Canllawiau

Apelio eich prawf gyrru

Gallwch apelio at lys ynghylch eich prawf gyrru os nad oedd eich arholwr wedi dilyn y gyfraith, ond ni ellir newid canlyniad eich prawf.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Gallwch apelio at lys os credwch na ddilynodd eich arholwr gyrru’r gyfraith ynghylch sut y mae’n rhaid iddynt gynnal profion gyrru.

Ni all y llys newid canlyniad eich prawf. Os byddwch yn ennill eich apêl, gallant benderfynu y dylech naill ai’n:

  • cael sefyll eich prawf eto am ddim
  • derbyn ad-daliad o ffi eich prawf

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol sylweddol os byddwch yn colli’ch apêl.

Mae’n fwy cyflym ac yn haws gwneud cwyn i’r Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau (DVSA) os oes gennych brawf na ddilynodd eich prawf y gyfraith.

Sicrhau bod gennych sail i apelio n erbyn y penderfyniad

Gallwch dderbyn cyngor cyfreithiol i’ch helpu i sicrhau a oes gennych sail i apelio.

Gallwch apelio os na ddilynodd eich arholwr gyrru’r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau fel:

  • ni wiriodd yr arholwr eich golwg ar ddechrau’r prawf
  • fe wnaethoch dreulio llai na 30 munud ar y ffordd
  • ni ofynnodd yr arholwr i chi wneud ymarfer bacio
  • ni ofynnodd yr arholwr y cwestiynau ‘dangoswch i mi, dywedwch wrthyf’

Ni allwch apelio os na chyflawnwyd rhywbeth oherwydd i’r arholwr ddod â’r prawf i ben oherwydd bod eich gyrru’n beryglus.

Gwiriwch y darnau hyn o ddeddfwriaeth i gael y rhestr lawn o’r hyn roedd yn rhaid i’ch arholwr gyrru ei gynnwys:

Rhesymau na ddylech apelio

Ni fydd eich apêl yn llwyddiannus os:

  • ydych yn anghytuno â chanlyniad eich prawf
  • ydych yn anghytuno â barn eich arholwr gyrru
  • ydych yn credu nad oedd yn deg bod yr arholwr wedi nodi camsyniad peryglus neu ddifrifol
  • nad oeddech yn hoffi eich arholwr gyrru
  • oeddech yn teimlo’n sâl yn ystod y prawf
  • oedd eich car wedi torri i lawr yn ystod y prawf
  • oedd defnyddiwr arall y ffordd wedi gwneud rhywbeth o’i le ac na wnaethoch ymateb iddo’n gywir

Mae proses wahanol i wneud cwyn ynghylch eich arholwr gyrru, er enghraifft, os oeddech yn meddwl eu bod yn anghwrtais i chi. Ni all y DVSA newid canlyniad eich prawf.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Mae sut rydych yn apelio yn erbyn y penderfyniad yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

Lloegr a Chymru

Cysylltwch â’ch llys ynadon lleol o fewn 6 mis ar ôl eich prawf gyrru i apelio yng Nghymru a Lloegr.

Yr Alban

Cysylltwch â’ch llys sirol lleol o fewn 21 niwrnod ar ôl eich prawf gyrru i apelio yn yr Alban.

Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi

Dywedwch wrth y llys eich bod am apelio am eich prawf gyrru o dan adran 90 y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.

Os byddwch yn apelio yn erbyn canlyniad prawf cymhwyso fel ADI, mae angen i chi apelio o dan adran 133 y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn lle hynny.

Pan fyddwch yn llenwi unrhyw ffurflenni llys ynghylch pwy rydych yn apelio yn ei erbyn (‘y diffynnydd’), defnyddiwch y manylion hyn:

Central Policy
DVSA
1 Unity Square
Nottingham
NG2 1AY

Pan fyddwch yn apelio, bydd o gymorth os byddwch yn esbonio:

  • pa adran o’r gyfraith na ddilynodd yr arholwr gyrru
  • ym mha fodd na ddilynodd yr arholwr gyrru’r gyfraith

Mynd i’r apêl

Bydd y llys yn ysgrifennu atoch gyda’r manylion ynghylch pryd y cynhelir y gwrandawiad. Bydd y llythyr yn dweud wrthych beth i’w wneud ar y diwrnod.

Bydd barnwr, ynad neu siryf yn gwrando ar eich apêl yn y llys.

Gallwch ofyn i gyfreithiwr i’ch cynrychioli yn y gwrandawiad, ond fel arfer bydd yn rhaid i chi eu talu.

Bydd y llys fel arfer yn gwrthod eich apêl os na fyddwch yn mynd i’r gwrandawiad.

Rhoi tystiolaeth

Efallai y gofynnir i chi:

  • sut rydych yn meddwl na ddilynodd yr arholwr gyrru’r gyfraith yn ystod eich prawf
  • rhoi tystiolaeth
  • ateb cwestiynau am eich prawf (a elwir yn ‘groesholi’)

Yn y mwyafrif o achosion, bydd gan y DVSA gynrychiolydd cyfreithiol yn y llys. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd yr arholwr gyrru yn y gwrandawiad hefyd i roi tystiolaeth ac ateb cwestiynau.

Yr hyn sydd angen i chi ei ddangos i’r llys

Mae angen i chi brofi ei bod yn fwy tebygol na pheidio na ddilynodd yr arholwr gyrru’r gyfraith.

Derbyn canlyniad eich apêl

Fel rheol bydd y llys yn dweud wrthych am ganlyniad eich apêl ar ddiwedd y gwrandawiad.

Os byddwch yn ennill eich apêl

Ni all y llys newid canlyniad eich prawf os byddwch ychi’n ennill eich apêl.

Bydd yn dyfarnu y dylech naill ai:

  • cael sefyll eich prawf eto am ddim
  • derbyn ad-daliad o ffi eich prawf

Bydd y DVSA yn cysylltu â chi os byddwch yn ennill eich apêl.

Os byddwch yn colli’ch apêl

Bydd angen i chi drefnu a thalu am sefyll eich prawf gyrru eto os byddwch yn colli’ch apêl.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol sylweddol os byddwch yn colli’ch apêl.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2022 show all updates
  1. Updated the address details to use for DVSA when filling in any court forms.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon