn addas ar gyfer ein dogfennau. Gallwch ond gofyn am drosi ffurflen PDF i fformat Word fel addasiad rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cewch ragor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn y canllawiau.

Cyhoeddwyd ar 10 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 December 2023 + show all updates
  1. Guidance for requesting accessible formats has been updated.

  2. Large print versions of the English and Welsh forms uploaded.

  3. Uploaded a new easy read version of the form and the template supporting statement

  4. Uploaded a new version of the FL401

  5. Added translation